Cartrefi'r Celtiaid
topDarganfuwch hanes y Celtiaid a'u cartrefi yn ystod yr Oes Haearn yng Nghymru. Yma, gallwch ddysgu mwy am olion Celtaidd Garn Fadryn a Thre'r Ceiri.
Garn Fadryn, Pen LlÅ·n
Mae Garn Fadryn, wedi ei leoli ynghanol prydferthwch Penrhyn Llŷn. Mae'n fryngaer bum hectar ar fynydd serth 371 medr o uchder sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn.
Mae'r prif ragfuriau yn amgylchynu 10 hectar o'r copa, ac mae'r amddiffynfa fewnol yn amgylchynu clwstwr o sylfaeni cytiau crynion.
Tre'r Ceiri, Nefyn
Os ydych chi'n dewis ymweld â dim ond un safle o Oes yr Haearn yng Nghymru, mae'n debyg mai Tre'r Ceiri ddylai hwnnw fod. Mae'n cael ei adnabod fel y bryngaer mwyaf trawiadol yng ngogledd Cymru.
Mae muriau carreg sylweddol yn amgylchynu'r safle cyfan sy'n dal i sefyll i uchder o dros 3 medr mewn mannau.
Gyda golygfeydd godidog mae'r bryngaer yn eistedd ar gopa un o fynyddoedd yr Eifl.
Mae nifer o waliau cerrig ynghyd ag adfeilion 150 o gytiau i'w gweld yma, rhai ohonynt â waliau dros fetr o uchder. Mae rhai o'r tai yn grwn, ac eraill yn hirsgwar a hirgrwn. Mae'r cytiau wedi eu codi mewn grwpiau o bedwar neu bump ar draws y gaer. Maent yn amrywio o ran maint a siâp: mae rhai o'r tai crynion yn 8 medr ar draws ac eraill yn llai na 3 medr ar draws.
Wedi ei leoli ar gopa cul y bryn, mae tua 2.5ha o dir wedi ei amgáu o fewn y safle gyda'r brif fynedfa yn y rhan isaf, orllewinol, a mynedfa arall yn y gogledd. Mae carnedd o'r Oes Efydd yn coroni'r safle.
Bryn y Castell, Ffestiniog
Mae'n werth ymweld â Bryn y Castell. Cloddiwyd y fryngaer fechan yma ger Ffestiniog yn 1979-85 ac ers hynny mae'r rhagfuriau a rhai adeiladau o'i mewn wedi'u hail adeiladu yn rhannol, gan roi syniad da o sut y gallai fod wedi edrych.
Oherwydd hyn mae'n werth mynd i weld Bryn y Castell. Wrth fynd i mewn i'r gaer, sylwch ar y cerrig sy'n nodi'r tyllau pyst a oedd unwaith yn cynnal cilbyst mawr. Yn ystod Oes yr Haearn, byddai'r tu mewn i'r gaer yn orlawn o adeiladau amrywiol.
Mae gwaith cloddio ar y safle wedi esgor ar dystiolaeth werthfawr o fwyndoddfa haearn, oddi mewn i'r gaer ac mewn cwt crwn. Chwiliwch am y tai crwn siâp malwen - mae archeolegwyr yn credu mai yma oedd yr efail a'r fwyndoddfa haearn. Mae adeiladau eraill wedi'u marcio gan gerrig crynion ac mae'r hen waliau o bolion pren yn awr wedi'u nodi gan gerrig syth.
Mae'r dystiolaeth yn dangos fod y safle yn cynhyrchu haearn yn niwedd Oes yr Haearn ac yn y cyfnod yn fuan ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Byddai'r Celtiaid yn defnyddio mwyn haearn o'r gors islaw'r mawn sy'n amgylchynu'r bryniau ar gyfer mwyndoddi a gweithio haearn.