| |
|
|
|
| |
Boddi Cantre'r Gwaelod wedi ei ddarlunio gan Margaret Jones © Margaret Jones a Robin Gwyndaf
|
| | |
Cantre'r Gwaelod - Tir Coll Cymru |
|
Un noson, tua 600 OC, fe chwythodd storm i fyny o'r de orllewin, yn gyrru llanw'r gwanwyn yn erbyn waliau'r môr. Roedd y gwyliwr penodedig, Seithennyn, a oedd yn yfwr trwm ac yn gyfaill i'r Brenin, mewn parti ym mhalas y Brenin ger Aberystwyth. Mae rhai yn dweud iddo syrthio i gysgu oherwydd iddo yfed gormod o win neu ei fod yn rhy brysur yn cael hwyl i sylwi ar y storm a chau'r llifddorau.
Cafodd gatiau'r dwr eu gadael ar agor, a rhuthrodd y môr i mewn i foddi tir y Cantref, gan foddi dros 16 o bentrefi. Llwyddodd y Brenin a rhai o aelodau ei lys i ddianc trwy redeg i ddiogelwch ar hyd Sarn Cynfelin; gorfodwyd i Gwyddno Garanhir a'i ddilynwyr adael y tir isel ac ennill bywoliaeth dlotach ar fynyddoedd ac yn nyffrynnoedd Cymru.
© 麻豆社 | Mae fersiwn arall, mwy masweddus, yn mynnu mai Brenin lleol ar ymweliad oedd Seithenyn, a oedd, ar adeg y storm, â'i fryd ar ddal sylw'r forwyn brydferth Mererid, oedd yng ngofal y llifddorau. Gan i Seithennyn fod yn llwyddiannus yn ei berwyl, doedd Mererid, felly, ddim yn gallu cau'r gatiau, a boddwyd y tir.
Mae'r chwedl wedi ysbrydoli nifer o gerddi a chaneuon drwy'r oesau. Credir ei bod yn cael ei chrybwyll gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin, llyfr sy'n 750 mlwydd oed. Ysgrifennwyd y Llyfr Du, a enwyd ar ôl lliw ei glawr, yn 1250, a chynhwysai gerddi a deunydd llawer hŷn, oedd yn berthnasol i ddigwyddiadau o ganrifoedd ynghynt, yn cynnwys cerdd am Cantre'r Gwaelod.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|