Gwrandewch ar Meinwen yn sôn am ei rysáit ...
"Roeddech chi wedi gwneud hwn cyn y Nadolig. Doedd yna ddim trydan, felly roedd yn rhaid ei wneud ar dân - nid un yn fflamau i gyd, ond pan oedd wedi mynd i lawr, wedi cochi tua wyth y nos.
"Rhaid cael triog, siwgr, menyn ac ychydig bach o ddŵr a'i ferwi yn ara' deg tan fod y sŵn yn newid a'r gymysgedd yn ffrwtian. Yna cymerwch gwpan o ddŵr oer a rhoi llwyaid o'r cymysgedd ynddo. Cnociwch o yn erbyn yr ochr ac os yw'n caledu, mae'n barod.
"Yna, irwch dun a'i osod ynddo. I mi, os ydych yn ei adael yn y tun i galedu, taffi ydy o.
"Ond i wneud cyflaith, irwch eich dwylo ac, os fedrwch chi - gan ei fod yn boeth - codi lwmp o'r gymysgedd, tynnwch o yn eich dwylo tan mae'n troi'n frown golau. Bydd yn mynd yn stiff, felly torrwch o'n ddarnau efo siswrn - dyna beth yw cyflaith.
"Roedd mam yn gwneud lot ohono - roedd hi'n cadw tuniau neu botiau i'w roi ynddynt a byddai'r hen ddynion yn hoff iawn ohono.
"Roedden ni hefyd yn cael pwdin Nadolig, ac yn ei fwyta mewn clwt - roedd 'na chwech yn y teulu a doedden ni ddim yn defnyddio chwe bowlen wrth gwrs, neu fysa dim powlenni ar ôl yn y tŷ!" Mwy o atgofion Meinwen a chriw Merched y Wawr, Bangor
|