Sut brofiad oedd bod yng ngharfan y Gamp Lawn? Mi aeth yn reit sydyn o un gêm i'r llall wrth i'r bencampwriaeth fynd yn ei blaen. Rhoddodd y gêm yn erbyn Lloegr hyder i bawb ond dwi'n meddwl mai ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc ddaru ni ddechrau meddwl fod y gamp lawn yn bosibilrwydd. Mae pawb wedi gofyn beth ddigwyddodd yn y 'stafelloedd newid ar hanner amser - ond y gwirionedd ydy na ddigwyddodd dim byd gwahanol! Fel dywedodd rhywun, ddaru ni ddim clywed dim doedden ni heb ei glywed cyn cychwyn y gêm. Ddaru'r bechgyn jest asesu beth oedd wedi bod yn digwydd ar y maes a mynd ati i wella pethau. Wnaeth dim byd syfrdanol ddigwydd! Roedden ni wedi bod mor agos yn gemau'r Hydref - jest dri neu bedwar pwynt ynddi bob tro - jest mater o gael y pwyntiau ychwanegol yna oedd hi. Beth am yr awyrgylch yn y stadiwm? Ddaru ni i gyd sylwi faint o bobl oedd ar y strydoedd wrth i ni deithio yn y bws a dwi'n meddwl fod y canu yn y stadiwm yn uwch nag erioed, yn enwedig gyda Max Boyce yn dal i ganu ar ôl y gêm i ddiddori pawb. Ddaru sawl un ddweud wrtha'i eu bod wedi aros am dros awr ar ôl y chwiban. Roedd yn achlysur i bawb - dim jest y chwaraewyr, ond i'r dorf ac i Gymru i gyd. Beth am daith y Llewod? Mae o yna yn y cefndir yn rhywle ond nes i'r garfan gael ei chyhoeddi wna i ddim meddwl llawer amdano, dim ond canolbwyntio ar weddill y tymor gyda'r Scarlets. Mae'r Cwpan Celtaidd i ddod ym mis Mai. Oes 'na chwaraewyr eraill o'r gogledd am gyrraedd y brig? Mae 'na ryw bump neu chwech o ieuenctid dwi'n gwybod amdanynt yn gwneud yn dda ar y funud - Cai Griffiths o'r Gweilch a'r tîm o dan 21, ddaru ennill y Gamp Lawn hefyd, ydy un ohonynt.
Mae na foi o'r Wyddgrug yn Academi'r Scarlets hefyd - felly maen nhw'n dod mewn 'dribs a drabs'. Ond dwi yn meddwl fod y gogledd i gyd yn lle rhy fawr i un rhanbarth fel y Scarlets ddelio â fo. Dylai pawb gael y cyfle i fynd i chwarae i ba bynnag dîm ac i bawb gadw llygad ar beth sy'n digwydd yn yr ardal. Oes gennych chi unrhyw gyngor i chwaraewyr ifanc? Wel, mae rygbi yn gêm i bob siâp - mawr a bach. Mae hefyd yn ffordd wych o gymdeithasu os nad ydach chi eisiau ei gymryd o ddifrif. Jest mwynhewch chwarae'r gêm yn yr ysgol a chymerwch hi o fa'na.
|