Mae'r rhan fwyaf o dimau gogledd orllewin Cymru yn chwarae naill ai yn Adran 4 (Gogledd) neu Adran 5 (Gogledd) cynghrair Undeb Rygbi Cymru. I ddod o hyd i'ch clwb rygbi lleol, cliciwch yma. Ieuenctid
Mae gan dair sir y gogledd orllewin swyddogion datblygu rygbi sy'n hybu'r gamp ymysg chwaraewyr dan 20 oed.
Mae dau dîm rhanbarthol yn y gogledd orllewin sy'n chwarae yng nghynghrair ieuenctid Cymru. Mae tîm Eryri yn cynnwys aelodau o dimau lleol Llangefni, Bethesda, Pwllheli, Dolgellau, Harlech a Chaernarfon ac mae tîm Nant Conwy yn cael ei fwydo gan dimau Bae Colwyn, Llandudno, y Bala ac Abergele.
Mae chwaraewyr gorau Eryri a Nant Conwy yn mynd ymlaen i chwarae i dimau gogledd Cymru dan 21 a 23, ac yn cael cyfle i chwarae yn erbyn timau mawr fel Crysau Duon Seland Newydd.
Meddai cynrychiolydd Undeb Rygbi Cymru yng ngogledd Cymru Austin Thomas:
"Mae chwaraewyr Seland Newydd wedi cael derbyniad mor dda yma yn y gorffennol maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad efo ni a dweud yr hoffen nhw ddod i chwarae yn erbyn tîm gogledd Cymru. Mae'n rhoi cyfle i holl aelodau'r sgwad chwarae yn gystadleuol yn erbyn tîm da yn hytrach na chwarae yn erbyn timau Prydain yn unig. Mae'n grêt eu cael nhw draw."
Rygbi merched
Jenny Davies o Gaernarfon ydy swyddog datblygu rygbi merched gogledd Cymru. Nid gêm i'r hogiau yn unig ydy hi bellach, meddai hi: "Erbyn hyn, mae gan Brifysgol Bangor, y Bala, Bethesda, Caernarfon a Dolgellau i gyd dimau merched sy'n cystadlu yng nghynghrair cyntaf y gogledd.
"Mae gan Gaernarfon, y Bala a Nant Conwy hefyd dimau merched iau ac rydw i'n gwneud fy ngorau i sefydlu timau iau ym mhob un o glybiau'r ardal.
"Felly, os nad oes gan eich ysgol neu'ch clwb lleol chi dîm rygbi merched, yna gadewch imi wybod ac mi wna i fy ngorau i helpu i sefydlu tîm.
"Ein problem fwyaf ydy'r bwlch rhwng y cyfnod pan mae merched yn chwarae yn yr ysgol a chwarae ar lefel uwch, gan fod pawb sydd yn eu harddegau hwyr/ugeiniau cynnar yn chwarae i dimau mewn prifysgolion.
"Ro'n i wedi bod eisiau chwarae rygbi erioed ac mi ges i'r cyfle yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Rŵan rydw i'n chwarae i Gaernarfon, Gogledd Cymru a Chymru.
"Mae rheolau rygbi merched yn union yr un fath â rhai'r dynion. Y gwahaniaeth mwyaf ydy fod merched yn dysgu sgiliau yn gynt na dynion. Rydyn ni'n tueddu i fod eisiau cael popeth yn iawn - mae merched yn fwy o berffeithwyr tra mae dynion yn addasu sgiliau i'w siwtio nhw.
"Ar lefel uwch, mae merched yn debyg o fod yn fwy ymosodol. Mi ddywedodd un dyfarnwr wrtha' i fod merched yn taro'n galetach na dynion yn y sgrym.
"Mae sesiynau ymarfer hefyd yn ddigwyddiad cymdeithasol gwych. Fel arfer, rydych chi'n treulio awr a hanner yn siarad ac awr yn ymarfer!
"A dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor an-ffit ydych chi nes rydych chi'n chwarae gêm gyfan. Rydych chi'n defnyddio pob elfen o'ch ffitrwydd - sbrintio, loncian, y sgrym ayb. Mae hi'n gêm wych i'w chwarae".
Rygbi cadair olwyn
Er nad oes tîm rygbi cadair olwyn yn y gogledd orllewin eto, fe fyddai Cymdeithas Rygbi Cadair Olwyn Cymru yn hapus i gefnogi unrhyw un a fyddai'n hoffi sefydlu tîm drwy helpu gyda hyfforddiand a'r offer, felly cysylltwch â nhw drwy glicio ar y ddolen ar y llaw dde.
Mwy o wybodaeth yn y brif adran rygbi