Â鶹Éç

Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Actor yn portreadu'r Brenin Charles I

23 Mawrth 2009

Gwlad a thref

Yn y cyfnod modern cynnar roedd Cymru'n wlad hanfodol wledig. Er bod yna 54 o leoedd a allai hawlio rhywfaint o statws bwrdeistrefol, roedd cyfran helaeth ohonynt fawr mwy na phentrefi.

Y trefi â'r swyddogaethau llawnaf oedd y prif drefi ym mhedwar cwr y wlad: Caerfyrddin, Aberhonddu, Dinbych a Chaernarfon. Y mwyaf poblog ohonynt, mae'n debyg, oedd Caerfyrddin, tref â thua 2,000 o drigolion yn 1560 a thua 4,000 yn 1770. O ran maint, roedd Wrecsam yn weddol agos.

Tyfai'r trefi wrth i bobl symud iddynt o'r ardaloedd gwledig o'u cwmpas, ardaloedd lle'r oedd y trigolion, i raddau helaeth, yn Gymraeg eu hiaith. Felly crebachu a wnaeth yr elfen Saesneg ei hiaith a fu mor nodweddiadol o drefi Cymru'r Canol Oesoedd. Er yn lleiafrif bychan, y trefwyr oedd elfen fwyaf deinamig y gymdeithas. Hybid natur angerddol leoledig cymdeithas gan gyflwr enbyd yr heolydd. Roedd meddyginiaethau llysieuol a llymeidiau hudol yn fawr eu bri. Credai pawb eu bod ar drugaredd pwerau hudol. Roedd credu mewn ysbrydion a drychiolaethau yn gyffredin iawn, a cheid awydd brwd, yn enwedig mewn cyfnodau o densiwn, i ddifodi gwrachod.

Cymru a'r Senedd

Aeth aelodau seneddol o Gymru i'r Senedd am y tro cyntaf yn 1542. Ar y dechrau, roeddent yn gymharol dawedog, ond erbyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg roeddent yn ddeheuig yn gwarchod buddiannau Cymru. Ychydig oedd â'u bryd ar yrfa wleidyddol; yn hytrach, ystyrient mai cryfhau'u statws yn eu bröydd oedd prif bwrpas bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin. Roedd mwyafrif aelodau seneddol Cymru'n gwbl deyrngar i'r goron, a phan gododd Charles I fyddin i herio'r Senedd yn 1642 cefnogi'r brenin a wnaeth mwyafrif y Cymry.


Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.