| |
|
|
|
| | | |
Creithiau'r Streic Fawr - 100 mlynedd yn ddiweddarach... |
|
© 麻豆社 | Dyna beth ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol. Dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain, - anghydfod sy'n dal i atsain hyd heddiw.
Protestiodd rhai dynion am y cyfyngiad ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth o'r lleoliad; cerddodd y gweddill allan,- bron 3,000 ohonyn nhw.
Cafodd tua 400 eu denu nol i'r gwaith, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog; fe ddaethon nhw i gael eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi hysbysiadau yn eu ffenestri yn dweud: "Does dim bradwr yn y ty hwn".
Llusgodd y misoedd yn eu blaen. Cafwyd rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg - a rybuddiai'r protestwyr i wasgaru gan awdurdodi defnyddio grym yr heddlu neu hyd yn oed grym militaraidd petai raid - ei darllen ar un achlysur. Yr un pryd cynhaliodd yr undeb a pherchennog y chwarel, yr Arglwydd Penrhyn, ymgyrchoedd croes calonnau a meddwl byd eang trwy golofnau'r papurau newydd, a fu’n dilyn yr anghydfod â chryn ddiddordeb.
Ond yn y diwedd, nid y calonnau na'r meddyliau a ddatrysodd y mater, ond stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn ôl i'r gwaith ym Mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal i fod heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi para'n gryf am dair blynedd a saith mis.
Words: Grahame Davies
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|