麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mynd i nyrsio yn Ethiopia
Mae merch o gefn gwlad Cymru wedi gadael i nyrsio am ddeunaw mis yn un o wledydd y trydydd byd.



Yng nghanol y tywydd oer diweddar roedd Elin Jones, 27, o Rosygwaliau ger Y Bala yn llenwi ei chês a sgertiau a thopiau tenau ar gyfer gwres mawr Ethiopia.

Fel popeth newydd dwi a ychydig o ofn ond dwi'n edrych ymlaen hefyd, rhyw deimladau cymysg iawn ar hyn o bryd. Does gan rywun ddim syniad beth i'w ddisgwyl er fy mod wedi gwneud llwyth o waith ymchwil, meddai Elin wrth Lowri Rees cyn cychwyn.

Gwireddu breuddwyd
Mae Elin yn rhan o gynllun gan yr MSF, Mudiad yn Llundain sy'n trefnu gwasanaeth argyfwng mewn gwledydd sy'n dioddef.

Mae wedi bod yn freuddwyd gen i ers imi gychwyn nyrsio cael mynd i wledydd eraill i nyrsio, ac mae hwn yn gyfle gwych i fynd i'w chanol hi o ddifri.

Yr oedd yn hedfan o Amsterdam i Addis Ababa prif ddinas Ethiopia yn gyntaf ac oddi yno i'r hen brifddinas, Gondor cyn dilyn tracac i Humara.

Ysbyty yn Humara - oddi ar wefan MSFDwi'n teimlo fy mod wedi cael digon o brofiad mewn ystod eang o nyrsio erbyn hyn ac yn barod i wynebu'r sialens, meddai.

Mi roedd yn newid mawr mynd i Lundain o'r Bala i drin cleifion yn dioddef o HIV ac ers hynny dwi wedi gweithio i elusen Entinox ac yna am ddwy flynedd mewn canolfan detox gyda phobl yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn gweithio mewn cold weather shelter am bedwar mis gan roi gwybodaeth am gamddefnyddio alcohol a chyffuriau i bobl ac yna eu pasio ymlaen i dderbyn triniaeth.

"Dwi wedi bod yn gweithio yn galed i geisio lleihau y nifer sy'n gorfod cysgu ar y stryd a cheisio eu cael i ddeall am gamdrin a phwysigrwydd iechyd personol.

Paratoi'n drwyadl
Mae wedi bod yn paratoi'n drwyadl ar gyfer Ethiopia.

.Mae'n bwysig os am wneud rhywbeth, ei wneud yn dda a dwi'n credu'n gryf yn hynny. Felly dyma dalu i fynd ar gwrs Tropical Medicine.

Yn sicr mae cwrs o'r bath yn gerio rhywun i fyny ac yn rhoi rhyw fath o gynnwrf i rywun fod eisiau mynd i'r gwledydd mae i helpu eraill.

"Yn ogystal â gwneud y cwrs dwi wedi bod yn gweithio ar ward yn trin pobl sydd yn dioddef o afiechydon sydd yn gysylltiedig a thramor, meddai.

Fel rhan o'r prosiect MSF roedd y mudiad yn anfon CV Elin i wahanol wledydd fel bod y staff meddygol yn cael dewis y math o nyrs oedd ei.

Dwi ddim yn meddwl imi erioed feddwl mynd i Ethiopia ond wedi imi glywed fod gan y wlad ddiddordeb yn fy CV roedd yn rhaid dechrau paratoi. Erbyn heddiw dwi'n gwbwl bariod i fynd - ond fel popeth mae gen i ychydig o ofn, ond dwi'n frwdfrydig iawn.

Weithiau dwi'n meddwl, fy mod i'n mynd i rywle hollol wahanol i adref a'r tymheredd yn 40 50F ac i le sydd yn hollol anial ond mae o'n rhywbeth dwi wastad wedi bod eisiau'i wneud.Bydd yn gweithio gyda nyrs arall a chydlynydd meddygol ymhlith cleifion sy'n dioddef o bob math o afiechydon.

Dysgu am HIV
Mae llawer iawn wedi cael eu heintio â HIV ac mae'n bwysig iawn rhoi iddyn nhw yr addysg nad oes raid iddo ddatblygu'n AIDS.

"Mae'r prosiect yn gobeithio lleihau y nifer o blant sydd yn cael eu heintio â HIV gan y fam. Trio cyflwyno'r wybodaeth a thrwy hynny helpu'r cleifion, meddai Elin.

Yn cael ei hadnabod fel Outreach Nurse bydd Elin yn cydweithio i sicrhau grwpiau cefnogol i'r bobl yn Ethiopia, cynnig triniaeth a chynnig cyngor er mwyn helpu.

Dwi eisiau bod yna i'r bobl, ac fe fydd yn rhaid imi wynebu y bydd yna lawer iawn o bobl yn marw - ond dwi'n teimlo ei fod yn bwysig iawn inni sicrhau eu bod yn marw gydag urddas.Mae Elin yn lapio ambell botel win, ychydig o gaws a siocled yn ei ches, ac yn chwerthin.Fe fydd rhaid imi gael ychydig o bleserau bywyd yn ystod fy nghyfnod yno, a dwi'n sïwr bydd y nyrsys sydd yno'n barod yn gwerthfawrogi chydig o win a siocled, meddai.

Un peth annisgwyl y mae Elin yn edrych ymlaen ato yw bod yn 21 unwaith eto achos gan gan fod Ethiopia yn dilyn calendr yr Hen Destament 1996 yw hi yno!






cysylltiadau


ewrop

Ethiopia
Mynd i nyrsio yn Ethiopia

Brwydr AIDS Cymraes yn Ethiopia




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy