Bydd aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gallu manteisio ar daliadau arbennig wrth fynd i brifwyl yr Urdd eleni.
Bydd y tocynnau pris gostyngol ar gael ar y diwrnod yn unig gydag aelodau'r Ymddiriedolaeth yn derbyn £2 oddi ar docyn i oedolyn (£12) a £3 oddi ar bris tocyn teulu (£27) trwy gyflwyno eu cerdyn aelodaeth ym mynedfa'r Eisteddfod.
Mae rheolwr yr eiddo, Paul Boland, a'i staff yn edrych ymlaen at groesawu gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop i'r stad.
"Mae'r Eisteddfod yn achlysur mor bwysig yng nghalendr diwylliant Cymru a gobeithiwn y bydd amffitheatr naturiol y parcdir yma'n Llanerchaeron yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal digwyddiad mor hynod," meddai.
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Trên Bach i rai heb bwff
- Tôn ffôn Ceredigion 2010