麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Catherine Symonds a Hywel Cyfaredd yr Aifft
Cymraes yn canfod yr ateb yn yr Aifft

Os oes un lle yn y byd y gellid ei ddisgrifio fel crud gwareiddiad, yr Aifft yw hwnnw.

Dyma wlad anhygoel, lawn trysorau, gyda'i phobl yn bodoli yno gymaint â phum mil o flynyddoedd yn ôl.

A dyma'r wlad yr ymwelodd Hywel Gwynfryn â hi ar gyfer ail raglen Ar Dy Feic 2006 - Dydd Llun, Mai 15, 麻豆社 Cymru ar S4C)

Yno, cyfarfu â gwraig arbennig iawn o Fôn sy'n athrawes yn Cairo.

Cyfaredd o'r cychwyn
O Amlwch y daw Catherine Symonds yn wreiddiol ac ers yn ddim o beth bu rhyw swyn a chyfaredd ynglŷn â'r Aifft ddi.

"I'r Aifft roeddwn i isho dŵad er pan oni'n blentyn bach," meddai, "ar ôl i mi glywed storïau gan fy mam.

"Roedd hi'n darllen lot i ni a'r dychymyg yn mynd â fi i lot o wahanol lefydd... ond fel hanes pawb, mi gymerodd hi dipyn o amser cyn imi fedru dŵad yma achos mi fum i'n trafeilio tipyn o gwmpas y byd."

Er gwaetha ofnau ei theulu sut ysgol y byddai Catherine yn gweithio ynddi, y gwir yw ei bod yn gweithio mewn ysgol i blant lleiafrif cyfoethog y wlad, gan gynnwys aelodau o deuluoedd brenhinol.

Mae'n gwybod ei bod hi a'r plant yn freintiedig iawn, er iddi gyfaddef bod ei chydwybod weithiau yn pigo gan ei bod mor ymwybodol o ba mor wahanol yw amgylchiadau llaweroedd yn y wlad.

Mae'r cyfleusterau yn neilltuol yn yr ysgol hon i blant rhwng 3 a 18 oed, a dysgu yn bleser.

"Unrhyw beth dwi angen i'r plant, mae o yna imi," meddai.

Cyfnod anodd
Pan ddaeth Catherine i'r Aifft gyntaf, roedd yn gyfnod anodd yn ei bywyd, gyda salwch a cholled yn ei theulu agos ond yn awr mae'n dweud iddi gael nerth o dir yr Aifft, ynghyd â'i ffydd Babyddol, i ddelio ag amgylchiadau anodd.

Mae bellach yn ymddangos yn gartrefol hollol yn ei gwlad fabwysiedig, a phrofodd Hywel, yntau, beth o fywyd Cairo, lle mae Catherine yn byw gyda'i gŵr Tony.

Gyda'i strydoedd prysur, adeiladau uchel, y pyramidiau ar ei chyrion a'i basârs lliwgar, mae hon yn gornel unigryw o'r byd.

"Oni'n teimlo mod i wedi bod ar daith ar hyd fy mywyd yn chwilio am rywle lle dwi'n berffaith llonydd, perffaith dawel a pherffaith hapus," meddai Catherine.

"Dwi'n teimlo imi ddod i ben y daith, byw yma yr Aifft."

  • Ar Dy Feic, dydd Llun, Mai 8, 2006. 麻豆社 Cymru ar S4C




  • cysylltiadau
  • Teithiau eraill Ar Dy Feic

  • affrica

    > De Affrica
    > Kenya
    > Ethiopia
    > Tanzania
    > Sudan

    Profiad newydd - enw newydd

    Rwanda

    Rwanda - cwestiwn ac ateb

    Congo - amser deffro

    Cyfaredd yr Aifft



    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy