Main content

Hanes Caneuon Rhaglen 1

(nodiadau yn addasiad o wybodaeth a geir yn "Canu’r Bobol" gan Huw Williams)

Andrew Matthews - Enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Sir Gâr

Yr Ornest

Cân i denor neu fariton gan William Davies (gweler dan ""), ar eiriau gan Edward Edwards ("Morwyllt", 1839-1921), bardd gwlad o Langefni. Ar ôl i bobl fel Robert Rees (Eos Morlais) a Lucas Williams anfarwoli’r gân, daeth yn boblogaidd iawn erbyn ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwerthwyd miloedd o gopïau ohoni, ac aeth i nifer o argraffiadau.

Y Marchog

"Cân Wladgarol" fel y disgrifir hi ar dudalen flaen y copi. Mae’r geiriau gan y Parchedig John Lodwick, a’r gerddoriaeth gan Joseph Parry (gweler dan ""). Cyhoddwyd yn gyntaf gan D.M. Parry, Penarth, ac yna gan D.J. Snell, Abertawe.

Cymru

Cân i fariton gan R.S. Hughes (gweler dan ""), a’r geiriau gan W.J. Parry, Bethesda.

Pwy fel Fy Mam

Cân i soprano neu denor gan T. Amos Jones, a’r geiriau gan Ieuan Glan Geirionydd. Cyhoeddwyd yn y Rhyl gan James Dowell a’r Fab yn 1895.

Baner Ein Gwlad

Unawd i denor neu fariton gan Joseph Parry (gweler dan ""), a’r geiriau gan Mynyddog. Yn ôl Daniel Protheroe, roedd Joseph Parry yn llygad-dyst i’r Rhyfel Cartref yn America, ac mae’r gân "Baner Ein Gwlad" yn addasiad Cymraeg gan Mynyddog o "The American Star" a gyfansoddwyd gan Joseph Parry tra yn America.

Ynys y Plant

Unawd i soprano gan E.T. Davies (gweler dan "") ar eiriau gan Elfed. Gwobrwywd y gân yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909, a’i chyhoeddi gan Hughes a’i Fab yn 1910. Fe’i cyflwynywd i’r soprano Amy Evans a oedd yn adnabyddus fel cantores boblogaidd yn ei dydd.

Tyrd Oleu Mwyn

Cân gysegredig gan D. Pughe Evans (gweler dan ""), gyda geiriau Saesneg gan Henry Newman "Lead kindly light", a chyfieithiad Cymraeg gan Elfed. Yn ôl Idris Lewis, Tyrd Oleu mwyn oedd cân orau D. Pughe Evans a’r ‘gân gysegredig orau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr o Gymro’.

Cytgan Y Pererinion

Teitl llawn y cytgan ar gyfer lleisiau meibion gan Joseph Parry yw "Cytgan Y Pererinion Ar Eu Ffordd Tua’r Groes". Cyfansoddwyd yn ystod ei gyfnod yn Abertawe (1881-88) ar eiriau gan David Adams. Dewiswyd yn un o ddarnau prawf i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, pan oedd 10 o gorau yn cystadlu, a pharhaodd y gystadleuaeth am 5 awr! Y côr buddugol oedd Côr Pont-y-cymer, gyda Gwilym Thomas fel unawdydd. Yn ei gofiant, dywed Joseph Parry taw llais y datganwr hwn oedd ganddo yn ei feddwl pan luniodd yr unawd yn y cytgan.

Dolenni Perthnasol