Aflonyddwch y dosbarth gweithiol
Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, dim ond 10% o'r boblogaeth oedd yn dibynnu'n uniongyrchol ar amaethyddiaeth: roedd Cymru erbyn hynny'n amlwg yn wlad ddiwydiannol. Er bod Lloegr a'r Alban yr un mor ddiwydiannol, roedd y dosbarth canol yng Nghymru yn llai, a gellid dadlau mai Cymru oedd y wlad broletaraidd gyntaf yn y byd.
Erbyn 1900 roedd yng Nghymru draddodiad hir o brotestio ymhlith y dosbarth gweithiol. Bu helyntion difrifol yn Nhredegar yn 1816, ac roedd y Teirw Scotch - grŵp oedd yn ceisio uno'r dosbarth gweithiol trwy ddulliau braw - yn weithgar iawn yn Sir Fynwy.
Targed llawer o'r protestio oedd y meistri haearn a'u gafael tyn ar fywydau'u gweithwyr. Y meistri haearn oedd y cyflogwyr, a hwythau hefyd oedd y landlordiaid, perchnogion siopau'r gweithfeydd a rheolwyr hynny o lywodraeth leol ag a fodolai. Mewn rhai achosion roedden nhw hefyd yn ynadon lleol.
Merthyr Tudful yn 1831 oedd lleoliad y gwrthryfel gwaethaf i'w weld ym Mhrydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un rheswm am y gwrthryfel oedd yr ansefydlogrwydd a grëwyd gan y galw am ddiwygio'r senedd. Ond yn y bôn, y rheswm am y gwrthryfel oedd profiadau unigryw'r Cymry o'r chwyldro diwydiannol. Cafodd o leiaf 20 o bobl eu lladd y tu allan i westy'r Castell yn y dref a chrogwyd Richard Lewis (Dic Penderyn).
Roedd gwrthryfel y Siartwyr yn 1839 yr un mor waedlyd. Galwai'r Siartwyr am bleidlais i bob dyn a threfnwyd gorymdaith i Gasnewydd, yn rhannol i brotestio ond yn rhannol hefyd i geisio ysgogi chwyldro. Cafodd o leiaf 20 eu lladd ger Gwesty Westgate yn y dref, a chafodd yr arweinwyr eu halltudio, gan gynnwys John Frost, a fu ar un adeg yn faer y dref.
Twf undebau llafur
Yn ôl yr hanesydd disglair, Gwyn Alfred Williams, daeth cyfnod cyntefig y dosbarth gweithiol Cymreig i ben adeg terfysg Merthyr. Roedd y pwyslais o hynny ymlaen ar drefniadaeth.
Daeth undebaeth lafur i Gymru yn 1830 pan ymunodd glowyr Sir y Fflint â'r Friendly Associated Coalminers Union; ffurfiwyd undeb ym Merthyr flwyddyn yn ddiweddarach. Hanes cymysg sydd i undebaeth yn yr hanner canrif ddilynol. Aflwyddiannus fu ymdrechion Robert Owen o'r Drenewydd, arloeswr yn y maes cydweithredol, i greu un mudiad i'r dosbarth gweithiol yn 1834. Ffurfiwyd undebau i'r crefftwyr yn y 1850au, ond ar gyfer mathau arbennig o weithwyr yn unig.
Ddechrau'r 1870au ceisiodd y glowyr ffurfio undeb effeithlon, ond bu'r ymgais yn aflwyddiannus oherwydd gwrthwynebiad y cyflogwyr. Yn y degawd dilynol, sefydlwyd undebau lleol, yn arbennig yng Nghwm Rhondda, oherwydd ymdrechion pobl fel William Abraham (Mabon).
Daeth 'Undebaeth Newydd' i amlygrwydd ar ddechrau'r 1880au, yn enwedig ymhlith y docwyr a gweithwyr y rheilffyrdd. Ond o gofio pwysigrwydd y diwydiant glo yng Nghymru, y datblygiad allweddol oedd ffurfio Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898. Collodd aelodau'r 'Fed' ffydd yn nulliau cymedrol arweinwyr megis Mabon ac enillodd y ffederasiwn mwy o aelodau na fu gan yr un sefydliad secwlar arall yn hanes Cymru.