麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

18 June 2014
Accessibility help
Text only
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
Erthygl
Lluniau
 Fideo
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 
Gogledd Orllewin Cymru

Clip Title: Dyfyniad allan o 'A Love Affair with Life'
© 

Non-embedded Player
Clips: [ 1 ]
Description

Clip fideo allan o 'A Love Affair with Life' am Syr Clough Williams-Ellis a Phortmeirion, a gyflwynir gan Wyn Thomas

Troslais - Wyn Thomas

"Yn y toreth hwn o bensaernïaeth, sut mae'n llwyddo i sicrhau addasrwydd a phriodoldeb? Pa ddyfeisiadau gweledol mae'n eu defnyddio i ddisgyblu'r fath gynfas orlawn?"

Troslais - Syr Clough Williams-Ellis

"Wel, rydw i'n credu bod unrhyw olwg yn cael ei harddu gan ffrâm rannol neu flaendir, yn union fel darlun. Rydw i wedi gwneud hyn mewn gwirionedd dros y lle, oherwydd y nifer o adeiladau â'u ffenestri cymharol ffurfiol - y ffenestri wedi eu trefnu mewn patrwm, yn gymharol normal. Ac yna, rydw i wedi rhoi ffenestr i'r pwrpas hwnnw'n unig. Mewn gwirionedd, mae rhai ohonyn nhw â lensys ynddyn nhw, gan greu golwg gywasgedig, oherwydd y byddai'n gadael llafn o olau haul i mewn, neu gallwch edrych i fyny ar nenlinell arbennig, neu unrhyw beth arall. Mae pobl yn siarad am ffenestri pictiwr, nawr mae'r rhain yn beth y gallech eu galw'n ffenestri pictiwr miniatur, dim ond portyllau bychain."

Troslais - Wyn Thomas

"Bob man yn y byd 'sioe sbecian' hwn a greodd, caiff y llygad ei ddal gan faglau cyfrwys dyn sioe pensaernïol. Mae'n dewis yr olygfa, mae'n gosod y llwyfan, ac yna mae'n ei fframio mewn prosceniwm o'i wneuthuriad ei hun.

Troslais - Syr Clough Williams-Ellis

"Drwy gydol fy mywyd, rydw i wedi cael y twnneli byrion hyn o dywyllwch cymharol, sy'n arwain i ddisgleirdeb ymddangosiadol y tu hwnt iddyn nhw, yn gyffrous a dymunol. A theimlad cyfforddus o amgaead wrth basio trwodd."

Troslais - Wyn Thomas

"Yma, mae Syr Clough Williams-Ellis yn dweud ei fod wedi gweithredu'r hyn, fel pensaer, mae wedi bod yn ei bregethu trwy gydol ei fywyd hir. Gall y wybodaeth yma fod yn rhan o Wefan y Cyngor ei adeiladau fod yn siriol, yn lliwgar ac hyd yn oed yn gyffrous, ac eto'n dal i fod yn ymarferol."


Print this page
English
Interact
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.

Ewch i Ryngweithio >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
South West Scotland
Threave Castle, Galloway
Related Stories
From factories into flats - the story of Ancoats's regeneration
Transforming a mill town into a world famous model community
A divided home




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy