Cyhoeddwyd mai'r enillwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanerchaeron a fydd yn cael gwahoddiad i Å´yl Gymreig Disneyland Paris yw:
- Carys Evans o Dalgarreg, Ceredigion, Unawd Bl 2 ac iau.
- Glesni Rhys Jones o Fodedern, Ynys Môn, Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4.
- Rhys Meilyr Jones o Langefni, Ynys Môn, Unawd Bl 5 a 6.
- Rhydian Jenkins o Faesteg, Morgannwg Ganol, Unawd Bechgyn Bl, 7, 8 a 9.
- Sam Ebenezer o Dalybont, Aberystwyth, Ceredigion, Unawd Allan o Sioe Gerdd Bl 10 a than 19.
Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a Disneyland Paris yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd y llynedd gydag ymweliad cyntaf Mickey Mouse a'r Eisteddfod.
Un o'r pump a gafodd fynd i Disneyland y llynedd oedd Sophie Rudge, 14 o Aberystwyth.
"Roedd yn anhygoel i gael canu yn Disneyland Paris. Roedd yn brofiad gwych - a dwi'n methu credu ei fod wedi digwydd i mi," meddai.
Croesawyd cyfraniad aelodau'r Urdd gan Peter Welch, Is-lywydd Disney Destinations Rhyngwladol:
"Roedd hi'n bleser cael croesawu enillwyr Eisteddfod y llynedd i Disneyland Paris - rydym yn gwybod i'n gwestai fwynhau eu perfformiadau ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011," meddai.