Â鶹Éç

Trefi a phentrefi Dyffryn Teifi

top
Pont Llanbedr Pont Steffan

Eifion Davies sy'n olrhain hanes rhai o drefi a phentrefi Dyffryn Teifi gan gynnwys Llambed, Llanybydder, Llanwnnen a Llangybi.

Llanbed ddoe a heddiw

Dros y canrifoedd mae llawer wedi gadael eu marc ar y dref a'r ardal. Gwelwn olion y Celtiaid ar gestyll Alltgoch ac Olwen ac mae Sarn Helen yn ymestyn trwy'r cyffiniau. Yn 1188 disgrifiodd Gerallt Gymro ymweliad Esgob Baldwin â'r dref i geisio denu milwyr i'r croesgad.

Bu'r dref yn dyst i ymosodiad gwrthryfelwyr Rebecca ar bont Pontfaen wrth ymladd am gyfiawnder i'r bobl gyffredin. Sonia'r diwygiwr Howell Harries am y croeso dderbyniodd gan drigolion Llanbed.

Yn 1822 sefydlwyd y Coleg yn Llanbed ac sydd heddiw â statws Prifysgol.

Mae Llanbed yn ganolfan siopa ddiddorol ac nid oes eisiau mynd yn bellach na'r dre i gyflenwi eich holl anghenion.

Mae'r ysgol gyfun ynghanol y dref â phwll nofio a chanolfan chwaraeon. Cewch fwy o hanes y dref yn A History of Lampeter gan W J Lewis.

Llanybydder

Marchnad anifeiliaid Llanybydder

Pentref mawr sy'n cynnal marchnadoedd yn rheolaidd yw Llanybydder. Gwelir yr enw Llanybydder ar lorïau Oriel Jones a'i fab sy'n tramwyo ar hyd heolydd De Cymru yn rheolaidd. Saif y lladd-dŷ ar gyrion y pentre ac mae'n rhoi gwaith i niferoedd. Cwmni arall yw 'Highmead Dairy' neu Laethdy'r Dolau sy'n poteli llaeth a'i ddosbarthu dros ardal eang.

I lawer, pan sonnir am y lle, Evans Bros a'r mart ceffylau ddaw i'r meddwl. Mae'r cwmni o arwerthwyr wedi cynnal 'mart' ceffylau ar y dydd Iau olaf yn y mis ers blynyddoedd ac yn denu prynwyr o bob rhan o Brydain. Gwerthwyd un enillydd y 'Grand National' yma sef 'Nickel Coin'. Cynhelir arwerthiannau rheolaidd o dda a defaid gyda ffeiriau arbennig fel Ffair Santesau a Ffair Fartin.

Mae Clwb Pysgota Llanybydder yn cynnig tocynnau dyddiol ac wythnosol i bysgota ar y Teifi ac ni bydd angen i chi fynd adre'n waglaw gan fod fferm bysgod nepell o ganol y pentre.

Llangybi

Ffynnon Sant Cybi

Pentref bach ar y ffordd o Lanbed i Dregaron ac fel y Llangybi yng Ngwynedd mae yma ffynnon i Sant Cybi.

Mae'r ysgol leol, sef Ysgol Y Dderi, yn enghraifft dda o uno ysgolion bach. Caewyd ysgolion Betws Bledrws, Silian, Cellan, Llanfair ac ysgol Llangybi a chael adeilad newydd pwrpasol yn y pentref. Gwnaed hyn bron heb yr un gwrthwynebiad gan fod nifer y disgyblion ymhob un o'r ysgolion wedi lleihau.

Mae yma ddau gapel ac un eglwys. Ar ffordd droellog o Langybi i Lwynygroes adeiladwyd cwrs golff naw-twll, ar dir y Cilgwyn. Diddorol yw cyfraniad Cilgwyn yn hanes crefydd yng Ngheredigion, gan mae yma y sefydlwyd yr eglwys ymneilltuol gyntaf. Bu ysgol yma hefyd lle bu Dafydd Dafis, Castell Hywel, yn ddisgybl. Symudwyd yr hen gapel, garreg wrth garreg, a'i ail-adeiladu yn y pentref. Erbyn heddiw mae'n ganolfan i'r Urdd.

Betws Bledrws

Pentref wedi'i adeiladu o amgylch yr eglwys ac yn rhan o Stad y Dderi yw'r Betws. Mae Tŵr y Dderi yn sefyll 152 troedfedd o uchder, ac roedd yn rhaid dringo 365 o risiau i gyrraedd y top. Nid yw'n ddiogel i'w ddringo heddiw gwaetha'r modd. Gerllaw y fynedfa i'r twr mae hen fynwent Coedgleision; mae rhai o'r cerrig beddau i'w gweld o hyd. Nid oes ond olion o Blas y Dderi yn aros.

Llanfair Clydogau

Llanfair

Ymestyn y pentre ddwy ochr yr afon Teifi gyda 'Capel Mair' a siop un ochr, (ganwyd Aneurin Jenkins Jones yma), ac Eglwys Mair ar yr ochr arall. Mae'r ysgol wedi cau a'r adeilad yn gartre moethus erbyn hyn. Ceir yn y bryniau olion gweithfeydd mwyn sydd wedi hen farw.

Cellan

Cymysgedd erbyn heddiw o hen dai a llawer o rai newydd sydd yma. Mae'n bentre sy'n ymestyn am tua milltir gydag Eglwys a dau gapel, 'Capel yr Erw' a 'Caeronnen', a thrwy ymdrechion gwirfoddolwyr mae neuadd newydd aml-bwrpas wedi'i hadeiladu yno yn ddiweddar.

Ymysg enwogion yr ardal mae Moses Williams fu'n llyfrgellydd yn Rhydychen ac yn ddiweddarach yn offeiriad yn Llanwenog. Anrhydeddwyd ef yn F.R.S. yn 1719.

Plac Cellan

Mewn tÅ· o'r enw Cellan Cwrt, fe anwyd yr Athro Griffith John Williams a fu yn bennaeth yr adran Gymraeg yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ac a ddisgrifiwyd fel "efallai yr ysgolhaig mwyaf amlochrog a fu erioed', a'i frawd yr Athro D Mathew Williams; dramodydd, athro ac arolygydd ysgolion.

Cwmann

Enwau eraill a gysylltir yw Treherbert, a Pharcyrhos. Mae'r pentre yn dilyn yr hewl am Landeilo a'r hewl am Llanybydder. Mae Ysgol Coedmor wedi'i rhannol uno o dan yr un prifathro ag ysgolion Ffarmers a Ffaldybrenin ac wedi ei hail fedyddio yn ysgol 'Carreg Hirfaen'.

Pencarreg

O ddilyn ymlaen o Gwmann am Lanybydder, fe ddown i bentref bach Pencarreg gydag eglwys wedi'i hadeiladu ar graig yn edrych i lawr dros y pentre. O ddringo'r rhiw o'r pentre ceir golygfa hyfryd o Lyn Pencarreg a'r afon Teifi yn y pellter.

Llanllwni

Yn gysylltiedig â Llanllwni mae pentre Maesycrugiau; dyma oedd yr orsaf i blwyf Llanllwni pan y rhedai'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Saif eglwys hardd gyda thŵr uchel yn sefyll ar lan yr afon. Un capel sydd yma sef Capel Nonni.

Coed T L Thomas

Cyflogwr mwya'r ardal yw T.L.Thomas, cwmni sy'n rhedeg melin lifo fawr a iard sy'n gwerthu deunydd adeiladu i ardal eang.

Ganwyd T.L.Stephens yn yr ardal, a fu'n brifathro nodedig yn Nhalgarreg, un arall oedd Ben Thomas a ddaeth yn wyddonydd enwog.

Pentrebach

Dyma bentre ar y briffordd o Lanbed i Gastell Newydd Emlyn. Mae yma dai cadarn sydd â golygfeydd gwych o ddyffryn Teifi. Cyflea enw fel Dolau Gwyrddion ar fferm yn y pentre, odidowgrwydd y dyffryn.

Llanwnnen

O amgylch y groesffordd mae swyddfa'r post, yr ysgol, ffatri gwaith pîn a gwesty'r Grannell gyda'r eglwys gerllaw. Roedd y sgwâr yn hynod brysur ganrifoedd yn ôl a chynhaliwyd ffair lwyddiannus yno pan roddwyd trwydded arbennig i nifer fawr o dai'r pentref i werthu cwrw. Ceir olion Castell Mwnt a Beili wrth yr afon.

Wrth deithio am Cribyn, fe ddown at Capel y Groes. Yno mae capel Undodaidd a adeiladwyd yn 1820. Yn y fynwent, arbennig o gymen, ceir bedd Joseph Jenkins y Swagman. Gellwch dreulio diwrnod yn y fynwent yn darllen y llu o englynion ar y cerrig beddau. Mae 59 o'r rhain yng nghyfrol Euronwy James, Englynion Beddau Ceredigion.

Alltyblaca

Saif ar yr heol o Lanwnnen i Lanybydder, hewl sydd wedi dyblu ei maint yn y degawd diwethaf. Un capel sydd yma ac fe'u cysylltir â'r diweddar D Jacob Davies.

Llanwenog

Plwyf hynafol yn cwmpasu pentrefi Rhuddlan, Drefach, Cwrtnewydd, Gorsgoch a Cwmsychbant yw Llanwenog, er bod yr ardal o amgylch yr eglwys yn dwyn yr un enw. Saif eglwys hynafol ynghanol y plwyf a chyfeirir ati fel un o eglwysi mwyaf diddorol yr ardal.

Eglwys Llanwenog

Fe noddwyd yr eglwys gan blasdy'r Dolau ac fe fu'r cerflunydd Joseph Reubens o'r Iseldiroedd yn cerfio pennau'r meinciau. Daeth i'r ardal am loches adeg y rhyfel byd cyntaf ac fe gynlluniwyd y gwaith i'w gerfio gan Mrs Davies Evans o'r Dolau.

Mae'r plwyf wedi codi nifer o enwogion a cheir adroddiad manwl amdanynt yn y gyfrol Hanes Llanwenog: Y Plwyf a'i Bobl gydag atodiad, 1939 - 2000 (Cymdeithas Llyfrau Ceredigion 2001). Cyhoeddwyd y llyfr hwn i ddathlu'r mileniwm sef gwaith gwreiddiol D.R. a Z.S.Cledlyn Davies gyda diweddariad gan Bifan Morgan.

Rhuddlan a'r Mabinogi

O osgoi mynd i mewn i Lanybydder a dilyn yr hewl am bentref Llanfihangel ar Arth, down ar draws clwstwr o dai ger aber yr afon Cledlyn. Rhuddlan Teifi yw'r enw llawn, ac fe gyfeirir at y pentre yn y Mabinogi - yn y bedwaredd gainc - "Yn y lle a elwir Rhuddlan Teifi yn awr yr oedd llys i Bryderi. Ac yn rhith beirdd y daethant i mewn". Y beirdd fan yma oedd gosgordd Math fab Mathonwy.

Drefach

Pentref bach wrth droed rhiw Llanwenog. Mae yma un capel, sef Bethel, ac un dafarn. Ar y sgwâr ceir cofgolofn i fechgyn y plwyf a syrthiodd yn y ddau ryfel byd. O fewn cwmpas y golofn claddwyd capsiwl y mileniwm gyda charreg ar ffurf ysgub yn nodi'r fan. Dyma leoliad ysgol feithrin plwyfi Llanwenog a Llanwnnen.

Cwrtnewydd

Saif ar lan yr afon Cledlyn, yn glwstwr o dai gyda thafarn a dau gapel, 'Seion' a 'Capel y Bryn'. Ceir hefyd y Felin, sef cwmni sy'n gwasanaethau ffermydd y fro. Bu cware cerrig 'Alltgoch' yn gyflogwr mawr ar un adeg; deil o hyd i weithio, er bod y garreg yn prinhau. Saif yr hen ysgol yng nghanol y pentref ond bod yr un newydd wedi'i hadeiladu ar ben y rhiw sy'n arwain i Gwmsychbant.

Gorsgoch

Saif y pentref yma ar ochr y gors gydag un capel - 'Bryn-Hafod', tafarn, efail y gof, gweithdy, a neuadd y pentref. Mae'r gors yn warchodfa natur ac mae gwylanod penddu yn ymgartrefu yno. Mae ysgol y pentref wedi cau, ond fe ddaeth y cyn-ddisgyblion at ei gilydd i ddathlu can mlwyddiant yr ysgol yn 1998.

Cwmsychbant

Dyma'r pentref uchaf o fewn y plwyf. Mae un hewl yn dod o Rhuddlan a Brynteg a Penffordd, a'r llall o Gwrtnewydd yn ymuno â'r hewl o Lanbed am Castell Newydd Emlyn. Clwstwr bach o dai gyda 'Capel y Cwm' yn y canol sydd yma. Ar ochr ty Brynawel ceir plac yn nodi man geni Evan James Williams, Ph.D; D.Sc; F.R.S. a cheir ei fedd yn y fynwent gerllaw.

gan Eifion Davies


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.