Cerddi Rownd yr Wyth Olaf
1 Trydargerdd: Cyfarchiad ar y Radio
Y Ffoaduriaid
I fy Mam-gu sy’n gant a deg
a wnewch chi chwarae cân?
Er nad yw’n gallu clywed lot
mae’n hoff iawn o Wil Tân.
Gwennan Evans 8.5
Crannog
Ar adain cân i’ch canol anfonaf
fy enw fel gwennol
ac ar gangen adre’n ôl
yn y sain rwy’n bresennol.
Philippa Gibson 9
Cynigion Ychwanegol
Ceri, a fyddet ti'n meindio
llongyfarch mewn ryw awr
dîm y Ffoaduriaid
ar eu buddugoliaeth fawr.
"Cydymdeimlad i fam Joni"
gan bawb o Ysgol Llandygai
am i'r lockdown ddod a phrofi
NAD yr ysgol oedd ar fai.
Cân y babis, Dafydd a Caryl
Drwy Daf a Caryl cei sylw ledled
y wlad, bydd hi'n ferw
o blant a'u halibalw
i diwn Gymraeg dy enw.
Tydi John o dîm Crannog
ddim yn hoffi technoleg,
felly danfonodd o Nico
i ganu'i delyneg.
(Ar gyfer plant)
Dwedodd Cyw a’i ffrind Sam Tân
Golchwch chi eich dwylo’n lân
Cadw draw yn ddigon pell
Ac fe ddaw na ddyddiau gwell.
Hiraethu’r wyf am neuadd fach
i drin a thrafod geirie,
oherwydd mae recordio’n strach
o dan y blincin dwfe.
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘prynhawn’ neu ‘pnawn’
Y Ffoaduriaid
On’d oedd fel tasa'r dyddiau'n
un pnawn hir, pan o'n ni'n iau?
LlÅ·r Gwyn Lewis 9
Crannog
Y prynhawn sy’n poeri’n ôl
eiriau’r briwio boreol.
John Rhys Evans 9.5
Cynigion Ychwanegol
Mae'r pnawn yn iawn, ond mae'r nos
a'i wenwyn cymaint anos.
"Wyf fymryn yn hÅ·n bob pnawn..."
...gŵr reflective, Gruff lockdown.
Pwniwr yobs bob pnawn yr wyf.
Bwriadus golbiwr ydwyf!
O! na chawn 'rhen brynhawniau
haf yn ôl i'w hail-fwynhau.
Poen nid oes fel un pnawn dig
â dyflwydd bach dieflig!
Bwriadwr bore ydwyf.
Â'r pnawn yn hir, hepian wyf.
Tipyn yn well yw te pnawn
Hector pan nad yw'n lockdown.
Oes amgen rhwng pnawn Gwener
a dydd Llun? ...mae hynny'n her.
Ar y Groes sy’n goroesi,
un prynhawn bu’n prennau ni.
Pnawn yw, ond mae poen y nos
A’m rhwyga’n dod mor agos.
Heb fargod i’n cysgodi
rhag haul y pnawn, be wnawn ni?
Y mae bwlch heb gemau byw,
pnawn Sadwrn poenus ydyw.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Roedd rhai ar y stryd am gael parti’
Y Ffoaduriaid
Mi dreiglais i 'J' yn dra harti;
mae rhai ar y stryd am gael parti.
Os na 'da chi'n coelio
bod 'j' wir yn treiglo
dewch heno, i drïo niam tart-i.
Gruffudd Owen 8.5
Crannog
A’r feirws efallai’n tawelu
Roedd rhai ar y stryd am gael parti.
Ond tybiai Rhif Deg
A Rhif Un-ar-ddeg
Mai doethach ei gynnal yng Nghymru.
Gillian Jones 8.5
Cynigion Ychwanegol
Roedd rhai yn y stryd am gael parti,
ac felly ymunais yn harti.
Roedd hynny’n annoeth:
Ar ôl sosej or-boeth,
drwy drannoeth mi o’n i’n reit ffarti.
Roedd rhai ar y stryd am gael parti,
yn ddiogel, â phawb yn eu gerddi
ond rôl diod neu ddau
doedd dim ymbellhau
a phawb yn mwynhau mewn un orji.
Roedd rhai ar y stryd am gael parti
‘Rôl danto ar hunan-ynysu,
Cael rhyddid i gwtsho
i danco, a thwtsho,
O! – beth am ei gynnal e ‘fory‘
Roedd rhai ar y stryd am gael parti
Mae V.E. yn beth i’w drysori
Nid gweithred o fost
Wedi profiad mor dost
Ond gwybod y gost tae ni’n colli.
‘Roedd rhai ar y stryd am gael parti,
Cacennau a chwifio baneri
Ac eraill yn dweud
Mai dwli oedd gwneud,
Mai ail ddechrau’r rhyfel oedd hynny.
‘Roedd rhai ar y stryd am gael parti ’
Medd Boris, ‘Mae angen rhoi start-i
Fasnachu drachefn.
Dewch mewn trwy’r ardd gefn
Os ych chi yn gwybod ble ma’r tÅ·.’
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ar ras i gyrraedd y drws agored’
Y Ffoaduriaid
Ar ras i gyrraedd y drws agored
o dÅ·'r hen wreigan, dwi'n gwrthod paned;
yn rhoi f'esgus pam na chymra'i fisged;
yn ddi-ofal o sancteiddrwydd yfed
ei hoffrwm, heb amgyffred - poen modryb
na wnes ei hachub o'i phnawn o syched.
Gruffudd Owen 9.5
Crannog
Ar fy mhedwar ymgripiwn o’r pared
Ar ras i gyrraedd y drws agored,
Yn hogyn ifanc roedd gwin i’w yfed
Ac yn y galon hogen i’w gweled;
Yn eofn o ddiniwed, – i glust iau
Tu hwnt i gloeau roedd tant i’w glywed.
Idris Reynolds 9
5 Pennill telyn o fawl neu ddychan: Hyfforddwyr Ffitrwydd
Y Ffoaduriaid
Arwr glew yr wythnos gynta,
gwnaet i ninnau wlychu’n nics.
Bellach gyfaill, rwyt ti’n dechra
myned rywfaint ar ein Wicks.
LlÅ·r Gwyn Lewis 8.5
Crannog
Rwy’n addoli eu cyhyrau,
Yn enwedig y deltoidau
Ac fe’u cawn petawn i’n farus
Wedi rhostio gyda mintys.
Eirwyn Williams 8.5
Cynigion Ychwanegol
Er i ti geisio, gyfaill triw,
fy annog i gyflymu,
mae’n anodd mynd i fyny’r rhiw
â’r esgid fach yn gwasgu.
Nid y gwersi beunos, beunydd,
Nid ymarfer ym mhob tywydd,
Nid y rasio na’r treiathlon
Mewn corff iach sy’n torri calon.
Wrth fy ffon rwy’n gweld eu heisiau
Cans stiffhau mae’r cefn a’r coesau,
Ond mae’n rhyfedd pa mor heini
Yw’r hyfforddwyr dan y meini.
Canwn foliant yn un côr.
Adferodd hon ein pelvic floor!
Mae’n bolie’n fflat fel y Sahara...
tan y cawn ein babi nesa.
Mae dy fideos diflas, dyddiol
yn anharddu llif fy ffrwd.
Llun o gîsh neu dorth fanana
sy’n cael croeso lot mwy brwd.
Mae dy wylio di yn plancio
yn hen ddigon i fy nhwymo.
Wedyn pull-ups, lunges, squats.
Dwi dal yn dew ond does dim ots.
Er it orchymyn downward dog
drwy bicselau'r sgrîn,
mae'n well gen innau fwyta crips
ac eistedd ar fy nhîn.
Codi pwysau oedd yr her
osodaist im. Ond sori,
rywsut nesh i dy gamddallt
a'm pwysau sy di codi.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Hanfodion
Y Ffoaduriaid
Mi boenwn basa Mrs Jones drws nesa yn ypset:
cynigiais helpu efo’i negas: ‘na, dim diolch – dwi’n all set.’
Ond daeth rhestr siopa maes o law: torth...iawn... tri thun o sŵp...
er, dwnim pa mor ‘hanfodol’ oedd y jin a’r cantalŵp...
Mi es i ddwywaith rownd y byd i ganfod iddi flawd,
ond wrth ofyn am y compost, pwshio’i lwc wnâi’r wreigan dlawd.
Rhyw ffisig o’r fferyllfa? ‘Dim ond hufen peils fel arfer...’
Protestiais wrth ei brynu nad i mi yr oedd – yn ofer.
A wir i chi, peth nesa, awydd bongos yr oedd hi,
a thrwmped mariachi mawr, a choler neis i’w chi;
Ac mi gymrodd yn ei phen-hi ei bod isio gong, a gordd,
er mwyn clapio’r NHS yn uwch na Mrs Jones dros ffordd.
Rhaff sgipio; ffliwt; deluxe hot tyb; a keg o Gwrw LlÅ·n –
bu raid mi gymryd ffyrlo o’r gwaith i ddelio â’i hordors bob un.
‘Dwisio lampau gwres’ – A! at yr ardd? – ‘Na – rhowch nhw yn yr atig...’
Dim rhyfadd bod hi wastad mor... wel... chill ac ymlaciedig.
Yn diwedd, do, mi wylltiais un nos Sul wrth weld meinabs
yn piciad allan yn yr haul am decawê kebab!
Maddeuwch imi, felly, am hiraethu’n ddigywilydd
am oes pan doedd cymdogion byth yn gweld na helpu’i gilydd.
LlÅ·r Gwyn Lewis 9
Crannog
Pan gododd Duw un diwrnod a dweud, ‘Dw i am greu dyn’,
ni fu yn deg wrth rannu talente i bob un.
Yn wir, bu Boi y Nefoedd yn damed bach yn llym;
os rhoddodd lot i rywrai, ni roddodd i fi ddim.
Ers tro mae gen i freuddwyd i fod yn TV star
ond pa ryw obeth sgen-i â fi heb gael fy siâr?
Dw i ddim yn gallu gwenu trwy’r dydd fel Mari Grug
na chanmol pob un gwestai heb swnio braidd yn ffug.
Dw i ddim fel Ifan Evans – sy’n feistr ar gael gwaith;
does gen i’m cryse ffansi na dim Fferm Ffactor chwaith.
Ac na, nid wyf Rhys Meirion – does gen i’m llais ytôl;
er anfon sawl un angel, nid y’n nhw’n dod yn ôl.
Ond wedyn pe ddigwyddwn i ddod o hyd i ddawn
dw i ddim, a bod yn onest, yn ffotogenig iawn.
Er hyn i gyd fe gofies fy mod i’n nabod dyn
sy’n ffrind i gefnder rhywun sy’n nabod ambell un
sydd digwydd bod yn gweithio mewn swyddfa yng Nghaerdydd
ac roedd yn digwydd gwbod am job neu ddou sy’n rhydd.
Ac felly, fy nghyfeillion, achubieth a ges i;
dw i nawr yn comisiynu rhaglenni’r Â鶹Éç.
Endaf Griffiths 8.5
7. Ateb Llinell ar y pryd
Y Ffoaduriaid
Yn ddihyder mi ddwedaf
Yn ôl i’r ysgol yr af
Gethin Davies 0.5
Crannog
Yn ôl i’r ysgol yr af
Yn un o’r bechgyn hynaf
Idris Reynolds 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Didoli
Y Ffoaduriaid
Steddais wrth yr union fwrdd hwn
un haf yn ôl, yn helpu llunio rhestr
gwesteion priodas gyda’m chwaer
ac ro’n i’n daer mai dyma’r dasg anodda fu.
Torri teulu a ffrindiau i lawr i gant o enwau.
‘Pwy dwi’n eu licio orau?’ meddai.
‘Ar bwy dwi’n fodlon gwario wyth deg punt ar swper?
Pwy neith brynu presant da?
Pwy dwi ddim yn meindio’n gafael am fy ochra
wrth sefyll tu ôl i mi yn gwneud y conga?’
Heddiw, tyrchais y rhestr o hen focs
o luniau priodas, cardiau, hances boced,
y dagrau hapus wedi sychu bellach,
a cheisio ei dorri i lawr i ddeg.
Sut mae dewis pwy oedd yn ei charu fwyaf?
Sut mae gwybod pwy fedra i ddiodde’u gwylio’n crio
o ochr arall stafell
heb allu eu cysuro?
Llio Maddocks 9
Crannog
Yn nyddiau’r pla ac amser ar ein dwylo
awd at y cwpwrdd llyfrau mwy-na-llawn
ac yno buom wrthi yn anwylo
cyfrolau na châi le i anadlu’n iawn.
A theimlo chwithdod wnaem wrth sylweddoli
fod ambell un na welem fyth drachefn,
ond rhaid oedd bwrw ‘mlaen ac ymwroli
gan dderbyn nad yw hyn ond rhan o’r drefn.
Mewn pentwr mae y rhai a gollir, megis,
a fu’n eu hoes mor ddisglair yn eu dysg,
eu cloriau bellach braidd yn hen a bregus;
roedd hefyd rai diweddarach yn eu mysg.
Ond caiff y gweddill gyfle i heneiddio
yn ôl ar silffoedd wedi’u saniteiddio.
drwy estyn imi enfys o dy law.
Idris Reynolds 10
9 Englyn: Mwgwd
Y Ffoaduriaid
Bu hwn ar fy wyneb i - yn rhy hir,
ac mae'r wên sydd arni
ond yno i’th dwyllo di.
Dan y mwgwd dwi'n mogi.
Gruffudd Owen 10
Crannog
Mae hances gor-gynhesu yn dynnach
amdanom ac felly
pan awn mas i’r ddinas ddu
am egwyl, mae’n ein mygu.
Philippa Gibson 9.5
Cynigion Ychwanegol
Boi clên, oedd bob tro’n gwenu; hen foi grêt
efo gwraig a theulu.
Neb oll wedi dallt y bu
dan y mwgwd yn mygu.
Rhag trueni, rhag taerineb eu gwên,
rhoi gwisg o sirioldeb
sy’n haws na dangos i neb:
cau llen rhag colli wyneb.
(Cariadon ifanc mewn parc)
Er gorchudd deunydd rhwng dau, mi gawsom
gusan. Roedd mor denau
a diniwed ag edau
drwy rwyg oer ein byd-ar-gau.
Oedaf; os mynd i mhocedi yn hael
(er talu fy nhrethi'n
barod), ai esgusodi
eu methiant nhw ydw i?
O’r ymyl dan we’r rhwymyn ar awr ddu
rhyddhawyd llygedyn
i ddweud y byddai wedyn,
ryw fore iach, haul ar fryn.