Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

Â鶹Éç Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Astudio Dramor

Pam?

1. Gwneud rhywbeth cyffrous

2. Ehangu dy orwelion

3. Dysgu am ddiwylliannau gwahanol

4. Teimlo’n gyfforddus gyda ffyrdd eraill o fyw

5. Ymddangos yn fydol-ddoeth a soffistigedig i dy ffrindiau gartref

6. Gwella dy sgiliau iaith

7. Gwneud ffrindiau a chysylltiadau defnyddiol

8. Ehangu dy opsiynau swyddi i’r dyfodol

9. Manteisio ar gyfleoedd gyrfa rhyngwladol

10. Cystadlu yn y farchnad fyd-eang!

Siarad o brofiad...

Mi fyddwn i'n cynghori unrhyw un i fynd amdani! mwy>>

Bethan Haf Jones

Gwneud y cwrs cyfan dramor (Anodd)

Fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mae gan ddinasyddion y DG yr hawl (mewn theori) i wneud cais am gwrs mewn unrhyw brifysgol o fewn yr UE. Yn ymarferol, nid yw hyn mor hawdd ag y mae’n swnio. Bydd angen i ti fod yn rhugl yn iaith y wlad dan sylw i fanteisio ar hynny. Bydd angen y stamina arnat hefyd i ymchwilio i gyrsiau a threfniadau ymgeisio.

Does dim i rwystro neb rhag ymgeisio am le mewn unrhyw brifysgol mewn unrhyw fan yn y byd os yw’r brifysgol honno yn derbyn myfyrwyr tramor ac y gelli di dalu. Mae nifer fach iawn o fyfyrwyr o’r DG yn dilyn y llwybr hwn, fel arfer yn UDA, ond bydd angen arian ynghyd â phenderfyniad arnat.

Os hoffet ti wybod mwy, dechreua gyda thipyn o ymchwil sylfaenol yn llyfrgell dy Ganolfan Gyrfaoedd leol, yna cysyllta â’r llysgenhadaeth berthnasol yn uniongyrchol.

Cyrsiau yn y DG sy'n mynd â ti dramor (Haws)

Cyrsiau iaith

Mae’r rhan fwyaf o raddau ieithoedd modern yn golygu treulio hyd at flwyddyn dramor, un ai fel ‘assistant/e’ neu fel myfyriwr mewn prifysgol dramor. Yn Ewrop y mae’r rhan fwyaf o’r ‘blynyddoedd pontio’ hyn ond gallant fod tu hwnt i Ewrop, yn dibynnu ar yr iaith/ieithoedd sy’n cael eu hastudio.

Cyrsiau sy’n cyfuno iaith

Os byddi di’n cyfuno iaith gyda rhywbeth arall fel astudiaethau busnes, y gyfraith, gwyddoniaeth neu beirianneg mae’n bosib y bydd y cwrs yn golygu cyfnod o amser mewn prifysgol dramor neu ar brofiad gwaith dramor. Mae rhai o’r cyrsiau hyn yn arwain at gymwysterau DG/Ewropeaidd deuol.

Cyrsiau ar wahân i iaith

Mae rhai cyrsiau ar wahân i iaith yn cynnig y cyfle i astudio dramor fel rhan o’r cwrs. Mae’r rhain yn dod yn fwy poblogaidd gyda rhai, fel arfer y rhai sydd â sail busnes neu dechnolegol , yn cynnwys astudio neu weithio mewn llefydd fel Awstralia, Canada, UDA neu’r Dwyrain Pell.

Siarad o brofiad...

Mi fydd byw dramor yn dysgu rhywbeth i chi am ffordd wahanol o fyw... mwy>>

Ian Rennie

Mae’r cynllun ERASMUS yn caniatáu i brifysgolion yn Ewrop drefnu ymweliad cyfnewid addysgiadol neu at ddibenion astudio gyda phartner sefydliadau ar gyfer eu myfyrwyr. Byddet yn synnu at yr amrywiaeth o gyrsiau sy’n cynnig yr opsiwn hwn. Er nad oes rhaid i ti fod yn cymryd iaith fel rhan o dy radd, efallai y cei di broblemau’n ymdopi onid oes gen ti rai sgiliau iaith ymlaen llaw (e.e. lefel A).

TIP TANBAID!

Beth am wella dy sgiliau iaith cyn astudio dramor drwy gael gwaith dros yr haf neu waith ar Flwyddyn Allan

Ìý

Ìý

Lincs

Hefyd...
Blwyddyn allan
Pa brifysgol?

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý