Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»
Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Huw Edwards

Llywydd dydd Gwener

Huw Edwards - wyneb y newyddion

Mae Huw Edwards yn un o brif gyflwynwyr Newyddion y Â鶹Éç ac yn cyflwyno'r rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar Â鶹Éç 1 yn ogystal â rhaglen awr am 5pm ar Â鶹Éç News 24.

Fe'i magwyd yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, ac aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli. Graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru, Caerdydd cyn mynd ymlaen i fod yn gyflwynydd ar orsaf radio fasnachol, Sain Abertawe.

Yn 1984 ymunodd â chynllun hyfforddi'r Â鶹Éç a chymryd ei gam cyntaf tuag at fod yn newyddiadurwr.

Rhwng Mai 1999 ac Ionawr 2003, cyflwynodd y newyddion am chwech o'r gloch ar Â鶹Éç 1 ac yn 2002 enwyd ef yn brif gyflwynydd y rhaglen newyddion am ddeg o'r gloch ar y Â鶹Éç, y rhaglen sy'n cael ei gwylio gan y nifer fwyaf o bobl ym Mhrydain.

Mae hefyd wedi cyflwyno a chyfrannu at nifer o raglenni eraill fel Newsnight, Panorama a rhaglenni noson etholiadau.

Yn 2003 gwnaed ef yn Gymrawd ym Mhrifysgol Cymru, ac yn 2005 daeth yn Athro er Anrhydedd mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn Noddwr y Coleg Cerdd Cenedlaethol.

Mae'n organydd ac yn bianydd ac ar un adeg a'i olwg ar fynd yn bianydd cyngerdd proffesiynol.

Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni yn ymwneud â chrefydd, cerddoriaeth glasurol, a rhaglenni am yr iaith Gymraeg.

Mae'n briod a chanddo bump o blant. Mae'n byw gyda'i deulu yn Llundain.

Meddai Huw, "Bum yn cystadlu lawer gwaith yn Eisteddfod yr Urdd. Enillais gyda grŵp drama Ysgol Ramadeg Llanelli ddwywaith! Mae cael bod yn Llywydd y Dydd yn bleser anghyffredin yn enwedig gan fy mod i'n cael dod adref i Sir Gâr - y sir orau yng Nghymru o bell ffordd!" meddai.



About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý