Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aelodau o Clwb Bangor Karate
Dyma'r hyfforddwr belt du, Gwyn Mowll o Lanrug, yn ein croesawu i fyd karate y gogledd orllewin.

"Dwi'n brifathro ar ysgol gynradd ond hefyd yn hyfforddwr karate yng nghlwb Mynydd y Ddraig Goch ym Mangor.

"Mi wnes i gychwyn karate yn 1976 pan glywais fod 'na glwb newydd lleol ac mi es yno a phenderfynu fy mod yn ei fwynhau a 'dwi wedi bod yna ers hynny. Mae gen i felt du gradd pump erbyn hyn - y top yn ardal, heblaw am ein meistr, sydd ar yr wythfed radd.

"Mae karate yn her, yn sialens, yn ffordd o gadw'n heini ac yn rhywbeth gwerth chweil i'w wneud. Mae'n dda i bob cyhyr o'r corff, gan gynnwys yr ymennydd. Mae'n dysgu hyder i bobl ifanc ac yn eu helpu i gadw eu cyrff yn iach. Mae hefyd yn lot o hwyl ac yn ffordd wych o gymdeithasu - 'da chi'n dod i nabod eich gilydd ac yn gwneud ffrindiau agos iawn.

"Yn ogystal â hynny, mae'n ffordd dda i bawb ymlacio, cael gwared â'r holl densiwn ar ôl diwrnod caled o waith. Mae'n dda i bob cyhyr yn y corff, gan gynnwys yr ymennydd.

"Mi wnaeth aelodau ein clwb ni wneud yn wych yn y cystadlaethau Prydeinig yn 2005. Wnes i 'rioed feddwl y bysen ni'n gwneud cystal gan ein bod yn erbyn clybiau efo dros 800 o aelodau yn Lloegr a dim ond tîm bach ydyn ni.

"Ar un adeg, ein clwb ni yng Ngholeg Normal, Bangor, oedd yr unig glwb yn yr ardal. Wedyn daeth un i Gaergybi ac erbyn hyn mae 'na glybiau ym mhobman.

"Ond dydi pob clwb ddim yn perthyn i'r un ffederasiwn. Mae ein ffederasiwn ni, sef Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru wedi ei drwyddedu ac yn cael cydnabyddiaeth gan y corff llywodraethu ac mae'n bwysig dros ben fod pwy bynnag sy'n ymuno efo clwb yn gwneud yn siŵr fod y clwb yna'n perthyn i'r corff llywodraethu. Heb hynny, dydy'r clwb ddim wedi ei drwyddedu ac felly ddim yn rhan o Chwaraeon Cymru, sy'n sicrhau bod gan bawb sy'n hyfforddi, yn enwedig y rhai sy'n edrych ar ôl plant, y cymwysterau priodol. Yr unig rai sy'n gallu rhoi'r rhain yw'r corff llywodraethu.

"O fewn ein ffederasiwn ni mae ein clwb ni ym Mangor, sef Seki Ryu Zan, sy'n golygu Mynydd y Ddraig Goch. Mae 'na hefyd Glwb Mona yn Amlwch, Clwb Sakura yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon, Clwb Bushido (ffordd yr ymladdwr) yn Nefyn a chlybiau yn Llandudno a Bae Colwyn.

"Rhaid i chi fod yn saith mlwydd oed i gychwyn y dosbarthiadau i blant. A dydych chi byth yn rhy hen i roi tro arni!

"Dim ots chwaith pa mor ffit ydych chi i ddechrau - bydd yr ymarfer yn eich cael chi i fyny i'r safon cyn pen dim!

"Mae ganddon ni hyfforddwr yng Nghaernarfon sydd wedi hyfforddi person gydag anabledd cerdded - roedd o wedi colli lot o'i symudiad yn ei gorff a daeth aton ni am hyfforddiant. Mi fyddwn ni'n gwneud asesiad o allu pawb sydd awydd cymryd rhan."

Llwyddiant yn y pencampwriaethau Prydeinig...


Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý