麻豆社

Hanes Cwmrheidol a'r cyffiniau

top
Traeth Borth

Ardal Cwmrheidol a'r broydd cyfagos yw pwnc Tegwyn Jones, sy'n esbonio arwyddocad lleoedd a chymeriadau lleol.

Mae'r ardal hon yn cynnwys cymunedau fel Genau'r Glyn, Melindwr, Tirymynach, Trefeurig a'r Borth. O fewn y plwyfi hyn ceir llu o bentrefi, rhai'n enwocach na'i gilydd, ac ambell berl o enw yn eu plith. I enwi dim ond rhai - Aber-ffrwd, Bancydarren, Capel Madog, Cefn-llwyd, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Cwmrheidol, Goginan, Pen-llwyn, Penrhiwnewydd, Penrhyn-coch, Pen-y-bont Rhydybeddau, Salem Coedgruffydd, Llanfihangel Genau'r-glyn. Hen bentrefi a hanes wedi glynu'n dynn wrth bob un ohonynt.

Y Borth a bae Ceredigion

Arwyddion o fywyd cynnar

Hwyrach mai'r darganfyddiad o hen fedd mewn cae ym Mhenrhyn-coch yn 1851 yw'r arwydd cynharaf o drigiant dyn yn yr ardal. Bedd o Oes y Pres oedd hon, sy'n ein dwyn yn 么l rhyw 1,500 o flynyddoedd cyn Crist. Arwyddion eraill o fywyd cynnar yn yr ardal yw'r nifer o Fryngeiri Celtaidd a geir ynddi, yn enwedig y Darren (Pen Ringsen ar lafar) a Broncastellan, y mae olion eu hamddiffynfeydd cadarn i'w gweld yn glir hyd heddiw.

Trigolion y ceiri hyn oedd y bobl a wynebodd y Rhufeiniaid pan ddaethant hwy yn eu tro i Gymru, ond ychydig o'u h么l hwy a welir yn yr ardal, er bod rhai yn dadlau iddynt gloddio am fwyn plwm yng Ngoginan. Beth bynnag am hynny, bu llawer iawn o gloddio am y mwyn gwerthfawr hwnnw mewn blynyddoedd diweddarach.

Erbyn oes Elisabeth y Gyntaf yr oedd Cwmsymlog yn ganolfan bwysig i'r diwydiant mwyn plwm, a chloddid arian yno yn ogystal. Yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a'r Senedd yn yr ail ganrif ar bymtheg, sefydlwyd bathdy yng Nghastell Aberystwyth i fathu arian parod i'r Brenin, ac arian a gloddiwyd yng Nghwmsymlog a ddefnyddiwyd. Bu Cwmerfin a Goginan hefyd yn ganolfannau i'r un diwydiant.

Eglwys a chapeli'r dalgylch

Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn

Er bod nifer o eglwysi o fewn ffiniau ardal y papur, un eglwys hynafol yn unig a geir ynddi, sef Eglwys Llanfihangel Genau'r Glyn. Yn 么l un chwedl, y bwriad gwreiddiol oedd ei chodi ar y llecyn lle ceir fferm Glanfr锚d heddiw, rhyw gwta filltir o'r fan lle saif yr eglwys.

Gweithiai'r seiri maen yn brysur drwy'r dydd, yn 么l y chwedl, ond gyda'r nos fe ddinistrid eu gwaith gan ryw ysbrydion anweledig, ac yn y bore doent o hyd i'r cerrig a'r meini mewn man arall. Aeth pethau yn eu blaen fel hyn am gryn amser - y seiri'n adeiladu a'r ysbrydion yn chwalu - ond un noson brawychwyd yr ardal i gyd pan glywid llais yng nghanol y nos yn taranu fel hyn:

Llanfihangel yng Ngenau'r-glyn;
Glanfr锚d Fawr a fydd fan hyn.

Dechreuwyd adeiladu ar y man yng ngenau'r glyn lle dygid y cerrig a'r meini gan yr ysbrydion, a chafwyd llonydd yno i godi'r eglwys o'r diwedd.

Diweddarach yn naturiol, yw dyfodiad Anghydffurfiaeth i'r ardal. Y Bedyddwyr oedd y cyntaf - sefydlwyd eu heglwys gyntaf hwy, ac eglwys gynta'r Bedyddwyr yng Ngogledd Ceredigion - ym Mhenrhyn-coch yn 1788.

Dechreuodd yr Annibynwyr bregethu'n fuan iawn yn yr ardal wedi hynny, ond yn 1825 y codwyd eu capel cyntaf yma, yn Salem Coedgruffydd, a hynny o dan arweiniad y gwr 芒'r enw hynod, Azariah Shadrach. Ymhlith rhai o hen achosion y Presbyteriaid yn yr ardal y mae Capel y Garn, Bow Street, Capel Dyffryn, Goginan, a Chapel Pen-llwyn. Bu gan y Wesleyaid hefyd gapel yng Ngoginan ar un adeg, ond ni bu iddo hanes hir.

Un eglwys hynafol yn yr ardal - ac un plas hefyd, sef yr enwog Blas Gogerddan. Pwy nad yw'n gwybod am g芒n adnabyddus Ceiriog sy'n cofnodi'r hen chwedl honno am fam un o Brysiaid Gogerddan yn anfon ei mab yn 么l i faes y gad y cefnodd arno, gan ei sicrhau mai 'gwell yw marw'n fachgen dewr, na byw yn fachgen llwfr'? A phwy na chlywodd am 'Gotiau Coch Gogerddan'?

Ar 么l dyddiau'r Prysiaid, a fu'n noddwyr beirdd yn oes y clera, ac y gweithredodd sawl un ohonynt fel Aelodau Seneddol Ceredigion, prynwyd y Plas a'i diroedd gan Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, a datblygodd i fod yn Fridfa Blanhigion o fri rhyngwladol. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau yno o hyd. Fel y canodd un o feirdd presennol ardal y Tincer, Vernon Jones:

Cawn oedi'n y cnydau neu rodio'r aur ydau
A gwridog wair hadau yn lleiniau y llan,
A dyddiau o heddwch yn hudol hyfrydwch
Tawelwch a harddwch Gogerddan.

Dalgylch Dafydd

Pe gofynnid y cwestiwn yn un o Ysgolion Cynradd yr ardal pwy yw'r person enwocaf a godwyd ynddi, yr ateb heb unrhyw amheuaeth fyddai 'Dafydd ap Gwilym'.

Cofeb Dafydd ap Gwilym

Heb fod nepell o bentref Penrhyn-coch saif dwy fferm yn dwyn yr enwau Brogynin-fawr a Brogynin-fach, ac ar dir yr olaf hyd rhai blynyddoedd yn 么l safai hen furddun a adwaenid yn lleol wrth yr enw 't欧 Dafydd ap Gwilym'.

Dywed ysgolheigion wrthym nad yw'n bosibl fod Dafydd wedi byw yn yr union furddun hwnnw, ond efallai mewn t欧 a safai gynt ar yr un safle. Sut bynnag, nid oes gwadu cysylltiad Dafydd 芒'r llecyn hwn, ac mai yma y ganed ef yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Dywed un hen englyn, sydd ganrif yn ddiweddarach na Dafydd ei hun, ond sy'n corffori'r traddodiad, fel hyn:

Am Ddafydd gelfydd goelfin - praff awdur
Proffwydodd Taliesin
Y genid ym Mrogynin
Brydydd a'i gywydd fel gwin.

Ef yn anad neb a ddatblygodd, os nad a ddyfeisiodd, mesur y cywydd. Un o brif feirdd Cymru heb amheuaeth, ac yn 么l rhai beirniaid, un o feirdd mawr Ewrop.

Beirdd y fro

Enw arall cyfarwydd iawn i garwyr llenyddiaeth Gymraeg yw Lewis Morris, un o'r gw欧r mwyaf amryddawn ac amlochrog a welodd Cymru erioed. Fel yr awgryma ei enw barddol, 'Llewelyn Ddu o F么n', nid brodor o'r ardal dan sylw ydoedd, ond yn yr ardal honno - mewn dwy fferm, Allt Fadog yn ardal Madog a Phenbryn ger Goginan yn Nyffryn Melindwr, y treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes, gan ymddiddori'n fawr yn y diwydiant mwyn plwm, a chodi teulu o naw o blant wedi iddo briodi merch ieuanc o Goginan, ac yntau erbyn hynny'n hanner cant oed.

Bardd enwog arall a fu'n byw am rai blynyddoedd yn Bow Street oedd T. Gwynn Jones, a daeth ef a brodor arall o Ben-y-garn, y Prifardd Dewi Morgan, yn ffrindiau mynwesol. A Phrifardd arall a fagwyd ym mhentre bach Taigwynion gerllaw Llanfihangel Genau'r-glyn oedd J. J. Williams 'Bardd y Lloer', awdur cerddi bytholwyrdd megis Cotiau Coch Gogerddan a Clychau Cantre'r Gwaelod.

O'i gartref ar ochr y bryn yn Nhaigwynion gallai weld y m么r yng nghyfeiriad y Borth ac Ynys-las, sef y fangre a gysylltir 芒 chwedl Cantre'r Gwaelod. Cyfarwydd yw'r englyn a ysgrifennodd unwaith wrth syllu tua'r machlud i'r cyfeiriad hwnnw:

Gweld deryn gwyllt, gweld derwen gam - gweld mawn
A gweld m么r yn wenfflam,
Gweled brwyn ar dwn dinam,
A gweled mwg aelwyd mam.

Ym myd crefydd a diwinyddiaeth rhoddodd yr ardal gawr arall i Gymru ym mherson Lewis Edwards a anwyd ym Mhwllcenawon ger Pen-llwyn yn 1809, ac a ddaeth yn brifathro cyntaf Coleg y Bala, a golygydd y cylchgrawn Y Traethodydd a fu'n fawr ei ddylanwad ar lenorion a diwinyddion ar hyd y blynyddoedd, ac sy'n dal i ymddangos o hyd. Gwelir cerflun pen-ac-ysgwyddau o Lewis Edwards y tu allan i'r capel lle magwyd ef ym Mhen-llwyn.

Yn nes at ein dyddiau ni, eraill o'r ardal a ddaeth i fri cenedlaethol yw'r diweddar Ddoethur David Jenkins, Llyfrgellydd Cenedlaethol a chofiannydd T. Gwynn Jones, a'r cyn-Aelod Seneddol a'r Barnwr, yr Arglwydd Elystan-Morgan.

Bro hyfryd rhwng mynydd a m么r yng Ngogledd Ceredigion yw hon ac y mae'r papur bro lleol, Y Tincer, yntau yn gyfrwng amhrisiadwy i ddod 芒 thrigolion y fro honno yn nes at ei gilydd.

Pam yr enw rhyfedd ar y papur bro? Dyna gwestiwn a ofynnid yn aml ar 么l sefydlu, ac am gyfnod go lew wedi hynny, nes ymgartrefodd, a chael ei dderbyn yn gyffredinol. Mae'r ateb yn syml.

Tarddiad enw'r Tincer

Yn 1971, cyhoeddwyd cyfieithiad o lyfr Tom Macdonald (Cymro Cymraeg, a brodor o Rydypennau, Bow Street) o dan y teitl Y Tincer Tlawd. Hanes tad yr awdur ydyw, a oedd yn dincer o dras Gwyddelig a wnaeth ei gartref yng Ngogledd Ceredigion, ac a fyddai'n crwydro rhan fawr o'r ardal lle heddiw y mae'r Tincer yn cylchredeg. Pan ddaeth yn fater o enwi'r papur adeg ei sefydlu chwe blynedd yn ddiweddarach yn 1977, yr oedd pawb yn falch iawn o awgrym y diweddar Gwydol Owen mai'r enw delfrydol ar ei gyfer oedd Y Tincer.

gan Tegwyn Jones


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.