Â鶹Éç

Gerallt Gymro

top
Cerflun o Gerallt Gymro yn Neuadd y Ddinas - wedi ei dynnu gan Dom Stocqueler.

Un o'r llenorion Lladin mwyaf a godwyd yng Nghymru erioed oedd Gerallt Gymro, neu Gerald de Barri neu Giraldus Cambrensis i roi iddo fersiynau o'i enwau eraill.

Fe'i cofir yn bennaf ar gyfrif ei ddau gyfansoddiad ar Gymru, sef Itinerarium Kambriae ('Hanes y daith tryw Gymru') a Descriptio Kambriae ('Disgrifiad o Gymru'): y rhain, oherwydd eu cynnwys a brwdfrydedd yr ysgrifennu, sy'n apelio at ddarllenwyr heddiw.

Amlygir ynddynt bersonoliaeth hynaws yr awdur, y cwmnïwr difyr, y sgwrsiwr hunan-dybus, y sylwebydd ofergoelus a'r diwygiwr dysgedig.

Cyhoeddwyd cyfeithiadau Cymraeg o'r ddau gan Thomas Jones ym 1938.

Treftadaeth gymysg

Fe anwyd yr awdur ym ManorbÅ·r yn Nyfed tua 1146, yn fab i William de Barri, ceidwad castell Penfro, ac Angharad ferch Gerald de Windsor a'i wraig Nest, ac yn nai i Esgob Tyddewi, ac felly o dras Normanaidd ac yn perthyn i deulu gyda dylanwad eglwysig a seciwlar.

Dysgodd ei Ladin ym Mharis lle y bu tan 1175. Wedi dychwelyd i Gymru, fe'i penodwyd gan ei ewythr i nifer o fywoliaethau a chyn bo hir, yn rhinwedd ei swydd fel Archddiacon Brycheiniog, daeth yn ddiwygiwr eglwysig brwd. Wedi marw ei ewythr ym 1176 cafodd ei enwebu yn Esgob Tyddewi ond dychwelodd i Baris pan wrthodwyd ei enw gan y Brenin.

Craith y gwrthod

Digwyddodd hyn unwaith yn rhagor ym 1198, a gadawodd y gwrthod graith parhaol sy'n amlygu ei hun yn ei ysgrifennu.

Hyd ddiwedd ei oes honnodd Gerallt mai ei ymagwedd Gymreig ac ofn yr effaith a roddai ei ethol ar wleidyddiaeth genedlaethol yng Nghymru oedd prif achos ei wrthod.

Wedi'r siom, treuliodd weddill ei fywyd yn ysgrifennu ac yn golygu fersiynau newydd o'i lyfrau.

Am ryw ddeng mlynedd (1184-94) bu'n glerc brenhinol yn llys Harri II.

Deilliodd ei waith llenyddol o'i deithiau, yn enwedig pan fu'n cyd-deithio â'r Archesgob Baldwin trwy Gymru ym 1188 a phan fu'n gydymaith i'r Tywysog John trwy Iwerddon ym 1185.

Yn ogystal â'i ddau lyfr enwog am Gymru, lluniodd Expugnatio Hibernica (Concwest Iwerddon) a Topographia Hibernica ('Topograffeg Iwerddon'), ynghyd â nifer o weithiau eraill.

Cryfder a gwendidau'r Cymry

Cyfansoddwyd Descriptio Kambriae (1193), gwaith hynod ddiddorol, mewn dwy ran wrth-gyferbyniol, y naill yn disgrifio rhinweddau'r bobl, y llall eu diffygion.

Ymhlith eu cryfderau, yn ôl Gerallt, roedd eu diwylliant, eu dewrda a'u hyfdra, eu crafter a'u ffraethineb, eu harferion buddiol, eu croeso a'u parch at fonedd a thras.

Ond llesteirir eu lles gan eu twyll, eu diffyg parch at ffiniau a llwon, ac arferion megis y dull o etifeddu tir a gosod plant ar faeth.

Mae'r cyfan yn ddogfen tra gwerthfawr i'r hanesydd cymdeithasol, er bod rhaid ei ddefnyddio'n ofalus.

Tua ddiwedd y gwaith mae Gerallt yn cynghori'r Saeson a'r Cymry ar sut i gael y gorau o'r naill a'r llall.

Amwys yw ei agwedd mewn gwirionedd, ond ni all fod yn gwbl amhleidiol ac mae'r llyfr yn cloi gyda datganiad o ffydd yng nghyfiawnder achos y Cymry a phroffwydoliaeth yr Hen Ŵr o Bencader wrth ateb y Brenin: doed a ddêl, yr iaith Gymraeg yn unig a fydd yn ateb dros y gornel fach hon o'r ddaear.

Bu farw Gerallt ym 1223. Fe'i claddwyd yn eglwys gadeiriol Tyddewi ac fe all delw sydd i'w weld tu fewn hyd heddiw fod yn bortread ohono.

Meic Stephens (Llun gan Dom Stocqueler)


Bywyd

John Charles

Pobl

A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.