麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Huw Edwards

Hunllef Huw - beirniaid didalent!

Talu teyrnged er gwaethaf cael cam

Atgofion am feirniaid didalent a chael cam ar garreg ei ddrws ei hun oedd gan Huw Edwards pan ymwelodd 芒 maes yr Eisteddfod heddiw.

Cyflwynydd News at Ten yw llywydd y dydd heddiw ac yr oedd yn hael ei ganmoliaeth i waith yr Urdd - er gwaethaf ambell i siom bersonol.

Chwerwder
"Dwi'n parchu amcanion yr Urdd a dwi'n parchu gweithgaredd yr Urdd ac fel plentyn ysgol fe f没m i'n aelod am flynyddoedd a do, mae'n rhaid imi ddweud, gydag ychydig o chwerwder, fe f没m i'n cystadlu sawl gwaith.

"Ond yn anffodus yr oedd yna feirniaid didalent iawn oedd yn methu gweld dawn a thalent

"Felly, yn y gystadleuaeth piano yn Llanelli chefais i ddim hyd yn oed llwyfan - meddyliwch hynny ar fy aelwyd fy hunan!" meddai.

"Y beirniad oedd rhyw Mr Evans ac rwy'n cofio hynny hyd heddiw.

"Ond fe enillo ni yn y ddrama - yn Eisteddfod Llanelwedd dwi'n meddwl - felly rwyf wedi blasu rhywfaint o lwyddiant yn yr Urdd.

"Ond ar 么l siom enfawr Llanelli wnes i ddim cystadlu eto ar y piano - ond rwy'n dal i chwarae'r darn gartref ; darn gan Beethoven, Sonata in G Minor, a dwi'n meddwl erbyn heddi y byddwn i wedi cael llwyfan wedi sawl blwyddyn o bracteiso."

Wrth dalu teyrnged i weithgarwch yr Urdd dywedodd:

"Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi bod dan anfantais oherwydd nad oes yna sefydliadau mawr sydd wedi bod yn hybu Cymreictod tan yn ddiweddar iawn - mae'r 麻豆社 yn un ohonyn nhw, y Steddfod a'r Brifysgol ac yn y blaen - ond pan ydych chi'n edrych ar yr Urdd, wel mae r么l yr Urdd wedi bod mor bwysig.

"A phan ydych chi'n edrych ar y gwaith y mae'r Urdd wedi ei wneud gyda phobl ifainc ar draws Cymru am ddegawdau , wel mae gen i'r parch mwyaf tuag at y gwaith hwnnw ac felly am y rheswm hynny yn bennaf mae'n bleser mawr gen i fod yma," meddai.

Gwella Llanelli
Cyfeiriodd hefyd at ddatblygiadau yn Shir G芒r gan gynnwys cynllun i adnewyddu'r arfordir yn Llanelli:

"Ac mae yna le," meddai, "i adnewyddu strwythur Llanelli. Mae Caerfyrddin a thipyn o sglein ar y dref ac mae'n bach o siom fod Llanelli yn y cyflwr mae e ar hyn o bryd.

"Ond mae yna lot o waith da ac mae Meryl Gravell yn gwneud lot o waith da o safbwynt adnewyddu tref Llanelli ac mae hynny'n destun balchder mawr i mi ac rwy'n falch iawn i fod yn rhan o'r cais am arian er mwyn codi canolfan ddiwylliant newydd ar safle sydd yn agos iawn i'r hen waith dur," meddai.

Rhagor am Huw Edwards


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy