Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Cwblhau'r Datganiad Personol

Y datganiad personol yw dy gyfle mawr di i werthu dy hun i diwtoriaid derbyn. Does dim unrhyw ffordd unigol, berffaith o wneud hyn, ond dyma rai awgrymiadau.

Am beth y dylwn i sgrifennu?

  • Y rhesymau am ddewis y cyrsiau sydd ar dy ffurflen.
  • Y cefndir i dy ddiddordeb di yn y pwnc/pynciau hyn.
  • Diddordebau arbennig sydd gen ti yn dy astudiaethau ar hyn o bryd. Unrhyw prosiectau arbennig wedi ei cwblhau neu unrhyw trips ysgol ac ymweliadau.
  • Unrhyw gyflogaeth, profiad gwaith, neu waith gwirfoddol rwyt ti wedi ei wneud, yn enwedig os yw’n berthnasol i dy gwrs.
  • Unrhyw Sgiliau Allweddol sydd gen ti.
  • Unrhyw beth arall rwyt ti wedi ei gyflawni e.e. Gwobr Dug Caeredin.
  • Dy ddyheadau di o ran gyrfa.
  • Unrhyw bynciau rwyt ti’n eu hastudio nad ydyn nhw’n arwain at arholiad.
  • Unrhyw nawdd neu leoliadau gwaith rwyt ti wedi gwneud cais amdanynt.
  • Rhesymau am ohirio cyn mynd i’r coleg a dy gynlluniau di ar gyfer blwyddyn allan - os yn berthnasol.
  • Diddordebau cymdeithasol, chwaraeon neu ddiddordebau eraill.

Deg awgrym ar sgrifennu dy ddatganiad personol

1. Gwna ymdrech – yn enwedig os wyt ti’n gwneud cais am gyrsiau poblogaidd neu am gyrsiau galwedigaethol fel meddygaeth neu ddysgu.

2. Dechreua drwy nodi ar bapur unrhyw beth o gwbl y gelli di feddwl amdano amdanat ti dy hun a allai fod o fudd. Gofynna i dy deulu a dy ffrindiau am syniadau a defnyddia dy Gofnod Cyrhaeddiad neu Ffeil Cynnydd i dy atgoffa di o’r pethau rwyt ti wedi eu gwneud.

3. Ceisia gysylltu’r hyn rwyt ti’n ei ddweud bob amser gyda’r cwrs rwyt ti wedi ei ddewis. Paid ag amlhau geiriau am hobïau amherthnasol, sydd wedi hen fynd yn angof.

4. Os nad wyt ti go-iawn yn gwneud dim ond gwylio’r teledu, canolbwyntia ar dy astudiaethau cyfredol a dy resymau am ymgeisio am y cwrs.

5. Rho fframwaith i dy ddatganiad drwy ddefnyddio paragraffau a/neu benawdau wedi eu seilio ar yr elfennau a awgrymir uchod. Mae'r llyfr 'Degree Course Offers' gan Brian Heap yn rhoi gwybodaeth am beth sy'n well gyda'r brifysgolion unigol ynglyn a strwythr y datganiad personnol .

6. Paid ag ailadrodd gwybodaeth sy’n ymddangos mewn man arall ar y ffurflen.

7. Bydda’n llythrennog – sgrifenna’n rhugl gan ddefnyddio gramadeg a sillafu cywir.

8. Ceisia beidio â swnio fel stereoteip, fel pe bai athro wedi rhoi templed i ti a thithau heb wneud dim ond llenwi’r bylchau.

9. Dangos dy ddrafft i rywun arall, fel tiwtor chweched dosbarth neu goleg neu gynghorydd gyrfaoedd.

10. Defnyddia lawysgrifen fawr, glir (beiro du), neu brosesydd geiriau ag inc du, ffont pwynt 12.

Ìý

Lincs

Hefyd...
Sut i wneud cais
Pa brifysgol?

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý