Cartrefi'r Celtiaid
topEwch yn ôl mewn amser i Oes yr Haearn pan oedd Celtiaid Cymru yn byw mewn bryngaearau a thai crwn. Yma cewch hanes olion Celtaidd Castell Bryn Gwyn a Din Lligwy.
Castell Bryn Gwyn
Mae Castell Bryn Gwyn wedi ei amddiffyn gan ffos uchel ac, yn anarferol, mae wedi ei leoli ar dir gwastad. Wedi cloddio yno yn 1959 a 1960 darganfuwyd fod y rhagfur a'r ffos, sydd bellach wedi ei lenwi, yn debyg o ran ffurf i amddiffynfeydd bryngaerau.
Dangoswyd hefyd bod gan Gastell Bryn Gwyn hanes hir a chymhleth o gael ei ddefnyddio.
Mae darnau o fflint a chrochenwaith o'r oes Neolithig a ganfuwyd yn y ffos yn awgrymu bod tir wedi ei amgáu yma mor bell yn ôl â thua 2000CC.
Ail-adeiladwyd yr amddiffynfeydd yn ddiweddarach yn ystod Oes yr Haearn.
Mae'r ffos sy'n ei amgylchynu wedi goroesi'n dda - o glai a graean 10m o led a 2m o uchder yn amgylchynu ardal wastad sy'n 17m mewn diamedr; mae cloddiau cerrig yn ei atgyfnerthu erbyn hyn.
Roedd y safle wedi ei amgylchynu yn wreiddiol gan ffos ddofn ond nid yw hon i'w gweld bellach. Mae rhywfaint o ddifrod wedi ei wneud i'r safle yn sgîl adeiladu'r ffermdy gerllaw. Rheolir y safle gan Cadw.
Din Lligwy
Mae hwn yn safle diddorol tu hwnt ac yn werth ei weld. Mae'r clwstwr enwog o dai carreg wedi eu hamgáu oddi mewn i fur carreg yn nwyrain Ynys Môn.
Mae'n gyfuniad diddorol o gytiau crwn a phetryal ac mae rhai archeolegwyr yn awgrymu ei fod yn nodweddiadol o fila o Oes yr Haearn.
Mae waliau cerrig y tai a'r amddiffynfeydd yn cynnwys slabiau o galchfaen sy'n sefyll i fyny ar eu hochrau. Byddai rhai o'r adeiladau yma wedi bod yn llefydd byw ac eraill yn weithdai.
Mae darganfyddiadau ar y safle yn cynnwys gwaith metel, crochenwaith a gwydr sy'n arwydd fod pobl wedi byw yma hyd at gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae'r safle ar glogwyn isel ac mae'n werth mynd pe bai ond i weld yr olygfa. Mae mynediad i'r safle drwy adeilad petryal ar yr ochr ddwyreiniol - ysgubor oedd hefyd yn borth.
Mae nifer o nodweddion trawiadol yn perthyn i Din Lligwy. Mewn un cornel mae gweddillion tÅ· mawr trawiadol, cylch o galchfeini wedi'i adeiladu'n gelfydd gyda grisiau yn arwain at y fynedfa. Hwn oedd y prif gartref ac mae'r darganfyddiadau yma yn cynnwys ingot arian, crochenwaith a phethau gwydr.
Mae haneswyr yn awgrymu bod yr adeilad crwn arall yn y gornel de-ddwyreiniol wedi bod yn gartref hefyd, tra fod y ddau adeilad petryal mwyaf, yn y gornel ogledd-ddwyreiniol ac yn erbyn y wal ddeheuol, yn weithdai gyda rhesi o ffwrneisi i weithio haearn a thomenni slag.
Mae'r safle, fel mae'n sefyll heddiw, yn ganlyniad, fwy na thebyg, i gyfnod hirfaith o ddatblygiad, ac efallai bod y wal sy'n ei amgáu hyd yn oed, wedi ei adeiladu mewn dwy ran gan fod newidiadau amlwg yn y steil adeiladu. Mae'r safle'n cael ei gynnal gan Cadw.