Datganoli a'r iaith - 1979 a 1997
29 Awst 2008
Er i ddatganoli gael ei wrthod yn refferendwm 1979 parhaodd yr ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg a hunan lywodraeth.
Daeth llwyddiant pan sefydlwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn ail refferendwm yn 1997.
Hunan lywodraeth i Gymru oedd un o bynciau mawr y dydd yn 1966 pan enillodd Plaid Cymru ei sedd gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Soniwyd gyntaf am hunan lywodraeth neu ddatganoli gan y Blaid Ryddfrydol ar ddiwedd y 19eg ganrif, ond tawelodd y sôn pan gododd Llafur i'r brig yng Nghymru.
Cododd y pwnc ei ben eto yn y 1960au pan ddechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros y Gymraeg. Er mai dau bwnc ar wahân oedd datganoli a'r iaith Gymraeg yr oedd amryw o unigolion yn cefnogi'r ddwy ymgyrch ac fe wnaeth eu gwrthwynebwyr yn fawr o hynny.
Yn y 1970 penderfynodd y Blaid Lafur wneud datganoli yn rhan o'i pholisi. Ond roedd y blaid yng Nghymru yn rhanedig. Roedd llawer o wrthwynebiad yn y cymoedd Seisnig (er nid dim ond yn y cymoedd) a hynny ar sail egwyddorion sosialaidd. Daeth yr iaith, oedd wedi bod yn fater dadleuol ers y 1960au, yn bwnc llosg iawn. Aeth rhai, megis y Neil Kinnock ifanc, ati i chwarae ar ofnau'r siaradwyr Saesneg, ac ymgyrchu yn erbyn datganoli.
Canlyniad hyn, yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 1979, oedd i ddatganoli gael ei wrthod yn bedant o bedair pleidlais i un. Gellir dadlau i ba raddau yr oedd y posibilrwydd y byddai lleiafrif Cymraeg eu hiaith yn ei lordio hi dros y mwyafrif uniaith Saesneg wedi cael effaith ar y canlyniad. Hyd yn oed yng Ngwynedd, un o gadarnleoedd yr iaith, pleidleisiwyd yn erbyn argymhellion y llywodraeth. Roedd hi'n ymddangos bod datganoli wedi marw.
Ond roedd cwestiynau am yr iaith a hunaniaeth yn aros. Dyma, yn llythrennol, ym mlynyddoedd cynnar y 1980au, bwnc llosg mawr y dydd, oherwydd dyma gyfnod yr ymgyrch llosgi tai haf - protest yn erbyn y cynnydd ym mhrisiau tai. Hawliwyd cyfrifoldeb am hyn gan fudiad yn galw'i hun yn Feibion Glyndŵr. Tua'r un adeg yr oedd ymgyrchwyr eraill yn brwydro am sianel deledu Gymraeg.
Bwriwyd y materion hyn i'r cysgodion gan streic y glöwyr yn 1984 ac 1985. Yn ôl rhai, methiant y glöwyr a 12 mlynedd o lywodraeth Geidwadol arweiniodd at feddwl eto am ddatganoli a chwestiwn hunaniaeth ymhlith yr amheuwyr oedd yn cefnogi'r Blaid Lafur.
O ganol y 1980au ymlaen yr oedd y pleidiau'n closio at ei gilydd ar fater yr iaith. Roedd Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru am i bob plentyn rhwng 5 a 16 oed astudio'r Gymraeg. Ac yn 1993 diwygiwyd Deddf Iaith 1967 gan roi statws cyfartal i'r Gymraeg a Saesneg ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Cododd datganoli ei ben eto hefyd. Symudodd pethau'n gyflym yn dilyn buddugoliaeth y Blaid Llafur yn Etholiad Cyffredinol 1979. Roedd y Blaid ar y cyfan yn unedig a chadwyd y consensws ynglŷn â'r iaith. Yn Refferendwm mis Medi 1997 pleidleisiwyd o blaid datganoli o fwyafrif bychan. Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach gan y Frenhines.
Trosglwyddwyd llawer o gyfrifoldebau'r Swyddfa Gymreig i'r Cynulliad, gan gynnwys addysg a'r celfyddydau, lle mae'r iaith yn fater amlwg. Mae'r Gymraeg bellach yn iaith y llywodraeth yng Nghymru, ac mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn y Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau mae hynny'n ymarferol, yn holl fusnes y Cynulliad ac mae'r holl is-ddeddfwriaeth yn ddwyieithog.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.