麻豆社

Hanes Cwm Gwendraeth-Parhad

top
Castell Cydweli

Mwy o hanes Cwm Gwendraeth yn cynnwys ei hunig dref, Cydweli a hanes prydferthwch twyllodrus traeth Cefn Sidan.

Cyfnod Cythryblus

Owain Glyndwr
Owain Glyndwr

Yn ogystal 芒 Gwenllian, cysylltir Cydweli hefyd 芒 chwedl y gath ddu. Mae'r gath i'w gweld ar arfbais Cydweli yn dilyn yr hen draddodiad mai dyma'r creadur cyntaf a welwyd yn y dref wedi'r distryw gan y pla du. Efallai mai dyma tarddiad y gred fod gweld cath ddu yn lwcus!

Yng nghanol y dref saif y castell. Cafodd ei godi'n wreiddiol o bridd a choed tua 1106 yn ystod teyrnasiad Harri'r I. Rhoddodd Harri'r I diroedd Cydweli i Roger, Esgob Salisbury, a chododd ef gastell Normanaidd ar y graig uwchben yr afon. Bu'r castell yn nwylo'r Cymry am rai cyfnodau. Dyma lle y bu farw Maredudd mab yr Arglwydd Rhys a llosgwyd y castell gan ei frawd Rhys Grug ym 1215.

Dro ar 么l tro daliwyd y castell gan y Cymry a'i adennill wedyn gan y Normaniaid. Ym 1275 cafodd ei ailgodi, y tro hwn gyda cherrig. Yna yn y 14eg ganrif estynnwyd yr amddiffynfeydd ac adeiladwyd rhagfur allanol. Ni orffennwyd y ty porth tan y 1420au ar 么l gwrthryfel Glyndwr.

Yn ystod rhyfel Glynd诺r ym 1403 bu gwarchae ar y castell dan arweiniad g诺r lleol sef Henry Dwnn. Parodd y gwarchae am dair wythnos a chwalwyd muriau'r dref a difrodwyd adeiladau. Ond ni lwyddwyd i gipio'r castell. Wedi hyn dechreuodd y dref ddatblygu yr ochr arall i'r afon ac yma y mae'r rhan helaethaf o'r dref o hyd.

Olion Hynafol

Hen Gyffion Cydweli
Hen Gyffion Cydweli

Yng Nghydweli heddiw mae nifer o nodweddion hynafol. Un o'r rhain yw Eglwys y Santes Fair a adeiladwyd ym 1320 ar safle adeilad cynharach er mwyn gwasanaethu'r Priordy Benedictaidd gerllaw. Sefydlwyd hwnnw gan y Normaniaid tua 1136. Nodwedd arall yw'r bont ganoloesol sy'n croesi'r Gwendraeth Fawr. Arferai'r afon rannu'r hen Gydweli gyda'r castell a'r dref gaerog ar y naill ochr a'r dref newydd ar y llaw arall. Mae'r bont a adeiladwyd yn y 14eg ganrif yn cysylltu'r ddwy safle.

Yn ymyl y bont, yn wynebu'r afon, mae Capel Sul. Ond nid capel oedd ar y safle hwn yn wreiddiol. Ers talwm safai Rumsey House yma, cartref y cyfreithiwr Harold Greenwood. Daeth Harold Greenwood yn enwog ym 1920 pan safodd ei brawf am lofruddio'i wraig a gafodd ei gwenwyno gydag arsenig. Wedi prawf hir dyfarnwyd ef yn ddieuog.

Camlas cyntaf Cymru

Camlas Cydweli
Camlas Cydweli

Am gyfnod bu Cydweli yn gweithredu fel porthladd ond tagwyd aberoedd y ddwy afon Gwendraeth gan dywod. Bu'r porthladd yn rhan bwysig o ddatblygiad y dref. Roedd iard adeiladu llongau yma yn y 18fed a'r 19eg ganrif ac allforiwyd glo oddi yma i borthladdoedd eraill. Ond wrth i'r tywod ymgasglu yn yr aberoedd roedd rhai llongau'n cael trafferth i angori. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd Porth Tywyn wedi disodli Cydweli fel prif harbwr Sir Gaerfyrddin a daeth cyfnod Cydweli fel porthladd i ben.

Bu'r gweithfeydd tunplat yn bwysig yn hanes y dref hefyd. Dyma'r fan lle oedd y gamlas gynta yng Nghymru - a'r ail waith tun hynna ym Mhrydain.

Cynhyrchwyd tunplat yma o tua 1737 hyd yr Ail Ryfel Byd. Roedd y tun yn cael ei fewnforio i Gydweli o Gernyw. Byddai hwn wedyn yn cael ei gludo o borthladdoedd Llanelli a Phorth Tywyn i Lerpwl ac wedyn i America. Ond dirywio wnaeth y diwydiant hwn wedi i America ddechrau cynhyrchu tun ei hun.

Heddiw ar safle hen waith alcam a sefydlwyd ym 1737 saif amgueddfa ddiwydiannol. Hwn yw'r unig safle yng Nghymru lle dangosir sut yr oedd tun yn cael ei wneud 芒 llaw. Yn rhan o'r amgueddfa mae simnai gorn anferth 167 troedfedd o uchder.

Ym mis Hydref 2011, bu un o adeiladau mwya hynafol y dref, y Pelican yn bwnc llosg. Mae'r adeilad yn dyddio'n 么l i'r 1760au ac yno roedd swyddfeydd y cyngor tref tan 2008. Erbyn hyn, mae'r swyddfeydd wedi symud i ran arall o'r dre ac mae'r cyngor yn trafod gwerthu'r adeilad yn lle wynebu cost atgyweirio o 拢700,000. Bydd cyfarfod cyhoeddus yn trafod dyfodol yr adeilad.

Prydferthwch Peryglus

Traeth Cefn Sidan
Traeth Cefn Sidan

Yn yr un cyfnod, y 19eg ganrif, bu nifer o longddrylliadau yng Nghwm Gwendraeth a hynny ar draeth Cefn Sidan sydd yn ne ddwyrain y cwm. Mae'r traeth yn ymestyn am saith milltir rhwng aberoedd afonydd Gwendraeth a Llwchwr. Disgrifiwyd Cefn Sidan sawl tro fel un o draethau gorau Ewrop. Mae'n leoliad braf ac oddi yma ceir golygfeydd ysblennydd o arfordir Bro G诺yr.

Ond er gwaetha harddwch y lleoliad a'i enw hudolus, mae'r traeth wedi profi'n dwyllodrus iawn ac yn ystod y 19eg ganrif aeth nifer o longau i drafferthion yma. Drylliwyd sawl llong ar y glannau hyn a chollodd nifer o forwyr a theithwyr eu bywydau. Y Paul o Hambwrg oedd y llong hwyliau olaf i'w ddryllio ar lannau Cefn Sidan a hynny ym mis Hydref 1925 pan gafodd ei chwythu gan wyntoedd cryfion.

Heddiw mae traeth Cefn Sidan yn rhan o Barc Gwledig Penbre ger Llanelli. Agorwyd y parc hwn yn yr 1980au cynnar ar 么l cael gwared o olion hen waith powdr Alfred Nobel a fu'n cynhyrchu deinameit ar 么l 1881, olion ffatri arfau cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a gweddillion ffatri arall o gyfnod yr Ail Ryfel Byd oedd yn cyflogi 2000 o weithwyr. Gadawodd yr awyrlu y safle ond maen nhw'n dal i ymarfer ar y traethau a'r aberoedd. Heddiw parc gwledig sydd yma gyda chyfleusterau hamdden, maes rasio ceir, a Maes Awyr Penbre.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.