麻豆社

Eleri Sion - diolch yn ei dagrau i'r Urdd

Eleri Sion - Mam

04 Mehefin 2010

Yr oedd y ddarlledwraig Eleri Sion yn ei dagrau bron ac yn llawn emosiwn wrth ddiolch i'r Urdd am "stico lan" drosti hi pan oedd yn cael ei beirniadu yn y wasg.

Eleri, a fagwyd o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod, oedd Llywydd y dydd yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Yr oedd yn siarad mewn cyfarfod gyda'r wasg pan gafodd ei goresgyn gan emosiwn a chyda'i llais yn crynu mynegodd ei diolch i'r Urdd am ei chefnogi ar adeg pan allai'r mudiad fod wedi troi cefn arni, meddai.

Yr oedd hynny wedi iddi gael ei dewis yn un o'r arweinyddion yn Eisteddfod Porth Talbot.

"Y peth mwyaf i mi oedd cael y cyfle i arwain o'r llwyfan a hynny yn Eisteddfod Nedd ac Afan ym Mhorth Talbot.

"Hon oedd y steddfod lle cefais i ddangos y mhersonoliaeth i wnaeth arwain mlaen wedyn at imi gael lot mwy o waith a dyna, yn bersonol, pam yr ydw i mor ddiolchgar i'r Urdd achos fe ges i ddangos y mhersonoliaeth i o flaen cynulleidfa fyw a wedyn defnyddio'r sgiliau oeddwn i wedi eu meithrin drwy fod ar lwyfannau yr Urdd yn ystod y blynyddoedd," meddai.

Eleri - yn llawn emosiwn wedi ei geiriau

Ond ychwanegodd: "Ges i meirniadu gydag ambell un o'r Wasg am yn steil i o arwain a hefyd fy ffraethineb i ar lwyfan.

"A gai ddiolch i'r Urdd am stico lan drostai achos fe fydedai lot o bobl, falle, wedi jyst cuddio tu 么l i hyn i gyd," meddai.

"Fe ddywedes i ambell i j么c fel 'Pryd mae mwy o wl芒n ar ddafad? Pan fo hwrdd ar ei chefn hi' ac fe wnaeth yr Urdd stico lan drosta i er i rywun sgrifennu yn y Daily Post nad oedd hyn y math o j么c ar gyfer llwyfan Eisteddfod," ychwanegodd.

"O ganlyniad i hyn fe ges i gyfle i gyflwyno Waw Ffactor a wedyn dwi wedi cael saith mlynedd lewyrchus iawn," meddai.

Yna wrth fynd ymlaen i s么n am ei babi newydd saith wythnos oed oedd gyda hi yn yr Eisteddfod daeth cryndod i'w llais a chafodd hi'n anodd parhau gyda'i hanerchiad. A bron mewn dagrau o emosiwn dywedodd;

"Diolch i'r Urdd am yr holl gefnogaeth ych chi wedi roi i mi , am y cyfleoedd diri ych chi wedi roi i mi . Diolch am y profiadau a hefyd," meddai.

Wedi iddi gymryd ei sedd cynigiodd "hormons" fel eglurhad am y don annisgwyl o emosiwn a wnaeth argraff ar bawb oedd yno.


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.