麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rwssia Tafod yr arth
Sion Jobbins yn trafod brwydr iaith ryfeddol y Rwsieg

Dydd Sul, Medi 17, 2000

Nid Cymru yw'r unig wlad sy'n credu, Cenedl heb iaith, cenedl heb galon.

Ar hyd a lled yr hen Undeb Sofietaidd mae tafodau tân yn creu tyndra.
Siôn T. Jobbins fu'n edrych ar y sefyllfa.

Rydym ni yng Nghymru wedi hen arfer â'r dadleuon dros hawliau ieithyddol. Yng ngwledydd yr hen Undeb Sofietaidd mae'r un dadleuon hefyd yn codi eu pen.

Asgwrn y gynnen ym mhob achos yw'r 25 miliwn o Rwsiaid sy'n byw y tu allan i'w mamwlad. Mae'r Rwsiaid yma, y mwyafrif helaeth ohonynt heb ddysgu iaith eu gwledydd mabwysiedig, yn byw ym mhellafoedd Wzhbecistan a Cyrgistan, sydd hanner ffordd i Dsiena yn yr Iwcrain, ac yng Ngwledydd y Baltig.

Defnyddio'r iaith yn wleidyddol

Nid yn unig mae cenedlaetholwyr lleol yn ddig dros agwedd drahaus nifer o'r Rwsiaid ond mae'r arth Rwsiaidd ei hun yn defnyddio sefyllfa'r iaith fel arf i ddylanwadu ar y gwledydd yma sy'n ffinio a hi.

Gyda hyn mewn golwg mae Rwsia wedi canmol Belarws am ddyrchafu Rwsieg yn ail iaith wladwriaethol a Cyrgyzstan am ei gwneud yn iaith swyddogol.

Mae Arlywydd unbenaethol Cazhacstan, Nazaebaev, wedi cynnig hyd yn oed greu Cronfa er Hyrwyddo'r Iaith Rwsieg.

Ym mis Mehefin cynigiodd Arlywydd Rwsia, Fladimir Pwtin, y byddai Rwsia yn rhoi'r gorau i gefnogi rhanbarth Rwsiaidd hunan lywodraethol Trawsdneistr, sy'n ceisio torri'n rhydd o Moldofa, petai Moldofa yn gwneud Rwsieg yn ail iaith wladwriaethol.

Paratoi deddf iaith

Fel arwydd o sylweddoliad cynyddol senedd Rwsia o rym yr iaith, maent yn paratoi deddf ar statws Rwsieg o fewn Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (y CIS, llysfab' yr Undeb Sofietaidd).

Ar y llaw arall, mae nifer o'r gwledydd eraill a ddaeth yn annibynnol o reolaeth Rwsiaidd yr Undeb Sofietaidd yn 1991 am sicrhau eu hunaniaeth ieithyddol ac wrthi yn lleihau statws yr iaith Rwsieg.


Mae'r gwledydd yma'n cynnwys Uzbecistan a Twrcmenistan - dwy wlad sydd â chysylltiadau ieithyddol â Thwrci,

Ac mewn adlais o geo-wleidyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ymrafael a fu rhwng Twrci Ottomanaidd a Rwsia Tsaraidd, mae'r Twrciaid hwythau yn ceisio lledaenu eu dylanwad yn yr ardal dan gochl yr iaith.

Trafod tanbaid yn yr Iwcrain

Bu dadl yr iaith yn yr Iwcrain yn destun trafodaethau tanbaid ers cenedlaethau ac er gwaetha'r ffaith - neu efallai oherwydd y ffaith - eu bod yn chwaer-ieithoedd, mae sefyllfa'r Rwsieg yn un wleidyddol iawn.

- Aethant gam ymhellach trwy awgrymu sut y gellid mynd â'r maen i'r wal yn gyfansoddiadol i hyrwyddo'r Iwcraneg i fod yn unig iaith y wladwriaeth.

Poethodd pethau yn yr Iwcrain yn dilyn marwolaeth Ihor Bilozir, canwr poblogaidd Iwcraneg, a laddwyd gan ddau Rwsoffil am iddo wrthod peidio â chanu caneuon Iwcranaidd.

Rheoli iaith caneuon!

Ymatebodd cyngor rhanbarthol trwy reoli'r defnydd o ganeuon Rwsiaidd mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd mewn caffes ac yn y byd busnes.

Daeth criwiau o wirfoddolwyr at ei gilydd i gadw llygad ar y defnydd o ganeuon Rwsiaidd yn y ddinas.

Cymaint fu'r stwr; ar Fehefin 7 condemniodd Gweinyddiaeth Dramor Rwsia yr "hysteria gwrth-Rwsiaidd" oedd yn lledaenu ar draws gorllewin yr Iwcrain.

Cyhuddodd yr Iwcrain o dorri cytundeb 1997 ar hawliau ieithyddol lleiafrifoedd gan ddweud fod polisïau'r Iwcrain yn "disgrimineiddio'n hiliol".

'Dim hawl gan Rwsia o bawb i feirniadu'

Gwrthododd yr Iwcrain yr ensyniadau yma'n llwyr.
Mae'n ei chael yn anodd derbyn beirniadaeth Rwsia o bawb - achos er bod 4.5 miliwn o Iwcraniaid yn byw yn Rwsia (yr ail leiafrif mwyaf o fewn y wlad) nid oes yr un ysgol, theatr na phapur newydd yno.

Yn yr Iwcrain, lle nad yw'r Rwsiaid ond yn 22% o'r boblogaeth, mae 33% o ddisgyblion a myfyrwyr yn mynychu ysgolion a phrifysgolion Rwsieg eu hiaith.

Mae yno hefyd 1,193 o bapurau newydd Rwsieg o gymharu â 1.394 yn yr Iwcraneg.

Efallai fod yr Iwcraniaid yn gor-ymateb,ond mae hynny i raddau yn gyfaddefiad o barhad grym y Rwsieg ar hyd a lled yr hen Undeb Sofietaidd. Roedd ieithoedd y Baltig fel Latfieg mewn perygl gwirioneddol cyn annibyniaeth yn 1991 ac wedi annibyniaeth aethpwyd ati i geisio unioni'r cam.

Bellach, mae senedd Latfia wedi pasio gwelliannau i'w deddfau ieithyddol llym gan osod canllawiau at ddefnydd ieithoedd tramor (Rwsieg) ar ffurflenni swyddogol a hefyd ar gyfer profion gallu siarad Latfieg.

Trwy wneud hyn mae'n cadw'r ddesgil yn wastad gyda'i chymuned Rwsiaidd sylweddol ei hunan, yn cadw'r arth Rwsiaidd rhag rhuo ac yn cadw'r gymuned ryngwladol, sy'n dueddol o fod o blaid y Rwsieg o hyd am resymau gwleidyddol ac economaidd, yn hapus.

Tueddu i siarad Rwsieg beth bynnag

Cymhlethir y sefyllfa ymhellach gan y ffaith fod lleiafrifoedd di-Rwsieg y rhan fwyaf o'r gwledydd yn dueddol o siarad Rwsieg.

Mae gan nifer o wledydd fel Belarws a'r Iwcrain, boblogaeth sylweddol sy'n ystyried ei hunan yn Felarwsaidd neu'n Iwcraneg ond sydd yn siarad Rwsieg yn unig neu Rwsieg yn fwy rhugl na'r iaith genedlaethol.

Bu sefyllfa ddiddorol yn Cyrgyzstan y llynedd pan geisiodd Ffelics Cwlof annerch ei gefnogwyr mewn Cyrgiz. Yn anffodus i Cwlof roedd ei Rwsieg yn well na'i Cyrgyz a bu'n rhaid iddo droi i'r Rwsieg gan nad oedd y dorf yn ei ddeall.

Y Rwsieg yn dal yn gryf

Er gwaetha pryderon y cenedlaetholwyr Rwsiaid, fod eu hiaith yn colli tir y tu allan i'r famwlad, mae'r Rwsieg yn dal i fod yn gryf.

Yn Cyrgyzstan, sydd i'r gogledd o Affganistan, mae'r trigolion yn dal i wylio gwasanaeth teledu Rwsiaidd ORT a Rwsieg yw 95% o ddeunydd dysgu yr ysgolion.

Fel ag yng Nghymru, mae addysg ar flaen y ddadl ieithyddol. Bu cynnydd trwy gydol y 1990au mewn dysgu trwy gyfrwng yr Iwcraneg a hynny ar draul y Rwsieg.

Yn Tartarstan, sy'n rhanbarth lled-annibynnol o fewn y Ffederasiwn Rwsiaidd, penderfynwyd yr wythnos hon ysgrifenni'r iaith Tartar yn yr wyddor Rufeinig yn hytrach na'r wyddor er mwyn tanseilio'r dylanwad Rwsiaidd a'i gwneud yn haws i ddisgyblion Tartar ddysgu ieithoedd tramor.

Ond yn y Crimea, hen famwlad y Tartar sydd bellach yn rhan o'r Iwcrain, mae'r Rwsieg yn gryf o hyd.

Er mai Iwcranwyr yw chwarter poblogaeth y rhanbarth, dim ond pedair ysgol allan o 582 sy'n defnyddio Iwcraneg a dim ond un cyhoeddiad allan o 392 sydd yn yr iaith.

Yn y Donbas, yn Nwyrain yr Iwcrain, mae'r Iwcraniaid yn 50% o'r boblogaeth dim ond 10% o'r disgyblion sydd mewn ysgolion Iwcraneg.

Er gwaethaf honiad Ysgrifennydd Tramor Prydain, Douglas Hurd, yn 1990 mai Saesneg fyddai ail iaith yr hen Undeb Sofietaidd, mae'r Rwsieg yn dal i fod yn brif iaith cyfathrebu rhwng gwledydd annibynnol yr hen ymherodraeth ac yn iaith cyfathrebu i nifer fawr o drigolion y gwledydd hynny.

Pwyslais polisi tramor Rwsia bellach yw parhau â hynny, er mwyn parhau i gadw gafael dros y gwledydd annibynnol.

Pwyslais polisi mewnol y gwledydd annibynnol yw gwyrdroi hynny, er mwyn symud o gysgod Rwsia unwaith ac am byth.

Gyda grym milwrol ac economaidd Rwsia'n gwanychu, efallai mai ei hiaith yw'r unig arf sydd ganddi ar ôl bellach!




ewrop

Rwsia
Dysgu Cymraeg a chreu geiriadur

O Wyddelwern i Rwsia

Tafod yr arth




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy