Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Sut mae gwneud cais?

Wyt ti wedi penderfynu pa bwnc/pynciau rwyt ti am eu hastudio a pha gyrsiau prifysgol mae gen ti ddiddordeb ynddyn nhw? Yna mae angen i ti wybod sut mae gwneud cais am le mewn prifysgol.

Ffeil Ffeithiau System Ymgeisio UCAS

Drwy gorff o’r enw UCAS – Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau – y gwneir pob cais bron am gyrsiau AU.

Gelli wneud cais am le ar hyd at chwe chwrs. Nid yw hyn yn golygu fod rhaid i ti gael un cwrs i bob sefydliad. Mae’n hollol bosibl i ti ddewis pedwar cwrs neu hyd yn oed y chwech mewn un sefydliad. Rhaid i dy ffurflen gais UCAS fod wedi cyrraedd erbyn 15 Rhagfyr er mwyn i ti ddechrau dy gwrs yr Hydref canlynol. Rhaid i dy geisiadau fod yn nhrefn yr wyddor. Mae hyn yn golygu fod prifysgolion yn ei chael hi’n amhosibl i ddweud pa sefydliad oedd dy ddewis cyntaf.

Ar hyn o bryd mae ceisiadau gaiff eu derbyn ar ôl Ionawr 15 yn cael eu nodi’n ‘gais hwyr’.

Mae UCAS yn anfon copiau o dy ffurflen i bob prifysgol rwyt wedi ei dewis yr un pryd. Mae tiwtoriaid derbyn y prifysgolion yn dweud wrth UCAS a ydyn nhw’n mynd i ‘gynnig’ lle i ti ai peidio. Gall y rhai sy’n anfon cais i mewn yn hwyr ddarganfod eu bod yn cael mwy o wrthodiadau, yn enwedig gyda chyrsiau poblogaidd fel y gyfraith, Saesneg, astudiaethau cyfryngol a rhai gwyddorau cymdeithasol. Mae UCAS wedyn yn pasio eu penderfyniadau i ti.


Ymgeiswyr Rhydychen a Chaergrawnt


Mae angen i ti lenwi ffurflen UCAS os yn ceisio am le yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn ogystal â ffurflen gais colegau unigol. Y dyddiad cau ar gyfer Rhydycjhen a Chaergrawnt yw Hydref 15 i ddechrau dy gwrs yr hydref canlynol.

Yn astudio meddygaeth neu deintyddiaeth?

Y cyngor i fyfyrwyr ar y funud yw na ddylen nhw anfon ceisiadau i fwy na phedwar lle. Fe ddylet fod yn gallu ymgeisio am ddau gwrs gwahanol heb unrhyw effaith er gwaeth ar dy geisiadau meddygol neu deintyddol. Hydref 15eg yw’r dyddiad cau ar gyfer y cyrsiau yma hefyd.

Unwaith mae’r penderfyniadau i gyd wedi eu derbyn gan UCAS fe fyddan nhw’n anfon atat yn gofyn i ti ddewis pa gynnig i’w dderbyn erbyn dyddiad penodol. Bydd y dyddiad yma’n dibynnu ar pryd y derbyniwyd y ceisiadau i gyd. Ar hyn o bryd mae UCAS yn cynghori os nad wyt wedi clywed oddiwrth brifysgol arbennig erbyn Mai yna dylet ystyried eu bod wedi dy wrthod felly dylet wneud dy ddewis o’r cynigion sydd ar ol.

Cei dderbyn hyd at ddau gynnig - un cynnig ‘pendant’ (dy ddewis cyntaf) ac un cynnig ‘wrth gefn’ (dy ail ddewis). Mae rhai pobl yn cynghori y dylai dy ddewis cyntaf fod yn gofyn am raddau cymharol uchel tra bod dy gynnig ‘wrth gefn’ yn gofyn am raddau is er mwyn rhoi’r cyfle gore i ti gael lle.

Ond cofia fod y cynigion yma wedyn yn cael eu hystyried yn rhwymo’n gyfreithiol. Os cei di’r graddau, does dim rhaid i dy gynnig ‘pendant’ dy ryddhau o dy benderfyniad. Mae hwn yn bwynt pwysig, gan fod prifysgolion yn dal i dderbyn myfyrwyr â graddau is. Er enghraifft mae dy ddewis ‘pendant’ yn gofyn am dair gradd-B a dy gynnig ‘wrth gefn’ yn gofyn am dwy C a D. Rwyt yn cael un radd B a dwy radd C. Mae dy goleg ‘pendant’ yn dy wrthod ac rwyt yn penderfynnu ceisio am le mewn prifysgol sy’n gofyn am y graddau sydd gennyt. Chei di ddim gwneud hyn gan dy fod yn dal cynnig gan dy goleg ‘wrth gefn’. Mae’r ffaith dy fod wedi cael graddau uwch na’r rhai roedden nhw’n gofyn amdanyn nhw’n amherthnasol. Yr unig ffordd allan o’r benbleth hon fyddai tynnu allan o gynllun UCAS, cymryd blwyddyn allan a cheidio eto am le mewn prifysgol y flwyddyn ganlynol.

Os na chei di’r graddau sydd eu hangen i fodloni un ai dy gynnig pendant neu dy gynnig wrth gefn a bod y ddau le’n dy wrthod, mae’n dal yn bosib y cei di le mewn prifysgol drwy’r drefn ‘Clirio’. Os yw hyn yn wir i ti fe gei di gynnig eang o opsiynau os wyt yn fodlon bod yn hyblyg ynglyn ag i ba goleg yr ei di, ac mewn rhai achosion, pa bynciau fyddi di’n eu hastudio.

Sut mae llenwi dy ffurflen UCAS

Os wyt ti’n fyfyriwr amser llawn bydd dy ysgol neu goleg yn rhoi ffurflen UCAS i ti. Os wyt ti wedi gadael yr ysgol, gelli gael un o dy Ganolfan Gyrfaoedd leol.

Gwna’n siwr fod gen ti gopi o Lawlyfr UCAS a’r llyfryn UCAS ‘Cyfarwyddiadau ar Lenwi’r Ffurflen Gais’. Fe ddylet ti dderbyn y rhain gyda dy ffurflen gais.

Darllena’r cyfarwyddiadau’n ofalus cyn dechrau a dilyna’r hyn y maen’ nhw’n ei ddweud i’r llythyren.

Gwna lungopi o’r ffurflen wag er mwyn ymarfer ar y copi cyn ceisio llenwi’r ffurflen go-iawn.

Ysgrifenna’n glir gan ddefnyddio beiro du, neu llenwa dy ffurflen â phrosesydd geiriau (defnyddia ffont pwynt 12) mewn inc du. Neu gelli ddefnyddio system ymgeisio electronig UCAS ac e-bostio’r ffurflen neu ei hanfon i mewn ar ddisg.

Paid â gwneud camgymeriadau sillafu na chroesi pethau allan. Gofynna i rywun arall fwrw golwg dros dy sillafu. Os gwnei di lanast, dechreua eto.

Rho sylw arbennig i adran 10, y datganiad personol. Hon, a’r tystlythyr, yw rhannau pwysicaf y ffurflen.

Rho’r ffurflen i dy ganolwr mewn da bryd er mwyn iddo ef/iddi hi ysgrifennu’r tystlythyr a’i phasio ymlaen i UCAS erbyn y dyddiad cau.

Cadw gopi o’r ffurflen ar ôl i ti ei llenwi.

Yn gwneud cais am gyrsiau Celf a Dylunio?

Mae’r drefn ymgeisio ychydig yn wahanol i gyrsiau eraill. Mae Llawlyfr UCAS yn egluro hyn. Dylet drafod hyn gyda dy diwtoriaid Celf fydd yn gallu dy helpu i benderfynnu pa broses ymgeisio rwyt am ei defnyddio.

Cwblhau dy Ddatganiad Personol

Ìý

Lincs

Hefyd...
Pa bwnc/bynciau?
Pa brifysgol?

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý