Cerddi Rownd 3
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Plesio’r Cwsmer
Gwenoliaid
O, dyma ti yn dwad
a ryw g诺yn dan ges’el eto;
er dy fod yn hollol rong,
ti’n reit – sa i fod i blêto!
Hannah Roberts 8
Beirdd Myrddin
Os Milan sy â’i miliynau, – ar bwys
y mae’r bêl a’r lleisiau,
â’n lliw ni’n ein llawenhau,
ein trysor yw’r terasau.
Garmon Dyfri 8.5
Cynigion ychwanegol
“Ein cynnyrch sydd o safon,
cewch fomio’r lle yn deilchion,
a rhown ni’r cyfan ichi’n rhad
os ddaw ‘na daliad prydlon.”SP
Derbyniwch fy niolch, g诺r Tiveyside Lodge,
am wychder arbennig eich croeso;
croeso bron cystal â chroeso eich gwraig –
efallai y gwelwch ni eto.HR
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘coed’
Gwenoliaid
50 mlynedd ers marwolaeth Waldo
Dan wybren ffyrnig heno,
i’r coed clymwn gerddi’r co’.
Steffan Phillips 9
Beirdd Myrddin
Am glefyd byd, druan bach,
rhown goed fel darn o gadach.
Lowri Lloyd 9
Cynigion ychwanegol
Haenau o gylchoedd henoed
yw ein cân, fel yn y coed.HaR
Angladd yn India
Cyn tanio’r coed rwy’n oedi
un eiliaid hir, a’i gweld hi.HuR
Hawliwn ein coed a’u deilach,
hawliwn fyd y funud fach. GR
Anelai’r c诺n nôl i’r coed
i ddatrys colled ddeutroed.AE
Yn fy mhen ieuengaf mae
‘na goed yn llawn esgidiau.AE
Tu draw’r coed a’m maboed mae
‘na henaint rhwng canghennau.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n bwysig lleihau allyriadau’
Gwenoliaid
Eleni mi droiodd y pleidiau
yn radical â’u polisïau;
mi geisiodd y Greens
roi ban ar baked beans –
mae’n bwysig lleihau allyriadau.
Steffan Phillips 8.5
Beirdd Myrddin
“Mae’n bwysig lleihau allyriadau
o’m gwartheg,” medd Dewi Bryngolau.
“Os rof hufen iâ
yn eu ffîd yn lle ffa,
bydd ffrwyn ar y fflach o’u ffolennau.”
Ann Lewis 8
Cynigion ychwanegol
Mae’n bwysig lleihau allyriadau
sy’n llygru’r holl fyd yn ddiamau;
awgrymaf roi hosan
yng ngheg pob politisian
fel rhywle da gallwn ni ddechrau.JMT
Mae’n bwysig lleihau allyriadau
o wartheg yn ôl canfyddiadau
gwyddonwyr; ond sut,
â phethau mor sâl,
mae rhwystro yr holl ollyngiadau?HR
‘’Mae’n bwysig lleihau allyriadau,
mae gormod o fflipin sillafau.
Beth am iwsio ‘gwynt’
er mwyn arbed print?’’
medd Clint o’r Adran Gynaliadwyedd.AE
Mae’n bwysig lleihau allyriadau
a gwarchod yr haul a’i belydrau
torri gwastraff sy raid
a hynny’n ddi-baid;
dwi o blaid ailgylchu limrigau.AL
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘Ry’ ni, o bawb, wedi troi’n hen bobol’
Gwenoliaid
“Ry’ ni, o bawb, wedi troi’n hen bobol
dawel,” meddaist, dros y coctêl meddwol
o gwrw, rhegi, canu egnïol,
twrw’r rhai iau yn tyrru o’r heol.
Ni’n troi sha thre’n hamddenol – yn teimlo
bod ni, heno, a’r byd yn wahanol.
Judith Musker Turner 9.5
Beirdd Myrddin
Bob Dylan, oedd yn 80 ar Fai 24ain
Daw’r haul i aros drwy’r awel heriol
yn rhydd i oedi’n y gân freuddwydiol,
ac os Bob Dylan fu’r llais gwahanol
ry’ ni, o bawb, wedi troi’n hen bobol;
er rhegi yr hen rigol – wrth ganu,
awn i’r yfory’n y drefn arferol.
Geraint Roberts 9.5
5 Triban beddargraff perchennog siop chwaraeon
Gwenoliaid
Mewn pwmpau blingaidd sgleiniog
i’w arch Adidas sdreipiog
mewn trowsus leicra tynn ei feic
tan amdo Nike odidog.
Huw Chiswell 8.5
Beirdd Myrddin
Perchennog Siop Griced
Ei siop fu’r un brysura’
pan heriai’r Sais Awstralia,
ond nawr ac yntau yn y nef,
ei ludw ef yw’r dynfa.
Garmon Dyfri 8.5
Cynigion ychwanegol
Mi aeth â’r bin bargeinion
yn gwmni i’r entrychion
ond meddai’r Iôr, ar ben y daith,
“Gwisg gwaith sydd i’r angylion”.
Bu farw gydag urddas;
gwnaed iddo goffin addas
- un lledr du a ai’n fwy clou
trwy roi tair streip Adidas.AE
Bu farw Mr. Dickie
rôl cau ei siop am gwici,
ac aeth i’r nen ar ganol swoosh
‘da Nush y rep o Nike.AE
Perchennog Siop Feics
I’w feicwyr rhoddodd sbardun
a nerth ym mhob cyhyryn,
ond cymrodd ddos o’i gynnyrch hud:
ar sbîd yr aeth i’w derfyn.GD
6 Cân ysgafn: Ail Gyfle
Gwenoliaid
(i dôn Llwyn Onn)
Wrth giwio’i glwb Voodoo ‘rôl bolied o gwrw,
yng nghanol y twrw mi welais i hi.
Jemeima o’r ysgol, fy nghrysh o’r gorffennol,
breuddwydiais yn ddyddiol cael cwtsho ‘da hi
yn glyd fel dau bringl, a nawr ma’ hi’n singl,
mi deimlais ryw dingl yn mynd drwof fi.
Hwn oedd fy ail gyfle ‘rôl oes o ddiodde’
ei gweled ym mreichie y diawl o E-ly.
Tawelais fy nerfe â phymtheg o siotie
a’n syth aeth fy nghoese yn wobli i gyd.
Peth nesa’ dwi’n cofio ‘rôl hyn yw dihuno
i’r bownsers yn llusgo fi mas ar fy hyd.
Roedd pawb ar y pafin yn bloeddio eu chwerthin
a fi yn un lwmpyn yng nghanol y stryd.
I ffwrdd mewn rhyw dacsi ‘da rhacsyn o’r Barri
aeth ‘run dwi’n ei charu, diflannodd o ‘myd.
Steffan Phillips 8.5
Beirdd Myrddin
Ga’ i fod yn rhywun heblaw fi fy hun,
rhywun nad yw e’ yn Gymro bach blin.
Dim byw yn gyson mewn cyflwr o siom
a diawlio Syr Bryn am ganu’n y Prom.
Dim dechrau chwyldro ar ôl saith peint o ‘Bow
a chwerthin am ben rhyw ddysgwr bach slow.
Dim gorfod poeni am beth wnes noson gynt
wrth gerdded y maes yn ‘Steddfod y Fflint.
Dim celfi cegin sy’n dweud wrtha’ i lle
i gadw y COFFI, SIWGWR a’r TE.
Dim canu caneuon fel hen Skibereen
am nad oes ‘da ni rai Gwyddelig ein hun.
Dim Beti a’i Phobol a dim Dewi Sant
na mynd i Gilmeri i frênwasho’r plant.
Dim llefen fel babi trwy’r gân Colli Iaith;
anghofio Tryweryn - dim ond am un waith?
Dim cicio’r gath gan ddweud pethau brwnt
am nad oes rhyw Sais yn gallu dweud Mwnt.
Ond Cymro bach ydwyf, er un digon gwael,
hynny a fyddaf, ‘sdim ail gyfle i’w gael.
Aled Evans 9
7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Mae’n annheg nad ydym ni’
Gwenoliaid
Mae’n annheg nad ydym ni
Yn ddawnus am farddoni
Huw Roberts
Beirdd Myrddin
Mae’n annheg nad ydym ni
Yn Ewrop â’n baneri.
Ann Lewis 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Weithiau
Gwenoliaid
Dihuno wnaf i’r un mis gwag o hyd -
dalen wen sy’n rhifo’r dyddiau
dan glo,
ffenestri bach dan bapur
nad oes ei godi na’i grafu’n ôl
i weld beth oedd tu hwnt i’n gafael
ym mudandod dwys y mis hwnnw,
cyn y misoedd wedyn.
Dyliwn droi’r ddalen glaf,
mae’n dymor gwell
a’r dyddiau’n dechrau agor
fel coflaid rhwng cawodydd Mai.
Ac eto, ar fore llwm a’r llenni ‘nghau,
mi wn fod blwydd ohonom
yn eisiau.
Catrin Haf Jones 9
Beirdd Myrddin
(cydwybod)
Weithiau â’r dydd yn gwaredu’i golur
ar wlân cotwm y nos,
a’i fasgara ar wasgar,
rwy’n ei weld fel amrant coll
yn y minlliw llaith.
Nid yw’n aros yn hwy na chusan
nac yn staenio boch,
ond eto gwn y bu yno
yn rhyw ‘ôl’ y methais
wrth luchio’r cadach brwnt ola
i fin fy mhentwr manion.
Weithiau â hithau’n wawr lân-groen,
esmwythaf law ar hyd pob grudd,
dim ond weithiau,
bob ryw hyn a hyn,
cyn cydio’r brws
a phaentio trwch arall
i’w gadw’n gudd.
Lowri Lloyd 9
9 Englyn yn cynnwys enw un o adar y d诺r
Gwenoliaid
De Wallen – red light district Amsterdam
Eto mae hi’n lluchio’i llen - ar agor
i hogie De Wallen,
ac o’i nos ddu daw’r bluen;
i olau’r chwant alarch wen.
Steffan Phillips 9
Beirdd Myrddin
Cofeb Dic Evans, dyn bad achub
Bob awr dros lanw’r bore – ac i’r hwyr
sylla’n graff o’i greigle,
silwét sy’n asio i’w le
a mulfran glannau Moelfre.
Geraint Roberts 9