Yma cewch wybod lle mae damweiniau yn digwydd amlaf yng ngogledd orllewin Cymru a lle mae camerâu cyflymdra wedi eu gosod i geisio gostwng nifer y damweiniau. Hefyd, rhestrir y lleoliadau mae'r heddlu'n eu targedu i leihau cyflymdra gyrrwyr.Damweiniau Rhwng 1998 a 2001, lladdwyd 222 o bobl ar ffyrdd gogledd Cymru, niweidwyd 1,103 yn ddifrifol a chafodd 15,908 o bobl fân niwed. Amcangyfrifwyd fod y gost wedi dod i £130m am yr ardal. Roedd dros 2,300 o'r rhain yn blant. Ers lansio'r ymgyrch camerâu cyflymdra, mae nifer y damweiniau ffyrdd wedi gostwng 47% a nifer yr anafiadau difrifol 40% yn is. Nodwyd y lleoliadau canlynol fel llefydd peryg ar gyfer damweiniau. Dyma hefyd lle mae'r Heddlu yn aml yn gosod camerâu cyflymdra symudol er mwyn ceisio gostwng nifer y damweiniau. Ynys Môn B4545 Kingsland, Y Fali B4545 Caergybi B4545 Llangefni Conwy A548 Dundonald Avenue, Abergele A548 Prom Llandudno, Trwyn Llandrillo-yn-Rhos A548 St Asaph Avenue, Bae Cinmel Gwynedd A5112 Llandegai, Bangor A4086 Cwm-y-Glo, Llanrug A496 Harlech, Llanbedr A470 Tal-y-Waenydd, Congl-y-Wal, Blaenau Ffestiniog A4212 Craig Las, Trawsfynydd A470 Dolgellau Lleoliadau camerâu sefydlog Conwy A55 Penmaenbach (tua'r dwyrain) Targedau newydd Mae swyddogion y Cyngor a'r Heddlu wedi cyhoeddi ers 2002 y bydd rhai ffyrdd yn cael eu targedu mewn ymgais i orfodi gyrrwyr i arafu. I wybod lle mae'r camerâu cyflymdra symudol yr wythnos hon cliciwch
|