Yr Ail Ryfel Byd
Fe wnaeth y rhyfel ddatrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn 1941 roedd swydd gan bron bawb oedd yn abl i weithio, ac roedd canran y menywod a ymunai â'r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Ar ben hynny, lladdwyd tua 15,000 o Gymry yn y rhyfel a galwyd ar lawer mwy i fynd i weithio mewn ffatrïoedd yn Lloegr. Gwellodd cyflogau, a chan nad oedd llawer o nwyddau ar gael i'w prynu, canfu teuluoedd y dosbarth gweithiol am y tro cyntaf fod ganddynt ychydig o arian wrth gefn.
Credid bod Cymru'n rhy bell i'r gorllewin i gyrchoedd awyr yr Almaenwyr; gwnaeth y faciwîs ac eraill oedd yn ffoi rhag y bomio ychwanegu rhyw 200,000 at nifer trigolion Cymru. Ond di-sail oedd y gred bod Cymru'n ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd awyr enbyd ar Abertawe ym mis Chwefror 1941. Serch hynny, sefydlwyd nifer o ddiwydiannau rhyfel yng Nghymru oherwydd y gred ei bod yn lle diogel, gan gynnwys ffatri arfau enfawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Crebachodd y galw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, gan greu gobaith y byddai mwy o amrywiaeth yn yr economi Gymreig wedi'r rhyfel. Câi ffermwyr fwy o arian am eu cynnyrch oherwydd y prinder bwyd a rhoddodd hyn hwb newydd i'r byd amaeth.
Wrth i'r rhyfel lusgo ymlaen roedd teimlad o benderfyniad yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, na fyddai dioddefaint y 1930au yn cael ei ailadrodd. Dyma efallai'r prif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1945.