| |
|
|
|
| | | |
Coch Bach y Bala – ‘Yr Houdini Cymreig’ |
|
Enillodd diangfeydd niferus 'Coch Bach Y Bala' y llys enw 'Yr Houdini Cymreig' iddo. Consuriwr a dihangwr oedd Houdini a enillodd enwogrwydd am ei orchestion mentrus, yr un cyfnod ag roedd 'Coch Bach' yn gwneud ei ddiangfeydd niferus o'r carchar.
© Prifysgol Cymru, Bangor & Casglu’r Tlysau Cyf | Cipiodd Houdini a'r 'Coch Bach' ddychymyg y cyhoedd. Mae diddordeb y cyfryngau a'r cyhoedd yng nghampau'r lledrithiwr modern David Blaine yn dangos pa mor gyfareddol rydyn ni'n ystyried campau sy'n dangos dewrder, p'run ai yw'r digwyddiadau wedi eu llwyfannu ai peidio.
Mae storïau am y rhai sy'n gwrthwynebu'r system, boed y rheiny'n ddihirod neu'n arwyr, yn cipio dychymyg pobl gyffredin, fyddai efallai’n breuddwydio am ffoi i fyd gwell, gan herio'u cyfyngiadau personol a phroffesiynol eu hunain.
Darparodd 'Coch Bach y Bala' i'r cyhoedd yn lleol ac yn genedlaethol symbol gwrthryfelgar o obaith, a nifer o straeon gafaelgar i'w mwynhau yn y bar neu ar yr aelwyd. Roedd y rhai a brynodd gerdyn post o'i angladd yn meddu ar yr allwedd i realiti bywyd y Coch Bach, - mewn angau, does dim dianc. Roedd hyn yn rhywbeth roedd yr awdurdodau yn Ninbych, mae'n debyg, yn awyddus i'w hybu fel rhybudd i unrhyw un a ystyriai ddilyn yn ôl ei droed.
Gyda diolch i Garchar Rhuthun & Cyngor Sir Ddinbych
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|