Main content

Rheolau Cystadleuaeth Tommo

Rheolau Cystadleuaeth Tommo

1. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys Ynysoedd y Sianel AC Ynys Manaw ag eithrio'r rhai sy'n gweithio i'r 麻豆社 neu 麻豆社 Group, eu perthnasau ac unrhyw un sy'n gysylltiedig a'r gystadleuaeth.

2. Gellir cystadlu drwy ffonio y rhif yma: 03703 500 500. Dim ond ar y ffôn y bydd modd cystadlu. Bydd côst galwadau yn unol a chyfraddau daearyddol ar gyfer llinellau arferol a galwadau symudol. Rhaid i gystadleuwyr o dan 16 gael caniatâd rhiant i gystadlu.

3. (a). Bydd y gystadleuaeth, fel arfer, yn cael ei chynnal yn ddyddiol ar raglen Tommo - Dydd Iau tan Dydd Gwener rhwng 1400 a 1700. Bydd y llinellau ffôn ar agor rhwng 1400 a 1440. Bydd cystadleuwyr yn defnyddio eu sgil a'u gwybodaeth i adnabod darn o gan yn cael ei chwarae gan Brian yr Organ. Bydd rhagor o gliwiau yn cael eu cyflwyno yn ystod y rhaglen, hynny yw darn hirach o'r gan. Bydd enw'r enillydd yn cael ei ddewis ar hap a bydd yn cael cyfle i siarad gyda Tommo.

(b). Bydd y gwrandawyr yn ateb cwestiwn gwybodaeth gyffredinol wedi ei seilio ar faterion y dydd. Bydd y llinellau ffôn ar agor rhwng 1600 a 1640. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap ac yn cael cyfle i siarad gyda Tommo. Bydd yr enillydd yn dewis rhif rhwng 1 ac 20 ac yn ennill gwobr gudd y tu ôl i'r rhif hwnnw.

4. Bydd rhaid i bob cystadleuydd roi eu henw, cyfeiriad a rhif ffôn. Ni fydd y 麻豆社 yn defnyddio gwybodaeth bersonol i unrhyw bwrpas arall heblaw gweinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd y 麻豆社 yn cyhoeddi manylion personol nag yn eu darparu i unrhyw un arall heb ganiatâd yr unigolyn dan sylw. Mae'r 麻豆社 yn cydymffurfio a'r Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth 1988. Am ragor o wybodaeth ynglyn a'r modd y mae'r 麻豆社 yn defnyddio eich gwybodaeth ewch i

5. Yr enillydd yw'r cystadleuydd sydd wedi ei ddewis ar hap o'r holl atebion cywir. Bydd staff y rhaglen yn rhoi gwybod i'r cyflwynydd yn syth a bydd y gwrandawyr yn clywed fod y llinellau wedi cau. Bydd yr enillydd yn cael cyfle i siarad gyda Tommo ar y rhaglen.

6. Y gwobrau fydd
(a) pecyn o nwyddau rhaglen ‘Tommo' a
(b) gwobrau fydd yn amrywio rhwng Taten Tommo i radio ddigidol.
Bydd y gwobrau yn cael eu danfon drwy'r post i'r enillydd.

7. Mae penderfyniad y 麻豆社 ynglyn â phwy yw'r enillydd yn derfynol. Ni fyddwn yn llythyru ynglyn a'r penderfyniad.

8. Os nad oes modd cysylltu a'r enillydd yna mae'r 麻豆社 yn neilltuo'r hawl i gadw'r wobr.

9. Gall cystadleuwyr wrthod bod yn rhan o unrhyw gyhoeddusrwydd sydd ynghlwm wrth y gystadleuaeth.

10. Mae'r 麻豆社 yn neilltuo'r hawl i newid neu ganslo'r gystadleuaeth pe byddai angen gwneud hynny (ym marn y 麻豆社) neu oherwydd amgylchiadau tu hwnt i reolaeth y 麻豆社.

11. Drwy gystadlu bydd cystadleuwyr yn derbyn ac yn ymrwymo i reolau'r gystadleuaeth.

12. Mae'r 麻豆社 yn neilltuo'r hawl i wahardd unrhyw gystadleuydd sydd dan amheuaeth o dwyllo.

13. Mae'r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd a Chanllawiau'r 麻豆社 yn ymwneud a chystadlaethau a phleidleisio, gweler

14. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan y 麻豆社. Y gyfraith berthnasol yw cyfraith Cymru a Lloegr.