麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lydia Aisenbeg, yn wreiddiol o Gaerffili Israel - Chwilio am ffordd o fyw
Grahame Davies yn sgrifennu yn dilyn ymweliad ag Israel lle mae'n cyfarfod merch a adawodd Gaerffili yn y chwedegau

Unwaith y flwyddyn y daw'r Nadolig, fel rheol, ond dyma'r eildro imi fynychu'r offeren ganol nos y tymor hwn.

Y rheswm yw bod eglwysi Uniongred y Dwyrain yn cadw'r Nadolig ar Ionawr 6, a dyna'r eglwysi sy'n cynrychioli'r trigolion lleol yma ym Methlehem.

Siwrnai anodd.
Doedd hi ddim yn hawdd i gyrraedd yma. Yn ardal yr Awdurdod Palesteinaidd mae Bethlehem, ac er mwyn teithio'r ychydig filltiroedd o Jerwsalem, sydd o dan reolaeth Israel, rhaid mynd drwy rwystrau ffordd milwrol Israel a Phalesteina fel ei gilydd.

Hwylusir y daith gan ein tywysydd, y Canon Andrew White, cynrychiolydd arbennig Archesgob Cairgaint i'r Dwyrain Canol. Ymddengys ei fod ar delerau cyfeillgar gyda'r ddwy ochr ac, yn wir, ar delerau cofleidio gyda'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa wrth inni fynd i mewn i Eglwys y Geni ym Methlehem.

Arogldarth a thwrw.
Mae'r eglwys dan ei sang ac yn llawn arogldarth a thwrw'r tri gwasanaeth sy'n mynd rhagddynt ar yr un pryd gyda'r eglwysi Syriaidd, Coptaidd a Groegaidd.

A thwristiaeth i'r ardaloedd hyn wedi dioddef yn enbyd oherwydd yr anghydfod, prin iawn yw'r gorllewinwyr yma.

Mae'n draddodiad i arweinydd y Palestiniaid, Yasser Arafat, fynychu'r gwasanaeth hwn ond eleni, ac yntau wedi ei gyfyngu i'w bencadlys yn Ramallah gan yr Israeliaid oherwydd yr intifada, fe'i cynrychiolir yn unig gan ei sgarff nodweddiadol, sydd wedi ei osod ar gadair.

Trafferthion dybryd.
Wrth i'r credinwyr lleol ddathlu'r Nadolig yn y fan sy'n grud gwirioneddol i'r grefydd Gristnogol, mae'r absenoldeb amlwg hwn yn atgoffa rhywun o drafferthion dybryd y rhanbarth. .

Mae'r Canon Andrew White yn gwneud ei orau i hyrwyddo heddwch rhwng y Palesteiniaid a'r Israeliaid

Tanysgrifwyr Datganiad Alexandria gyda'r Canon Andrew White ar y dde a'r Sheik Tal El Sider yn sefyll, y trydydd o'r chwith.Ef a drefnodd Ddatganiad Alexandria yn 2001, digwyddiad hanesyddol lle yr ymrwymodd penaethiaid crefyddau Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth yn y Dwyrain Canol eu hunain i hyrwyddo heddwch ar sail eu gwerthoedd crefyddol cyffredin.

Mae gan Gymru ran fach yn y broses, gan fod yr Eglwys yng Nghymru, drwy ei menter cyfiawnder cymdeithasol dramor, y Gronfa Jiwbili, yn cefnogi gwaith Andrew White yn ariannol.

Mae'r broses Alexandria yn un arwydd gobeithiol mewn sefyllfa sy'n gallu ymddangos fel un anobeithiol.

Mae'r agendor rhwng y gwahanol safbwyntiau weithiau'n ymddangos yn amhosibl i'w bontio ond, o leiaf, drwy'r broses hon y mae rhai o'r prif ffigyrau yn siarad â'i gilydd.

Eistedd gyda'i gilydd.
Mewn cyfarfod diweddarach yn ninas Tel Aviv, mae cyn-Weinidog Gwladol Palesteina, y Sheik Tal El Sider, un o danysgrifwyr y datganiad, yn esbonio arwyddocâd y broses.

"Mae'n rhaid bod yr arweinwyr yn eistedd gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i rywun eu gwthio nhw i eistedd gyda'i gilydd o amgylch y bwrdd, fel bod unrhyw un sy'n amharod i siarad am heddwch yn cael ei ynysu.

"O ystyried mai un o sylfaenwyr Hamas, y mudiad Palesteinaidd radical, sy'n siarad, dyna ddweud mawr.

Daioni o ddioddefaint.
Yn gynharach y diwrnod hwnnw, cyfarfum ag Arnold Roth, mab i rieni a oroesodd yr Holocost, ac a symudodd i Israel o Awstralia, ond a gollodd ei ferch 15-oed, Malki, pan ddinistriwyd bwyty pizza gan fom yn 2001 - un o'r cant a mwy o ymosodiadau tebyg sydd wedi taro targedau Israelaidd yn ystod yr anghydfod presennol.

Malki Roth Mae'n ddig, wrth gwrs.
Ond mae'n benderfynol o ddod â rhywfaint o ddaioni allan o golled ei deulu. Fel dyn busnes llwyddiannus, fe sefydlodd elusen yn enw ei ferch, elusen sy'n darparu cymorth meddygol i blant anabl, gan drin plant Israelaidd a Phalesteinaidd heb wahaniaeth.

"Doedden ni ddim eisiau i'w marwolaeth fod yn ddim ond un ystadegyn arall. Roedd Malki wedi treulio llawer o amser yn edrych ar ôl ei chwaer, sydd gydag anableddau dwys, ac fe deimlon ni mai'r peth gorau i'w wneud oedd i helpu plant eraill fel hi," meddai.

Hyrwyddo deialog.
Tua'r gogledd, ger Netanya, ceir menter sy'n hyrwyddo deialog rhwng y cymunedau rhanedig, sef y Ganolfan Heddwch Iddewig-Arabaidd ar kibbutz Givat Haviva, lle daw Moslemiaid ac Iddewon ynghyd i geisio cyd-ddealltwriaeth



Pobl ifainc y ddwy gymuned yn cwrdd ar <i>kibbutz</i> Givat HavivaMae'r ganolfan yn delio gyda 25,000 o bobl ifanc bob blwyddyn.

Mae'r llefarydd Mohammad Darawshe, yn esbonio'r anawsterau a brofir gan boblogaeth Arabaidd Israel, sydd, er bod dinasyddiaeth ganddynt, yn dioddef anghyfartaledd ym meysydd cyflogaeth, addysg, a gwariant cyhoeddus.

"Mae na gwmnïau yma gyda miloedd o weithwyr ond gyda'r nesaf peth i ddim o weithwyr Arabaidd," meddai.

"Mae 70% o Arabiaid yn byw mewn cymunedau a gofrestrir fel 'pentrefi', a 70% o Iddewon yn byw mewn rhai a gofrestrir fel 'trefi'.

"Mae trefi yn cael mwy o arian cyhoeddus na phentrefi, ac mae na lawer o 'bentrefi' Arabaidd sydd yn fwy o lawer na 'threfi' o bobl Iddewig.

"Mae hyd yn oed ardaloedd lle mae'r llywodraeth yn cynnig cymhorthdal i fusnesau yn cael eu trefnu fel bod pentrefi Arabaidd yn cael eu cau allan.

"Rwy'n derbyn dilysrwydd gwladwriaeth Israel, ond bu fy nheulu'n byw yma am 27 cenhedlaeth yn yr un pentref. Mae'n rhaid i'r 800 mlynedd yna gyfrif am rywbeth," meddai.

O Gaerffili.
Ymuna ei gydweithwraig Iddewig, Lydia Aisenberg, un o arweinwyr y kibbutz, yn y drafodaeth. Byddai'r rhai a'i hadnabu yn ystod blynyddoedd ei magwraeth yng Nghaerffili yn ne Cymru wedi ei hadnabod fel Lydia Greenberg.

Lydia AisenbegYmfudodd i Israel yn y 60au ar ôl profi gwrth-semitiaeth ym Mhrydain. A hithau'n coleddu daliadau adain-chwith, bu'n ymgyrchydd dros heddwch yn ei gwlad fabwysiedig.

Mae'n gweithio dros heddwch o hyd, er bod polisi Israel o orfodaeth filwrol yn effeithio'i pump o blant, y mae dau ohonynt yn filwyr commando yn y lluoedd arbennig.

"Roeddwn i'n hipi go-iawn yn y 60au, ond nawr rwy'n fam i filwyr. Rwy bob amser wedi cyfrif fy hun yn ymgyrchydd heddwch, yn heddychwraig. Ond rwy wedi newid. Ym Mhrydain, roedd fy anrhydedd yn cael ei beryglu, ond yn Israel, fy mywyd sydd dan berygl..

"Bellach, gyda phump o blant wedi gwasanaethu yn Lluoedd Amddiffyn Israel, rwy'n sylweddoli mor naïf oeddwn i ynglyn â'r naratif yr oeddwn wedi ei chrefu yn wreiddiol."

Mae'r sefyllfa yn flêr, yn lletchwith ac yn llawn cyfaddawd, fel y mae cymaint o fywyd yn y lle hwn. Nid oes atebion hawdd.

Ond o leiaf ar y kibbutz hwn, fel gyda'r rhai sydd yn cymryd rhan yn y broses Alexandria, ac fel gyda rhieni galarus Malki Roth, mae'r gwahanol garfanau yn ceisio cael ffordd o fyw gyda'i gilydd.





cysylltiadau








dwyrain_canol

Israel
Israel - Chwilio am ffordd o fyw

Atgofion Wlpan

O Dryweryn i Gaza

Gŵyl y Coed

Beddau Cymry yn Israel




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy