Y Rhyfel Byd Cyntaf
Bu farw tua 40,000 o Gymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un agwedd oedd y marwolaethau o'r helbulon ddaeth yn rhan o brofiad y Cymry fel y gwnaeth i weddill trigolion Ewrop.
Un o brif ganlyniadau'r rhyfel oedd ei effaith ar yr economi. Cyrhaeddodd y diwydiant cynhyrchu glo ei benllanw yn 1913; doedd modd cynnal y lefel cynhyrchu hwnnw, ond oherwydd gofynion y rhyfel a'r ffyniant rhyfeddol a welwyd yn union wedi i'r rhyfel orffen, ni fu adolygiad rhesymegol o'r lefelau cynhyrchu.
Daeth diwedd ar y ffyniant yn 1921, rhagflas o'r dirwasgiad a fyddai'n ganolog i'r blynyddoedd canlynol. Oherwydd y rhyfel collwyd ffydd yn y Blaid Ryddfrydol a chwalwyd yr optimistiaeth a nodweddasai bywyd yng Nghymru cyn y rhyfel. Trodd cenedligrwydd Cymreig, oedd mor gadarn ar droad y ganrif, yn rhywbeth oedd angen ei amddiffyn a'i warchod. Cafodd y rhyfel effaith ddofn ar y cefn gwlad gan roi'r ergyd farwol i stadau'r tirfeddianwyr. Dechreuodd crefydd gyfundrefnol, a fu mor amlwg yng Nghymru oes Victoria ac Edward VII, ddirywio'n gyflym, yn rhannol am fod ymgyrchoedd recriwtio rhai clerigwyr yn ystod y rhyfel wedi creu sinigiaeth eang.
Helyntion diwydiannol
Gan fod gobeithion y bobl yn uchel, diolch yn rhannol i'r chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia a'r disgwyliad y byddai aberth y miloedd yn y rhyfel yn creu cymdeithas decach, roedd y blynyddoedd yn syth wedi'r rhyfel yn rhai o anniddigrwydd.
Roedd Cymdeithas Sosialaidd De Cymru yn rhan o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac ystyriai Lenin Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn fudiad oedd ar flaen y gad yn y chwyldro ym Mhrydain. Yn 1919 gellid credu bod y llywodraeth ar drugaredd y glowyr oedd yn galw am wladoli'r diwydiant, ond llwyddodd Lloyd George yn ddeheuig iawn i sicrhau parhad yr hen drefn. Er gwaethaf streic chwerw yn 1921 collwyd llawer o'r buddiannau a enillodd y dosbarth gweithiol yn ystod y rhyfel.
Yn 1926 trefnodd Cyngres yr Undebau Llafur streic gyffredinol i geisio gorfodi'r llywodraeth i ildio i alwadau'r glowyr. Ond corff cymedrol oedd y Gyngres heb stumog mewn gwirionedd ar gyfer gweithred mor chwyldroadol.
Arweiniodd methiant y streic a brwydr hir y glowyr yn at dranc y gred mewn syndicaliaeth, er i'r Comiwnyddion, oedd â dylanwad mewn rhannau o'r maes glo, gadw eu ffydd yng ngallu gweithredu diwydiannol i greu newid.