| |
Twf
Democratiaeth
David Lloyd George
Rhagor o ddiwygiadau
Yn 1867 mae’r Ceidwadwyr o dan Disraeli yn sicrhau ail fesur diwygio
sy’n rhoi’r bleidlais i bob gwryw sy’n talu trethi yn y bwrdeistrefi.
Yn 1871, yn rhannol am fod y Rhyddfrydwyr Cymreig yn cael eu herlid
gan y tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd. Yn
1884 mae’r Rhyddfrydwr yn sicrhau mesur arall sy’n rhoi’r un hawliau
pleidleisio i’r siroedd ag sydd gan y bwrdeistrefi. Yn y flwyddyn
ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad mae ardaloedd trefol a diwydiannol
Cymru’n cael rhagor o seddau yn y Senedd ar draul y siroedd gwledig
a’r trefi marchnad bychain. O ganlyniad mae gan Gymru 34 o aelodau
seneddol, 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac 8 yng ngweddill
de Cymru.
Yn 1918 rhoddir yr hawl i bleidleisio i bob dyn dros un ar hugain
oed, ag eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Y mae gwragedd dros ddeg
ar hugain oed yn cael yr un hawl. Yn 1928 mae pob menyw yn cael yr
un hawliau pleidleisio a’r dynion. Yn 1948 mae’r hawl i fwy nag un
bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod â gradd prifysgol
- yn cael ei ddiddymu. Etholiad Cyffredinol 1950 felly yw etholiad
gwir democrataidd cyntaf Prydain. Mae llywodraeth leol hefyd yn cael
ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888
a ffurfio cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.
Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol
Yn y 1850au yr oedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn
perthyn i’r dosbarth tiriog; erbyn 1906 mae’r landlordiaid bron wedi
diflannu o Dy’r Cyffredin. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau
1868 ac 1885. Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig
ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd
megis Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog
Wynnstay ac etifedd Gelli Aur, y mwyaf a’r ail fwyaf o’r stadau Cymreig.
Er bod rhai o’r teuluoedd sy’n berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid,
Torïaid yw’r mwyafrif. O ganlyniad i hynny, mae Cymru’n cael ei chynrychioli
yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond
pedwar Ceidwadwr sy’n cael eu hethol, a dim un yn 1906.
Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr Y
Blaid Ryddfrydol sy’n elwa fwyaf o’r diwygiadau - y brif blaid wleidyddol
yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Mae’r blaid yn llwyddo i ddenu
cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas. Mae diwydianwyr yn
hoffi polisi marchnad rydd y blaid, mae’r dosbarth proffesiynol yn
hoffi’r pwyslais ar hunangymorth, fel mae’r dosbarth gweithiol ar
y dechrau; mae tenantiaid ffermydd yn cefnogi mesurau diwygio’r tir,
ac mae’r Anghydffurfwyr yn gweld mai dyma’r gobaith gorau i ddatgysylltu’r
Eglwys. I ganol llwyfan Rhyddfrydol diwedd y 19eg ganrif y daw David
Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei
ethol yn aelod seneddol Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau’r 20fed
ganrif mae’n ymddangos bod yna wrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol
a’r galw am ddiwygiadau cymdeithasol. Ond mae Lloyd George, a’i gynlluniau
pensiwn i’r henoed ac yswiriant cenedlaethol, yn llwyddo i roi i’r
blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd
farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.
|
|
|
© MM
|
Ìý |
Ìý |
|
|