Lle'r fenyw
Un o'r newidiadau mwyaf yn y gymdeithas Gymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif oedd y gwelliant yn statws menywod a'r effaith a gafodd hynny ar y syniad traddodiadol am fywyd teulu.
Yng Nghymru oes Victoria, y gwragedd oedd 'angylion yr aelwyd', ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif prin oedd y swffragetiaid tanbaid, o leiaf y tu allan i drefi mawr fel Caerdydd. Gwelwyd peth gwelliant yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel wrth i wragedd gael yr un hawliau pleidleisio â dynion, a chydnabyddiaeth bod ganddynt yr un hawliau dros eu plant a'u heiddo ag oedd gan eu gwŷr.
Serch hynny, yn 1945, llai na chwarter y gweithlu oedd yn fenywod. Cynyddodd y ganran hon yn gyflym yn y blynyddoedd a ddilynodd, yn rhannol oherwydd dirywiad y diwydiannau trymion. Erbyn y 1990au Treorci yng Nghwm Rhondda oedd un o'r amryw o leoedd yng Nghymru lle'r oedd mwy o fenywod na dynion mewn gwaith. Ond enillai menywod llai o dipyn nag yr enillai dynion. Roedd teuluoedd yn cael llai o blant - tuedd oedd i'w gweld ers o leiaf y 1920au - ac erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain doedd poblogaeth Cymru prin yn cynnal ei niferoedd ei hun.
O ran bywyd teuluol roedd y syniad o gyplau yn colli arwyddocâd a mwy a mwy o famau sengl yn magu plant, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd gallu menyw i reoli ei ffrwythlondeb yn gam enfawr, ac nid yw arwyddocâd hyn wedi llawn amlygu'i hun eto.