Cymru Fydd
Sefydlwyd mudiad Cymru Fydd yn 1886 ac roedd iddo fwy nag un amcan, rhai efallai yn groes ddweud ei gilydd. Roedd yn ceisio hyrwyddo amcanion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru, hybu ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb a chefnogi achos datganoli i Gymru. Yn y 1890au daeth yn gyfrwng i hybu uchelgais Lloyd George, a frwydrodd yn galed i geisio rhoi mwy o stamp Cymreig ar bolisïau'r Rhyddfrydwyr yng Nghymru. Ond mewn cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 dangosodd canran helaeth o gefnogwyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru bod hyn yn annerbyniol, ac erbyn diwedd y ganrif daeth y mudiad i ben.
Atgyfodwyd y syniad o hunan lywodraeth yn 1910 gan E T John, yn benodol yng nghyd-destun Iwerddon a'r tebygrwydd y byddai'r Gwyddelod yn cael llywodraethu eu hunain. Trafodwyd y pwnc yn helaeth eto yn y blynyddoedd yn syth wedi'r rhyfel, ac er i Gymru gael rywfaint o ddatganoli gweinyddol, ni fu unrhyw newid sylfaenol.
Yn 1925 ffurfiwyd Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru, the Party of Wales yn ddiweddarach) ond plaid ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru oedd hi, tan o leiaf y 1950au.
Y genedl yn newid
Y ddelwedd a geir gan Thomas Edward Ellis a'r addysgwr o fri, Owen M Edwards, yw o Gymru fel gwlad o bobl ddarbodus sy'n ofni Duw, yn siarad Cymraeg ac yn byw yn y wlad. Ond erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, nid dyna fel roedd pethau mewn gwirionedd. Gyda dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn siroedd Morgannwg a Mynwy roedd mwyafrif y Cymry'n byw mewn cymunedau trefol a diwydiannol. Er yr adfywiad crefyddol a daniwyd gan ddiwygiad 1904-05, roedd secwlariaeth ar gynnydd. Yn 1901 roedd hanner trigolion Cymru'n siarad Cymraeg ond roedd y ganran wedi gostwng i 43% erbyn 1911, gyda naw o bob deg ohonynt yn honni eu bod yn deall rhywfaint o Saesneg. Codai'r newidiadau hyn gwestiynau ynglŷn â natur Cymreictod, pwnc a fyddai'n achosi gwewyr a dadlau mewn blynyddoedd i ddod.