麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Work
Bwcle – Llestri a Llafar

Jar tybaco
Jar tybaco (sgraffito), a wnaed yng Nghrochendy Hayes, Bwcle (19eg ganrif)
© Canolfan Treftadaeth Bwcle
Yn y 19eg Ganrif, roedd nifer o bobl o’r tu allan o’r siroedd ar y ffin a Swydd Stafford yn dal i symud i mewn i’r ardal, ond roedd prif ddiwydiannau Bwcle yn dechrau cwrdd ag anawsterau. Wrth gloddio am lo, gwelwyd bod nifer o’r gwythiennau wedi eu disbyddu, a daeth yn angenrheidiol i gloddio am lo mewn mannau tipyn dyfnach.

Roedd masgynhyrchu llestri a dysglau enamel, a datblygiad y system rheilffordd a wnaeth y nwyddau hyn yn haws eu cael, yn dechrau bod yn fygythiad i fusnesau llestri pridd Bwcle, - busnesau gâi eu rhedeg gan deuluoedd. Tynnodd dau Ryfel Byd yn yr 20ed Ganrif weithwyr i ffwrdd o Fwcle i’r rhengoedd blaen, gan leihau’r nifer o grochendai teuluol i ddim ond dyrnaid.

'Llestr o grochenwaith wedi ei addurno â llithriadau gyda chynllun sgraffito o aderyn a mwydyn, a wnaed yng Nghrochendy Brookhill, Bwcle, tua 1640-1670'
'Mae’r dechneg sgraffito yn cael ei gynhyrchu trwy roi côt slip o glai hylif dros gorff y llestr cyfan. Pan fydd mor galed â lledr, caiff cynllun ei grafu trwodd i ddatgelu corff o liw cyferbyniol y llestr sydd oddi tano.’
© Canolfan Treftadaeth Bwcle
Parhaodd rhai crochendai fel Crochendy Hayes, a sefydlwyd ym 1740, i gynhyrchu crochenwaith Bwcle gan barhau yn eiddo i’r un teulu nes iddo gau yn y 1940au. Penderfynodd eraill, fel Crochendy Powell, y Crochendy mwyaf ym Mwcle hyd 1914, i newid eu llinell gynhyrchu i weithio mewn peirianneg a phlastigau.

Bu i Grochendy Sharret, a ddaeth i fod yn ‘The Art Pottery Co.’ ac yna J. Lamb & Sons gael ei gau yn gynnar yn y 1940au gan adael odyn o grochenwaith heb ei grasu. Daeth mab y perchennog yn ôl o’r rhyfel ym 1946, taniodd yr odyn gan grasu’r crochenwaith oedd ar ôl. Wedi iddo gael ei grasu, gwelwyd ei fod o ansawdd ardderchog, a dyma’r llwyth olaf o grochenwaith i gael ei gynhyrchu ym Mwcle.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Shropshire
Canal and barge
Related Stories
y plant a weithiai yn y crochendai
Hel atgofion am weithfeydd briciau Bedford.
Blacledio a channu yn y diwydiant les.




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy