麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Iran Iran - dyddiau dyrys
Gwion Lewis - ein harbenigwr ar faterion rhyngwladol - yn yn trafod datblygiadau diweddar yn Iran

Ionawr 2006
Blwyddyn newydd, ond stori gyfarwydd yn hawlio'r penawdau - mae Iran, un o adar drycin y gymuned ryngwladol, yn ôl yng nghwt y mwg.

Mae hi wedi hen arfer bod yno erbyn hyn.
Rhyw ddwy flynedd yn ôl, roedd yna arwyddion fod Jack Straw, Ysgrifennydd Tramor Prydain, yn llwyddo i godi pontydd rhwng Iran a'r Gorllewin.

Bellach, mae'r pontydd hynny'n gwegian dan bwysau'r cyhoeddiad fod Iran am ddatblygu technoleg niwclear.

fgh Yn ôl Arlywydd newydd y wlad, Mahmoud Ahmadinejad, ni ddylai hyn fod yn destun pryder.

"Un o hawliau sylfaenol pob gwlad yw cael cynhyrchu ynni niwclear," meddai.

Efallai bod hynny'n ddisgrifiad cywir o'r gyfraith ryngwladol, ond mae'n rhaid ei osod yn ei gyd-destun.

Dyma'r wlad a guddiodd ei hymchwil niwclear rhag y byd am ddeunaw mlynedd nes i Washington ollwng y gath o'r cwd yn 2002, ac un o ddatganiadau cyhoeddus cyntaf Ahmadinejad oedd y dylid "chwalu Israel oddi ar fap y byd".

Herio
Os oes un stori sy'n debygol o dra-arglwyddiaethu ar y llwyfan rhyngwladol yn 2006, felly, hon yw hi.

Nid dyma'r tro cyntaf i Iran herio'r drefn, ond yn y gorffennol, llwyddwyd yn amlach na pheidio i osgoi argyfwng drwy ddulliau diplomyddol.

Mae cryn le i amau a fydd y dulliau hyn yn llwyddiannus eleni.

Rai munudau cyn i mi ddechrau ysgrifennu'r geiriau hyn, daeth cadarnhad mai methiant fu'r trafodaethau diweddaraf rhwng Iran a'r Undeb Ewropeaidd.

"Chlywsom ni ddim byd newydd ganddyn nhw" oedd geiriau'r cynrychiolydd Prydeinig wrth iddo adael y siambr ym Mrwsel yn benisel.

Canlyniad hyn yw y bydd yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, ar yr ail o Chwefror, yn gofyn yn swyddogol i'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol ddwyn Iran ger bron Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Ynni niwclear Ar bapur, gallai hynny arwain at orfodi sancsiynau economaidd ar Iran fyddai'n debygol o dargedu dau ddiwydiant pwysicaf y wlad, sef olew a nwy.

Fodd bynnag, mae sawl maen tramgwydd yn wynebu'r Gorllewin.

Meini tramgwydd
Yn gyntaf, mae'n ymddangos na fydd adroddiad arbennig yr Asiantaeth Ryngwladol ar y sefyllfa yn barod erbyn y cyfarfod ddechrau Chwefror.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, bydd yn rhaid i ni ddisgwyl o leiaf fis arall am y gwaith ymchwil hanfodol hwn.

Yn ail, mae'n rhaid i bum prif aelod y Cyngor Diogelwch gytuno ar eiriad pob datganiad a geir ganddo. Un o'r aelodau hynny - ynghyd â Ffrainc, yr Unol Daleithiau, Prydain a Rwsia - yw Tsieina.

Ym mis Tachwedd 2004, cytunodd Tsieina i brynu gwerth $70 biliwn o olew gan Iran, ac ni fydd hi'n awyddus i wneud unrhyw beth a allai fygwth ei chynnydd economaidd syfrdanol ar hyn o bryd.

Mae yna amheuaeth hefyd ynglŷn ag ymrwymiad Rwsia i safbwynt y Gorllewin.

Ar un llaw, pan wrthododd Ahmadinejad gynnig Putin i buro wraniwm ar gyfer Iran ar dir Rwsia, cynllun a oedd yn dderbyniol i'r Arlywydd Bush, yr oedd Putin yn barod iawn ei feirniadaeth.

Ar y llaw arall, mae lle i gredu mai ymdrech i gadw'r Gorllewin yn fodlon oedd hyn, ac y byddai Putin yn hynod amharod i fod yn drwm ei lach ar Iran pe bai'r wlad yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau.

Wedi'r cyfan, pwy, gredwch chi, sy'n adeiladu gorsaf niwclear gyntaf Iran ar hyn o bryd? Neb arall ond Rwsia.

O ganlyniad, nid oes sicrwydd o gwbl y byddai'r Cyngor Diogelwch yn gallu ymateb yn effeithiol i'r argyfwng pe bai'n dwysáu.

Bryd hynny, byddai'r sefyllfa'n arswydus o gyfarwydd i bawb sy'n cofio'r wythnosau cyn y rhyfel yn Irac, wrth i'r pwerau Gorllewinol gwyno nad yw'r Cenhedloedd Unedig yn symud yn ddigon sydyn i wynebu bygythiad enfawr o'r Dwyrain Canol.

Ymateb America
A yw hynny'n golygu y gwelwn ni America'n ymosod ar un wlad arall fel 'plismones y byd' cyn i Bush adael y Tŷ Gwyn?

Rhaid peidio â gorsymleiddio pethau. Beth bynnag a ddywedodd Ahmadinejad am Israel, nid Saddam mohono, a chredir bellach mai celwydd yw'r si iddo fod yn rhan o'r cynllun i ddal 52 o wystlon Americanaidd yn Tehran ddiwedd y Saith Degau.

Yn bwysicach fyth, mae gan Iran fyddin gryfach a mwy na'r fyddin a oedd yn amddiffyn Saddam. O'r herwydd, byddai ceisio meddiannu Iran yn llawer anos a mwy peryglus, a go brin y byddai yna gefnogaeth i hynny ar lawr gwlad America yn dilyn y gwaed sy'n dal i gael ei golli'n Irac.

Beth sy'n fwy tebygol, yn fy nhyb i, yw y bydd Bush yn trefnu ymosodiadau byr, penodol, ar y safleoedd niwclear yn Iran os yw hi'n parhau i anwybyddu'r gymuned ryngwladol, ac os yw dulliau'r Cenhedloedd Unedig yn methu.

Ar hyn o bryd, mae'n anodd gweld diweddglo arall i'r argyfwng hwn.

Ahmadinejad Nid ydym yn gwybod llawer am Ahmadinejad. Tan y llynedd, nid oedd hyd yn oed yn ffigwr cenedlaethol yng ngwleidyddiaeth Iran. Cododd i'r brig yn sydyn wrth ddibynnu'n drwm ar bropaganda gwrth-Americanaidd, ac wrth addo y byddai'n lleihau tlodi ac "adfer hunaniaeth genedlaethol" ei wlad.

Gyda rhwydwaith o fosgiau ceidwadol ledled Iran yn cefnogi ei safbwynt ar hyn o bryd, a chenedlaetholdeb Iranaidd ar gynnydd, byddai Ahmadinejad yn cael ei niweidio'n wleidyddol pe bai'n mynd yn ôl i'w gragen wedi mentro cymaint â hyn.

Pa faint bynnag o amser y mae rhywun yn ei dreulio ymddengys bod yna rai adar na ellir eu dal.






cysylltiadau


Erthyglau eraill gan Gwion Lewis

Gwion Lewis

dwyrain canol

> Dubai
> Irac
> Israel

Syria - y targed nesaf?

Syria a Libanus - cwestiwn ac ateb

Iran - dyddiau dyrys



About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy