Agor Cae'r Gors Agorodd Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan, ei drysau ar 16 Mai 2007 yng nghwmni Megan Williams, Dewi Tomos (Cadeirydd), Norman Williams
John Ogwen a Maureen Rhys a'r Athro Gwyn Thomas.
Dyma luniau'r ganolfan ar ei newydd wedd a dynnwyd yn ystod diwrnod agored i bobl leol a gynhaliwyd fis Mawrth 2007.
Heidiodd degau o bobl leol i bentref bach Rhosgadfan i weld y ganolfan newydd ar fin y ffordd.
Mae hen gartref adfeiledig yr awdures wedi ei thrawsnewid a bywyd yn oes Kate Roberts wedi ei ail-greu yn y tyddyn drwy gyfrwng dodrefn traddodiadol a hen greiriau.
Mae hefyd ganolfan arddangos i'r gymuned ei defnyddio wedi ei chodi y tu ôl i'r tŷ.