Non Evans: Athletwraig a Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol
21 Hydref 2009
Pwnc arbenigol: bywyd a gyrfa Shane Williams
Oeddech chi'n hapus efo'ch perfformiad?
Roeddwn yn hapus gyda fy mherfformiad ac yn enwedig gyda fy mhwnc arbenigol. Er mod i'n teimlo mod i wedi gwneud yn dda ar fy newis bwnc , roeddwn yn gwybod y byddwn yn gorfod gwneud yr un mor dda ar y wybodaeth gyffredinol.
Oeddech chi'n nerfus wrth eistedd yn y gadair du?
Roeddwn i mor nerfus! Gan fod cynulleidfa teledu roeddwn ofn gwneud ffŵl o fy hun!
Pam ddewisoch chi eich pwnc arbenigol?
Dewisais fy mhwnc oherwydd fy mod yn chwarae rygbi dros Gymru ac roeddwn yn teimlo y gallwn uniaethu gyda Shane Williams gan fod steil chwarae'r ddau ohonom yn debyg. Hefyd fi yw prif sgoriwr ceisiau rygbi merched, gyda 62 cais, a fe yw prif sgoriwr y dynion.
Oedd y profiad yn y gadair ddu beth roeddech chi'n ei ddisgwyl?
Roeddwn mor nerfus ag roeddwn yn ei ddisgwyl!
A oedd cystadleuaeth frwd rhwng yr enwogion?
Na, roedd pawb yn eitha nerfus ac yn hybu ei gilydd ymlaen.
Sut mae eich gwybodaeth gyffredinol?
Mae fy ngwybodaeth gyffredinol yn ofnadwy! Roeddwn i yn teimlo fod y cwestiynau yn annheg ychydig ac yn ffafrio'r byd teledu.
Felly, pwy adeiladodd Gastell Caernarfon?
Dim syniad! Ond atebwch chi hon: ble mae cwpan y byd rygbi merched yn cael ei gynnal nesaf? Ateb - Llundain. [Dyna'n rhoi ni yn ein lle! Os yw o unrhyw ddiddordeb, Edward 1af adeiladodd y castell].
Mwy am Non Evans ...
Mae Non Evans yn un o chwaraewyr rygbi merched amlycaf a mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae wedi ennill 79 o gapiau dros ei gwlad fel cefnwr/asgellwr a sgorio'r nifer uchaf o bwyntiau dros Gymru mewn rygbi merched rhyngwladol.
Wedi chwarae i dîm rygbi merched Bryste am naw mlynedd gadawodd ar ddechrau 2009 i chwarae yn agosaf at adref i dîm Harlequins Caerdydd. Dechreuodd chwarae rygbi yn 1994 i dîm Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gan ennill ei chap cyntaf yn erbyn yr Alban yn 1996.
Yn ogystal â llwyddo ar y maes rygbi mae Non wedi cynrychioli Cymru a Phrydain mewn jiwdo a chodi pwysau gan ennill dwy fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad mewn jiwdo. Yn 2002, hi oedd y ferch gyntaf i gystadlu mewn dwy gamp wahanol yn y Gemau. Mae wedi bod yn bencampwr Cymru a Phrydain mewn codi pwysau pŵer (powerlifting).
Daw'n wreiddiol o Bontarddulais ger Llanelli ond mae bellach yn byw ym Mhentyrch ger Caerdydd. Wrth ei gwaith bob dydd mae hi'n arbenigwr ym maes imiwnedd sy'n gwerthu cyffuriau i gwmni fferyllol.
Gwyliwch Mastermind Cymru a rhaglenni eraill Â鶹Éç Cymru ar iPlayer.
Y Cyflwynydd
Betsan Powys
Gwleidyddiaeth yw pwnc arbenigol Betsan Powys tu allan i stiwdio Mastermind.