Gŵyl Art That Made Us: Sut i gymryd rhan
7 Hydref 2021
Croeso i Å´yl Art That Made Us, partneriaeth gyffrous rhwng amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau ac orielau ynghyd â’r Â鶹Éç i gyd-fynd â darlledu cyfres fawr newydd sy’n archwilio ein hanes creadigol. Mae’r Å´yl – rhwng dydd Gwener 1-30 mis Ebrill 2022 – yn gyfle i gynulleidfaoedd archwilio’r creadigrwydd syfrdanol sy’n cael ei gynnal mewn casgliadau ledled y DU. Yma, cewch wybod sut y gall eich mudiad neu sefydliad gymryd rhan.
Cymryd Rhan
Mae Gŵyl Art That Made Us yn hanes diwylliannol newydd mawr yn Ynysoedd Prydain, gan archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Mae’n olrhain naratif cyffrous a dadleuol, sy’n canolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus: mudo cyson a’r goncwest yn ein hanes cynnar; trawma’r Pla Du yn yr Oesoedd Canol; cynnwrf crefyddol y Diwygiad; y Rhyfel Cartref; y Chwyldro Diwydiannol; twf syfrdanol y ddinas yn ystod y 19eg Ganrif a rhaniadau rhwng gwlad a thref; ac effeithiau rhyfel byd yn yr 20fed ganrif ar y cenedlaethau; diwylliant ieuenctid yn herio'r hen sefydliad a thwf cymdeithas amlddiwylliannol.
Bydd Gŵyl Art That Made Us yn rhedeg ochr yn ochr â’r gyfres o ddydd Gwener 1-30 mis Ebrill 2022. Mae’r Â鶹Éç yn gweithio gyda detholiad eang o randdeiliaid o bob rhan o’r DU gan gynnwys Art Fund, Art UK, Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol, Libraries Connected, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cyngor Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol a Chyngor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yr Alban.
Rydym yn gwahodd amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau i drefnu digwyddiadau i archwilio hud creadigrwydd gan ddefnyddio eitemau yng nghasgliadau’r DU. Gall digwyddiadau gael eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallant gael eu trefnu o’r newydd neu gall sefydliadau diwylliannol roi lle i rai sy’n bodoli eisoes. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Culture24 a fydd yn rhestru holl ddigwyddiadau Art That Made Us ar Museum Crush. a fydd yn rhestru holl ddigwyddiadau Art That Made Us a
Eich sefydliad sy’n gyfrifol am gynnwys y digwyddiadau. Gallai fod yn ddadl neu’n brif araith, yn berfformiad neu’n weithdy ymarferol gan ddefnyddio eitem o’ch casgliad fel man cychwyn.
Rydym yn gobeithio cynnwys amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifau o bob cwr o’r DU, ac rydym wrth ein bodd bod cynifer o sefydliadau eisoes wedi cytuno i gymryd rhan. Mae’r rhain yn cynnwys y Llyfrgell Brydeinig, Centre for Contemporary Art in Derry/Londonderry, Oriel a Stiwdio FE McWilliam, Amgueddfa a Gerddi Horniman, MOMA Machynlleth, Llyfrgell ac Archif Orkney, Amgueddfa ac Oriel The Potteries, Amgueddfa Forwrol yr Alban, Amgueddfa Fitzwilliam, Amgueddfeydd Derby a’r VacA a VacA Dundee. Gobeithio y gallwch ymuno â nhw.
I gymryd rhan, cofrestrwch fel Partner Gŵyl Art That Made Us i gael mynediad at frandio a derbyn cylchlythyrau rheolaidd am yr ŵyl.
Mae’r gyfres yn llawn o straeon am arloeswyr, tarfwyr ar y drefn a gweledigaethwyr, a oedd yn ymateb i ddigwyddiadau mawr ac yn ailddiffinio ein celfyddyd a’i phosibiliadau. Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau diwylliannol o radd flaenaf y DU yn helpu i adrodd mwy fyth o straeon sy’n seiliedig ar eitemau yn eu casgliadau eu hunain.
Beth allwch chi ei wneud?
Mae Gŵyl Art That Made Us yn gyfle i dynnu sylw at rai o’r trysorau yn eich casgliadau i atgyfnerthu bod celf a chreadigrwydd wrth galon ein bywydau i gyd.
Rydym yn gwahodd sefydliadau diwylliannol i drefnu digwyddiadau gan ddefnyddio eitem o’u casgliadau fel man cychwyn. Gall fod yn ddigwyddiadau newydd neu’n rhai sydd eisoes yn bodoli, a gallant ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Er enghraifft, gallech gynnig:
- Sgwrs ar wrthrych yn eich casgliad gan guradur, ceidwad, artist lleol neu wirfoddolwr
- Teithiau o amgylch eich casgliad
- Gweithdai neu ddosbarthiadau gydag artistiaid lleol neu grefftwyr sy’n gysylltiedig â gwrthrych penodol
- Arddangosfeydd o gynnwys wedi’i adeiladu o amgylch gwrthrych
- Perfformiadau mewn oriel
- Arddangosiadau o wrthrych, llyfr, artist neu awdur
Art That Made Us
Mae Art That Made Us yn gyfres ddogfen newydd o bwys sy’n archwilio ein hanes creadigol a gallwch ei gwylio ar Â鶹Éç Two yn Gwanwyn 2022.
Mae’r gyfres yn archwilio sut mae gweithiau celf, llenyddiaeth, dylunio a cherddoriaeth o bwys wedi helpu i siapio ein stori greadigol. Gan ganolbwyntio ar waith celf a ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnodau cythryblus, mae pob rhaglen yn edrych ar yr hyn maen nhw’n ei ddatgelu am drobwynt yn ein hanes.
Rhanddeiliaid yr ŵyl
Yn ogystal â , mae’r Â鶹Éç yn cysylltu â grŵp allweddol o randdeiliaid i weithio gyda’r sector celfyddydau ar y lefel ehangaf ac i sicrhau bod yr ŵyl yn adlewyrchu amrywiaeth ein gwledydd.
Cofrestrwch i gymryd rhan yng Ngŵyl Art That Made Us
-
Cofrestrwch yma
Bydd angen i chi roi manylion eich sefydliad.
Defnyddio archif y Â鶹Éç
Bydd y Â鶹Éç yn anelu at ddarparu mynediad at ddetholiad o asedau archif i’w defnyddio gan Bartneriaid yr Å´yl ar thema eang ‘creadigrwydd’. Bydd y rhain ar gael i ychwanegu at eich digwyddiadau neu’ch cynnig digidol, drwy ddefnyddio cynnwys ar wefannau’r Â鶹Éç neu, mewn rhai achosion, ddeunydd penodol y gallwch ofyn amdano gan Archif y Â鶹Éç. Bydd y cynnwys ar gael i’w ddefnyddio yn ystod cyfnod yr Å´yl.
Os oes darn penodol o gynnwys (radio, teledu, dogfennau neu ddelweddau) yr hoffech ei ddefnyddio o archif y Â鶹Éç, byddwn yn ymchwilio i weld a oes modd sicrhau ei fod ar gael i chi ar gyfer eich digwyddiad Gŵyl Art That Made Us. Ar ôl i sefydliadau gofrestru fel Partner, byddwn yn esbonio sut mae mynd ati i ofyn am y deunydd.
Bydd y Â鶹Éç hefyd yn anelu at weithio gyda phartneriaid dethol yr Å´yl i gynhyrchu straeon ac erthyglau penodol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ddefnyddio cynnwys dethol o archif ac offer y Â鶹Éç yn MakerBox Ymchwil a Datblygu’r Â鶹Éç (/makerbox). Bydd syniadau ar gyfer straeon addas yn cael eu cyflwyno gan Bartneriaid yr Å´yl i’r Â鶹Éç a bydd y rhai a ddewisir yn gweithio gyda thîm Cynnwys a Phartneriaethau Archif y Â鶹Éç i greu erthyglau a phrofiadau ar-lein i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn defnyddio archif y Â鶹Éç, cofrestrwch fel Partner yr Å´yl.
Dod yn Bartner yr Å´yl
- Cofrestrwch fel partner yma - bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd drwy ein Cylchlythyr, yn cael gwybodaeth am sut i ddefnyddio archif y Â鶹Éç, ac yn cael mynediad at frand yr Å´yl
- Cytuno i’r Telerau ac Amodau
- Rhowch eich digwyddiad ar gronfa ddata fel y gellir ei restru ar Museum Crush, y llwyfan adrodd straeon cydweithredol
Offer MakerBox
Dewch â’ch straeon yn fyw gan ddefnyddio:
- Canvas (offeryn i greu amserlenni sgrolio, sy’n lliwgar a deniadol, yn gallu cynnwys amrywiaeth eang o asedau, gan gynnwys fideos, sain, gifs, delweddau a dogfennau)
- Storyformer (offeryn adrodd straeon hyblyg Ymchwil a Datblygu’r Â鶹Éç ar gyfer profiadau gweledol personol)
- Audio Orchestrator (offeryn sain gofodol Ymchwil a Datblygu’r Â鶹Éç sy’n trawsnewid mannau gwrando yn seinweddau tri dimensiwn drwy ddyfeisiau symudol)
Enghreifftiau o gynnwys archif wedi’i greu gan bartneriaid
-
Stori wedi’i chreu gan Wasanaeth Llyfrgell Gorllewin Sussex gan ddefnyddio Â鶹Éç Canvas.
-
Stori wedi’i chreu gan Amgueddfa Henffordd gan ddefnyddio Â鶹Éç Canvas.
-
Stori wedi’i chreu gan Live Life Aberdeenshire gan ddefnyddio Â鶹Éç Canvas.
More from Â鶹Éç Arts
-
Picasso’s ex-factor
Who are the six women who shaped his life and work?
-
Quiz: Picasso or pixel?
Can you separate the AI fakes from genuine paintings by Pablo Picasso?
-
Frida: Fiery, fierce and passionate
The extraordinary life of Mexican artist Frida Kahlo, in her own words
-
Proms 2023: The best bits
From Yuja Wang to Northern Soul, handpicked stand-out moments from this year's Proms