Myfyriwr
Socrates/Erasmus
Oed:
34
Yn
wreiddiol o: British Columbia Canada
Bellach
yn byw yn: Aberystwyth Ceredigion
Coleg
neu Brifysgol:
Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn astudio'r Gyfraith
a Ffrangeg gyda'r bwriad o fynd yn gyfreithiwr
rhyngwladol. Dan gynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd,
mi wnes i dreulio blwyddyn rhwng 1999 a 2000
yn astudio'r Gyfraith drwy gyfrwng y Ffrangeg
yn Universite Catholique de Louvain, Louvain-La-Neuve,
Gwlad Belg.
Pam:
Roeddwn i eisiau gwella fy Ffrangeg a dysgu
am y gyfraith mewn gwlad arall. Roedd Gwlad
Belg yn ymddangos yn ddewis doeth gan fod pencadlys
yr Undeb Ewropeaidd yno. Roedd yn gwneud synnwyr
economaidd hefyd, gan y byddai'n dipyn rhatach
treulio blwyddyn yno nag un arall ym Mhrydain...
ac i fod yn onest, mae'r coffi allan yno dipyn
yn well na'r coffi yma!
Sut:
Doedd hi ddim yn anodd. Roedd y brifysgol yma'n
drefnus iawn, fel y brifysgol draw yno. Y sefydliadau
yma wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith trefnu. Roedd
yn rhaid i mi ddod o hyd i lety, ond mi fyddai'n
rhaid i mi fod wedi gwneud hynny beth bynnag.
Profiadau:
Mi wnes i gyfarfod pobl o sawl gwlad Ewropeaidd
arall a dysgu am eu hoff bethau a'u casbethau.
Roedd staff y coleg yn broffesiynol iawn ac
yn gymorth i danio fy chwilfrydedd.
Amser
gorau:
Medru ymlacio yn haul cynnes mis Mai, o dan
goed afalau, yng nghwmni ffrindiau.
Amser
gwaethaf:
Sefyll ar fy nhraed o flaen cynulleidfa o 400
o bobl Gwlad Belg a phanel o feirniaid amlwg
yn ystod Cystadleuaeth Dadlau Cyfraith Ddyngarol
Genedlaethol Ryngwladol Gwlad Belg, i draddodi
sylwadau agoriadol fy nhîm mewn ailgread o Dribiwnlys
Troseddau Rhyfel. Gorfod sefyll ar fy nhraed
a dweud rhywbeth yn fy ail iaith... mi ellwch
chi ddychmygu! Mi wnes i hefyd fynd i dorri
fy ngwallt, ond mae gan Rif 1 a Rhif 2 enwau
hollol wahanol yng Ngwlad Belg. Gofynnais am
'tondeuse', gan feddwl mai toriad syml oedd
hwnnw. Ond torrwyd fy ngwallt i gyd i ffwrdd
nes fod fy mhen i'n debycach i frws. Roedd yn
fis Ionawr hynod o oer!
Cyngor:
Mi fyddwn i'n argymell Erasmus i unrhyw un.
Un peth yw siarad iaith, peth arall yw medru
byw drwy gyfrwng yr iaith honno o ddydd i ddydd.
Mi fydd byw dramor yn dysgu rhywbeth i chi am
ffordd wahanol o fyw, ond yn bwysicach, bydd
yn eich gorfodi i ddod i delerau â'ch ffordd
chi o fyw.
|