麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dyffryn Nantlle
Beic ar y L么n Wen Tynfa'r L么n Wen
Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hi fod criw o feicwyr o'r Wirrall wedi teimlo tynfa'r L么n Wen yn Arfon ar yr un Sul braf ag yr agorodd canolfan dreftadaeth Kate Roberts yn y pentref is law am y tro cyntaf.
"Un o bleserau mawr byw yn ardal Caernarfon ydy gyrru allan o'r dre ar bnawn Sul braf i gyfeiriad Bontnewydd a throi trwyn y car ger Ffrwd Cae Du tuag at Rosgadfan.

Gyrru heibio murddun hen gartref Kate Roberts yng Nghae'r Gors, ac allan o'r pentref i fyny'r L么n Wen sy'n cordeddu drwy'r grug i ben y foel ac i lawr wedyn tuag at Waunfawr neu Ryd-ddu.

Plac ar y L么n Wen
O dan y graffiti, mae'r plac yn y maes parcio ar ochr y L么n Wen yn nodi cysylltiadau Kate Roberts 芒'r darn hwn o dir.
Mi fedrwch chi adael y car wedi'i barcio ar y topiau a mwynhau golygfeydd panoramig o'r ardal a ysbrydolodd nofelau a straeon byrion Brenhines Ein Ll锚n neu ddilyn y llwybrau defaid trwy'r grug a'r eithin i gopa Moel Smytho i glirio'ch pen, rhoi'r byd yn ei le a chael llond ysgyfaint o awyr iach.

Canolfan newydd
Ond, mae golygfeydd y daith wedi newid ryw fymryn. Yn lle mynd heibio i hen furddun Cae'r Gors mae yma r诺an adeilad cymunedol balch yn mynnu'ch sylw ar ochr y ffordd.

Mae'r hen adfail wedi cael bywyd newydd fel canolfan dreftadaeth ac yno y stopiais i am sbec ar y Sul braf arbennig hwn ym mis Mawrth ar gyfer diwrnod agored cyntaf y ganolfan i bobl leol.

Cae'r gors Ffrwyth gweledigaeth criw lleol a ffurfiodd Gyfeillion Cae'r Gors ydy'r ganolfan ar 么l i Kate Roberts ei hun brynu ei hen gartref yn 1965 a'i roi yn nwylo ymddiriedolwyr. Ers 2001, mae'r Cyfeillion wedi bod yn ymgeisio am y grantiau sydd wedi esgor ar ddatblygu'r ganolfan hon sy'n agor ei drysau eleni.

Ac mae'r bobl leol wedi eu plesio.

Edmygu gwaith y t枚wyr roedd Arthur Wyn o'r Groeslon y tu allan i'r ganolfan lle roedd paned a bara brith ar gael drwy'r dydd.

"Mae'n gorfadd yn dda," meddai am y to llechi. "Mae'n nhw wedi gwneud gwaith da yn pigo'r llechi."

Mae Arthur yn falch o'r cysylltiad personol sydd ganddo 芒 hanes llenyddol yr ardal: mae'n nai i lenor lleol arall, y dramodydd John Gwilym Jones. "Roedd o'n ffrindia efo Kate Roberts - mi fyddai'n mynd i'w gweld yn aml i'w chartre," meddai.

Cae'r GorsDefnydd pobl leol
Fel nifer o'r trigolion oedd yn y diwrnod agored, mae Arthur yn gobeithio y bydd pobl leol ac ysgolion yn defnyddio'r ganolfan ac nad amgueddfa farw fydd hi.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn gwneud defnydd ohoni," hefyd meddai Gareth Roberts o'r pentref nesa, Rhostryfan, ac ategodd ei wraig, Karen, y byddai'r ganolfan yn adnodd da i bentrefwyr Rhosgadfan sydd wedi colli eu neuadd bentref ers iddi gael ei llosgi i lawr.

Oedd, roedd pawb yn canmol, yn mwynhau busnesa drwy stafelloedd yr hen d欧 芒'i waliau gwyngalchog ac yn bendant eu barn eu bod yn disgwyl mai lle i'w ddefnyddio fyddai hwn, nid lle i'w gadw fel crair hanesyddol.

Beicwyr y L么n Wen
Roedd rhaid picio'n sydyn i fyny'r L么n Wen cyn troi am adre ac felly i ffwrdd 芒 mi tuag at y mynydd, heibio i'r tyddynnod hir, gwyngalchog sy'n swatio'n dynn wrth y ddaear ar y rhosydd agored ac at droed y L么n Wen.

Beics ar y L么n Wen Troais y gornel olaf cyn dechrau dringo'r l么n droellog yn barod i fwynhau golygfa gyfarwydd anialdir y grug a'r eithin. Dyna pryd y gyrrais yn syth i mewn i f么r o ledr a chr么m haid o feicwyr oedd yn sefyllian wrth feics modur sgleiniog.

Stopiais a gafael yn fy nghamera - roedd gwrthgyferbyniad y peiriannau pwerus ar gynfas y rhostir llwm yn gweiddi am lun. Wrth fynd atyn nhw am sgwrs meddyliais am eiliad, a hanner gobeithio, mai clwb oedd yn cyfuno edmygedd o weithiau Kate Roberts efo hoffter o ryddid hedonistaidd gyrru Yamahas yn gyflym ar hyd ffyrdd diarffordd oedden nhw.

Ond na, aelodau o Virago Star Owners Club, Centre 3, wedi cychwyn yn fore o'r Wirral oedden nhw. Wydden nhw ddim byd am ddiwrnod mawr Cae'r Gors i lawr yn y pentref nac ar ba ffordd roedden nhw wedi stopio.

Beicwyr y Virago Yamaha Owners' Club Roedden nhw yn y parthau hyn am y tro cyntaf ar gyngor un o'r aelodau, oedd wedi byw am gyfnod yn yr ardal. Roedd hon yn un o'i hoff ffyrdd ac roedd wedi perswadio'r lleill ei bod yn werth dod am dro ar ei hyd. Y bwriad oedd ei gwneud hi lawr i Waunfawr, croesi i Lanrug a throi am Lanberis yna heibio Nant Peris a thros Ben-y-p谩s tuag at Fetws y Coed ac yna n么l am adre.

Ond, fan hyn, ar y L么n Wen, roedd damwain wedi dod 芒'u taith i stop - olwyn un o'r beics wedi ei malurio gan dwll yn y ffordd.

Ond gyda chlustogau eithin bob ochr a'r haul yn tywynnu, lle well i syrthio oddi ar dy feic, meddai un ohonyn nhw?

Lorna Gofynnodd Lorna, un o'r ddwy ferch oedd yn y criw, faswn i'n tynnu llun ohoni ar ei beic er mwyn hybu beicio merched - mae hi'n tr茂o cael mwy i ymuno, meddai.

Wrth i'r j么cs am 'Daffyd - the only gay in the village' ddechrau, ffarweliais 芒'r beicwyr a throi n么l am Rosgadfan.

Wrth ddod n么l i olwg Cae'r Gors roeddwn yn teimlo bod hen gartref Kate Roberts a L么n Wen ei straeon yn bodoli mewn byd hollol ddieithr, byd paralel, i fyd beicwyr y L么n Wen y diwrnod hwnnw.

Roedd prysurdeb y ganolfan drosodd a thri hen 诺r yn sefyll tu allan i'r drws yn rhoi pen y mwdwl ar yr olaf o drafodaethau'r dydd yng Nghae'r Gors, am y tro."

Elin Meredith



Lleol i Mi
Hanes
Theatr
Digwyddiadau


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy