Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Enillwyr Llwyddiannau karate
"Eleni gwobrwywyd gwaith caled clybiau Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru o Gaernarfon a Bangor ym mhencampwriaethau Prydeinig y UKTKF (UK Traditional Karate Federation)," meddai Gwyn Mowll.
"Yn y cystadlaethau cadet (16 i 18 oed) llwyddodd Manon Hughes o glwb Sakura (Caernarfon) i wella ar ei medal arian y llynedd i gipio'r wobr gyntaf yn y cystadleuaeth kata.

"Hefyd o'r un clwb llwyddodd Jenni Jones i ennill fedal efydd yn y cystadleuaeth kumite (ymladd) i feltiau du a llwyddodd Iram Haq i gael Efydd yn y cystadleuaeth kata i feltiau brown. O glwb y Seki Ryu Zan o Fangor llwyddodd Leah Evans i gipio dwy fedal - efydd yn y cystadleuaeth kumite i feltiau brown ac arian yn y kata.

"Yn yr adrannau uwch i oedolion daeth hyd yn oed mwy o lwyddiant i glwb y Seki Ryu Zan o Fangor. Yn cystadlu am y tro cyntaf erioed chwalodd Angela Hollett ei gwrthwynebwyr i ennill y fedal aur kumite (ymladd) i ferched gradd kyu (beltiau lliw). Yn y cystadleuaeth cyfatebol i ddynion daeth medalau efydd i Tom Evans a Paul Dundee.

"Yn y cystadleuaeth kata i ddynion gradd kuy llwyddodd Tom Evans i amddiffyn ei wobr gyntaf o'r llynedd tra cipiodd Guy Barlow o Fangor y fedal arian. Yn hwyr yn y dydd daeth y llwyddiant olaf i glybiau'r gogledd pan enillodd Huw Wyn Jones o Fangor fedal arian yn y gystadleuaeth kumite i feltiau brown. Trydydd llwyddiant Huw mewn tair blynedd o gystadlu."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý