麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bryn Terfel Bryn yn llenwi'r Met
Bu Sion Owen sydd ar ymweliad â'r Unol Daleithiau yn gweld Bryn Terfel fel Falstaff yn y Met yn Efrog Newydd

  • Falstaff. Medi 23. Metropolitan Opera, Efrog Newydd.
    Mae Bryn Terfel wedi gwneud tipyn o enw iddo'i hun drwy berfformio'r prif ran yn yr opera Falstaff gan Verdi.

    O weld ei berfformiad yng nghynhyrchiad diweddara' y Met hawdd yw gweld pam., Mae'n ganmoladwy iawn.

    Un o'r prif argraffiadau oedd gennyf wedi'r perfformiad oedd maint Bryn Terfel.

    Sion Owen, y tu allan i'r Lincoln Center, cartref y Metropolitan OperaMae ei lais yn hynod o fawr.

    Amlygwyd hyn yn yr act gynta' gyda'r sain yn gryfach yn yr olygfa gynta' - lle roedd yn bresennol - nag yn yr ail olygfa pan nad oedd yn bresennol.

    Mae Bryn Terfel hefyd yn fawr yn gorfforol gan ymddangos fel cawr ymhlith ei gyd gantorion.

    Golyga hyn fod ganddo gadernid a phresenoldeb da ar lwyfan.

    Mwynhad amlwg
    Un o'r pethau mwyaf amlwg am berfformiad Bryn oedd ei fwynhad o fod ar lwyfan.

    Mae Falstaff yn gymeriad sydd yn nodedig am ei fol a'i yfed. Felly, ar ddiwedd yr opera, wrth i Bryn Terfel ddod i'r llwyfan i dderbyn cymeradwyaeth wresog y gynulleidfa, gosododd ei fol un ochr y llen ac aros am eiliad cyn ei ddilyn gyda gweddill ei gorff!

    Cyffyrddiadau chwareus fel hyn sydd yn ennill cynulleidfaoedd.

    Amharu ar ddatblygiad
    Ar y llaw arall, efallai i'w fwynhad amlwg a'i ymdrechion i fod yn ddoniol amharu ar ei ddatblygiad o gymeriad Falstaff ar adegau ac o ganlyniad nid oedd Falstaff Bryn Terfel yn ddigon cyfrwys, yn enwedig pan ydym yn cwrdd a Falstaff gyntaf.

    Bryn Terfel ar lwyfan fel FalstaffOnd wedi dweud hynny rhaid cofio mai araf yw datblygiad cymeriad Falstaff gan Verdi ei hun gyda'r pwyslais ar ddoniolwch yn fawr.

    Hynny'n awgrymu mai diffyg gyda'r opera yw hynny yn hytrach na dehongliad Bryn Terfel.

    Roedd perfformiadau gweddill y cast yn dda, yn enwedig Stephanie Blyth fel Mrs Quickly.

    Roedd y set hefyd yn addas iawn, gyda gwrthgyferbyniad mawr yn yr olygfa olaf yn adlewyrchu'r dryswch a'r agweddau hudol yn effeithiol.

    Felly, os byddwch yn Efrog Newydd rhywbryd rhwng nawr Hydref 22 dyma syniad gwych ar gyfer treulio noson!





  • cysylltiadau




    america

    > Canada

    > Mecsico

    > UDA

    > Y Caribî

    Bryn yn llenwi'r Met

    Rasus harnais yn Ohio

    Lladdfa Taliesin

    Bywyd Cymraes yn Bermuda



    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy