I'r Maori, Gwlad y cymylau gwynion yw Seland Newydd. Dyma beth y ddarganfu Gwenllian Parry o Benisa'rwaun wedi symud yno ac mae wrth ei bodd gyda'r wlad.
Mae hi'n seicolegydd clinigol gyda'r Maori yno ac yn byw bywyd gwahanol iawn gyda'i phartner Carl sy'n ffotograffydd, a'u plant Efa ac Iago i'w bywyd blaenorol yn y Gerlan ger Bethesda.
Ymweliad â nhw oedd un olaf Hywel Gwynfryn ar gyfer yr ail gyfres o Ar Dy Feic (dydd Sul, Mai 11, 麻豆社 Cymru ar S4C).
Problemau cymdeithasol Dywedodd Gwenllian fod problemau cymdeithasol dyrys ymysg cymdeithas y Maori yn Whakatane lle mae hi'n byw a gweithio, gyda nifer fawr o achosion o iselder ysbryd a hunanladdiad - yn enwedig ymysg y dynion.
A hithau'n dod o gefndir lleiafrifol ei hun mae'n ei chael yn hawdd uniaethu â'r Maori ac yn deall eu teimladau ynglŷn â'r ffaith iddynt golli llawer o'u diwylliant.
'Sa chi'n gofyn wrth rywun pakia, sef rhywun Ewropeaidd, mi fasan nhw'n deud achos bod na ddiweithdra, problem cyffuriau, dim pres, tlodi ofnadwy, meddai Gwenllian am y problemau.
Ond sa chi'n gofyn i berson Maori 'sa nhw'n deud oherwydd bod eu cerfluniau, eu marais nhw, sef eu tai cyfarfod, wedi cael eu difetha, wedi cael eu llosgi i lawr gan y bobl wyn ac felly mae eu hysbryd nhw wedi cael ei niweidio.
Gwybod pwy ydyn nhw "Dwi'n meddwl nad ydi'r bobl hyn yn gwybod pwy ydyn nhw; maen nhw wedi colli golwg o'u diwylliant; maen nhw wedi colli golwg o be maen nhw'n mynd i'w wneud efo'u bywydau a dwi'n meddwl mai wrth eu helpu nhw i benderfynu a sylweddoli be allan nhw wneud efo'u bywydau. Bydd hynny yn rhoi hyder iddyn nhw feddwl bod rhywbeth i fyw amdano," meddai.
Bu Gwenllian yn annog dau fachgen ifanc o dras Maori sy'n dioddef o iselder ysbryd i gychwyn grŵp rap ac i gyfansoddi cân yn sôn am eu profiadau cân sy'n ddirdynnol.
Yn ogystal â dysgu mwy am waith Gwenllian profodd Hywel hefyd wledd draddodiadol y Maori.
Dychwelyd i Gymru Er bod ei bywyd i bob pwrpas yn un delfrydol yn Seland Newydd dychwelyd i Gymru fydd Gwenllian yn y pen draw.
'Da ni yn mynd yn ôl. Y ffordd dwi'n meddwl amdano ydi, mae fel bod wedi priodi, a chael ffling bach. Da chi'n gwybod lle mae'ch calon chi. Ryda chi'n mwynhau y cyfnod 'dach chi yna, ond ffling ydi o. A mynd nôl adre fyddwn ni.
|