Hanes Hwlffordd
topY pla du, rhyfeloedd cartref, ymosodiadau brenhinol - mae i dref a chastell Hwlffordd hanes cythryblus a diddorol iawn.
Yn fwy na thebyg roedd yna gaer ar y bryn ar safle'r castell yn ystod yr Oes Haearn (mae nifer o'r rhain yn dyddio o'r Oes Efydd) o ystyried ei safle amddiffynnol gwych a'i ddominyddiaeth ar ryd isaf y Cleddau.
Mae cestyll yng Nghymru yn aml yn meddiannu safleoedd yr Oes Haearn gan eu bod yn safleoedd amddiffynnol mor dda yn y tirlun gydag amddiffynfeydd o ran cloddiau a ffosydd y gellid eu hadnewyddu'n sydyn a'u cynnwys yn y castell cynnar. Yn anffodus mae adeiladwaith y castell wedi cuddio holl olion gweddillion yr Oes Haearn.
Sefydlwyd Castell Hwlffordd tua 1110, a fwy na thebyg sefydlwyd y dref tua'r un pryd.
Tancred y Ffleminiad adeiladodd y castell yn wreiddiol felly Ffleminaidd nid Normanaidd oedd y dref ganoloesol a'r castell. Darn bach o Fflandrys yng Ngorllewin Cymru. Roedd yn amddiffyn y prif ardal o aneddiad Ffleminaidd yn Sir Benfro, Cantref Rhos, i'r gorllewin. Parhaodd y castell yn nwylo teulu Tancred tan 1210.
Roedd y Ffleminiaid wedi ymgartrefu yn yr ardal o 1108 er mwyn amddiffyn y gadarnle Normanaidd ym Mhenfro rhag ymosodiadau Cymreig o'r gogledd.
Fel nifer o gestyll yng Nghymru, mae Hwlffordd yn agos i'r môr oedd yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu mewn ardal oedd yn aml yn elyniaethus. Dyna sut y datblygodd yn borthladd.
Castell pren wedi ei gynllunio ar frys fyddai'r castell gwreiddiol wedi bod ar ddull tomen a beili neu mae'n bosib ar ffurf cynllun amddiffynfa gylch.
Datblygodd y dref yn wreiddiol yn dilyn adeiladu'r castell ar y llethrau gogleddol a gorllewinol cyfagos i'r castell yn yr ardal lle mae Sgwâr y Frenhines, Lôn Hayguard ac Eglwys Martin Sant heddiw. Buasai muriau'r dref wedi bod yno, mewn pren yn wreiddiol, ond fwy na thebyg wedi eu hailadeiladu mewn carreg yn ystod y 1200au. Roedd y muriau yn adfeilion erbyn cyfnod y Rhyfeloedd Cartref yn yr 1640au ac wedi diflannu fwy na heb ers hynny.
Ymosodwyd ar y castell fwy na thebyg yn ystod yr ymladd gyda Gruffydd ap Rhys Tywysog y Deheubarth yn 1135 - 1136 ond mae'n ymddangos y gwrthodwyd unrhyw ymdrechion Cymreig i feddiannu'r castell.
Yn 1188 Ymwelodd Gerallt Gymro â Hwlffordd yn ystod ei daith o gwmpas Cymru yn pregethu ar ran y 3ydd croesgad y gwnaeth Richard I (Lion Heart) arwain i'r Tir Sanctaidd.
Erbyn 1200 roedd gan y castell ei adeiladau carreg cyntaf gyda'r tŵr petryal gogledd ddwyreiniol oedd yn gweithredu fel y gorthwr yn cael ei ail-adeiladu mewn carreg.
Mae'n debygol i William Marshal ail-adeiladau'r castell mewn carreg yn ystod y cyfnod yma (roedd eisoes yn gwneud yr un peth ym Mhenfro). Byddai muriau coed, tyrau a phorthdai eu cyfnewid am garreg.
Yn 1220 ymosododd Llywelyn Fawr a'i lu ar y dref gan ei llosgi ond methodd â chipio'r castell. Erbyn y 13eg ganrif gwelwyd twf sylweddol y dref fel canolfan fasnachol yn sgil ei safle ynghanol Sir Benfro a'i chysylltiadau â'r môr.
Yn 1257 fe ymwrthododd Hwlffordd ymosodiad gan Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Gwynedd ac yn ddiweddarach Tywysog Cymru (Llywelyn ein Llyw Olaf).
Yn 1289 derbyniodd Y Frenhines Elinor y castell gan Humphrey de Bohun III. Benthyciodd y swm o £407 ar gyfer gwelliannau. Dyma'r cyfnod olaf o adeiladu mawr yn y canoloesoedd gydag adeiladu carreg helaeth i'r de a'r dwyrain o'r cwrt mewnol. Mae mwyafrif adfeilion y castell a welir heddiw yn dyddio nôl o'r cyfnod yma. Gallai'r prosiect fod heb ei orffen gan i Elinor farw yn 1290. Parhaodd y castell mewn dwylo Brenhinol ond fe'i osodwyd i denantiaid amrywiol.
Roedd tref ganoloesol Hwlffordd wedi cyrraedd uchafbwynt cyn dyfodiad y Pla Du. Mae'n un o brif drefi Cymru ac mae maint a phwysigrwydd y dref yn cael ei nodi gan dair eglwys blwyf. Roedd cynhyrchu brethyn a phresenoldeb y porthladd, marchnadoedd a ffeiriau a'i safle canolog yn ei alluogi i dderbyn nwyddau o weddill Sir Benfro oll yn ffactorau oedd yn golygu ffyniant i'r dref.
Ond gyda dechrau'r Pla Du roedd colledion mawr yn y boblogaeth a'r economi gyda llawer o dai ac eiddo yn cael eu gadael yn wag.
Yn 1405 dioddefodd y Castell ymosodiad arall gan fyddin Gymreig / Ffrangeg Owain Glyndŵr. Ond methiant fu'r ymgyrch a chryfhawyd y castell ymhellach ar ôl hyn gyda thŵr newydd.
Yn 1479 derbyniodd Hwlffordd Siarter Brenhinol a statws tref a sir. Roedd yn amlwg fod Castell Henffordd yn bluen yng nghap y teulu breninol. Yn 1532, fe wnaeth Harri VIII yn rhoi'r castell i Anne Bolyn. Bu yn ei meddiant tan ei dienyddiad yn 1536.
Gyda'r ail Ddeddf Uno yn 1543, cadarnhawyd statws anghyffredin i Hwlffordd, o fod yn dref a sir, gydag Aelod Seneddol, Siryf a Llys y Sesiwn Fawr. Daeth Hwlffordd hefyd yn brif dref Sir Benfro gan wasanaethu fel ei chanolfan weinyddol a masnachol.
Yn ystod blynyddoedd cynnar yr 17eg ganrif, cyrhaeddodd Hwlffordd ei safle ucha o ran cyfoeth a phwysigrwydd cyn cael ei ddifetha gan y Rhyfeloedd Cartref a'r pla a ddilynodd.
Yn 1648 roedd y castell yn darged i Oliver Cromwell wnaeth roi gorchymyn i'w luoedd ddinistrio'r castell. Cafodd ei rhannol ddinistrio a chollodd ei statws. Gwanhau wnaeth y dref ymhellach yn 1652 wrth iddi wynebu'r achos mawr olaf o'r pla gyda tua 300 allan o boblogaeth o 2500 farw o fewn chwe mis.
Adferwyd Hwlffordd wedi'r Rhyfeloedd Cartref a'r pla ond heb adennill y pwysigrwydd oedd gan y dref cyn hynny, gan gael ei ddisodli'n gyflym gan drefi megis Abertawe a Chaerfyrddin.
Yn 1996 daeth Hwlffordd unwaith eto yn bencadlys Cyngor Sir Benfro yn dilyn creu awdurdodau unedol. Roedd hyn wedi diflannu yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974.
Erthygl gan David Llewellyn o'r Archifdy yng nghastell Hwlffordd a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan Â鶹Éç Lleol.